Dewislen
English
Cysylltwch

Blog: Ffrwyth ein Tân gan Siôn Tomos Owen

Cyhoeddwyd Llu 4 Rhag 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Blog: Ffrwyth ein Tân gan Siôn Tomos Owen
Mae’r artist Siôn Tomos Owen wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp sy’n mynychu sesiynau Therapi Coedwigol Croeso i’r Goedwig i greu dyddiadur gair-a-llun sy’n dogfennu’r modd y mae’r grŵp yn cysylltu â natur, fel rhan o brosiect Llên mewn Lle Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru. Yn y blog isod mae’n adlewyrchu ar y prosiect hyd yma.

“Roedd hi’n oer ac yn wlyb…” Mae cymaint o ddarnau ar ysgrifennu natur ‘dwi wedi eu darllen yn dechrau rhywbeth fel hyn – gan gymharu byd natur gyda’r pethau cysurus am fod gartref mewn ffordd negyddol. Nid y math yna o flog fydd hwn. Dros fisoedd olaf hydref 2022, cyn iddi wedyn ddiferu i’r gwanwyn, oedd roedd hi’n oer a gwlyb, ond roedd hi hefyd yn gynnes a gwyrdd, yn llaith a melys, llwyd ac anghofiadwy, a thrwy’r cyfnod hwn roedd criw bach yn ymgasglu o amgylch golau a chlecian tân.

Yr orsaf olaf ar reilffordd y Rhondda Fawr yw Treherbert; yr unig un o’r ddau gwm sydd â rheilffordd erbyn hyn (rhan o ffordd osgoi yw rheilffordd Rhondda Fach erbyn hyn). Fel bachgen ro’n i’n gyrru’r beic dros y Pixie Bridge ar fy ffordd i fyny i ddringo The Rocks (hen chwarel) neu‘n sgrialu i fyny King Kong’s Arse, slag glo fawr ar ben fasin Treherbert. Mae grŵp natur cymunedol Welcome to our Woods wedi cymryd perchnogaeth o’r ardal gyfan hon yn ddiweddar. Yn bennaf, hen goed llarwydden a blannwyd i’w defnyddio i greu propiau am lefelau ym mhyllau glo Bute a Lady Margaret. Dros y blynyddoedd, mae wedi’i dorri’n ôl ac mae ynn, bedw, ysgaw a derw brodorol deiliog yn adennill y fowlen werdd, fawreddog hon yn araf bach.

Yn haf chwyslyd a chlos 2022 nes i gyfarfod Martyn Broughton a’r grŵp Therapi Coetir am y tro cyntaf. Dechreuodd y grŵp Therapi Coetir fel prosiect chwe wythnos; rhywle diogel, ym myd natur, i bobl gyfarfod o amgylch tân i siarad neu wrando ar y gwynt, yr adar, a’r dŵr. Byddai cawl yn cael ei baratoi a’i goginio mewn crochan haearn dros y tân, coffi mewn cwpanau metel bach, ac roedd posib mynd am dro i ddarganfod ffawna a fflora lleol.

Yna, heb adael unrhyw olion, byddai’r gofod yn dychwelyd fel ag yr oedd, dim ond cylch o foncyffion mewn llencyn bach yn y coed… tan yr wythnos ganlynol. Roedd hynny ddwy flynedd yn ôl. Fel tân yn mudlosgi, roeddem ni’n ei gynnal ac yn parhau i gwrdd yn wythnosol. Ac yn union fel glo enwog yr ardal – a fyddai’n troi ddiemwntau o gael ei adael yn ddigon hir – mae’r grŵp hwn yn pefrio mewn tirwedd ôl-ddiwydiannol.

Ar y diwrnod cyntaf, cymerais ysbrydoliaeth gan lygaid y dydd. Roedd y grwp wedi diddori â’r ffaith dod Daisy yn dod o’r Gymraeg, Y dydd – Day a Llygaid yn gweld – See: Daisy. Roedd gweld y dydd drwy lygaid ffres y tro cyntaf i ni gwrdd o amgylch y tân yn donic, yn feddyginiaeth. Cyfle i ail-edrych a gwerthfawrogi rhywle sydd dafliad cared i ffwrdd o’r traciau sy’n cludo ni allan o’r cwm, i gwrdd o dan ei ganopi gwyrddlas, ei arogli, ei flasu, fel oedden ni’n gwneud ers talwm ac i’w fwynhau am un bore yr wythnos. Daeth yn gyfle i ni gael ein hatgoffa bod byd natur o’n cwmpas, a’i fod werth ei achub a brwydro drosto, ac fel ddaeth i’r amlwg dros y cyfnod, yn ein hachub ninnau, a hynny mewn mwy nag un ffordd.

Pan fydd yr adar yn canu yn y coed yma mae pob aderyn yn canu ei gân ei hun, fel mae pob aelod o’r grŵp therapi yn ei wneud. Mae rhai yn trydar o doriad gwawr tan y machlud, bydd gan eraill synau bach fydd yn cael eu ailadrodd dro ar ôl tro. Ond yn achlysurol, mae aderyn na fyddwn yn ei glywed yn aml yn cymryd anadl ddofn… ac yn canu.

Does dim pwysau i fod yma, does dim costau i’w talu. Nid fel y clybiau lleol lle byddai pobl yn cyfarfod i siarad, ymladd neu yfed trwy eu trafferthion… yn eironig, mae’r tân yn agos i safle bragdy enfawr Treherbert, ond yr unig alcohol nawr yw’r stwff sydd yn y sebon dwylo – dal yma ers  amser Covid.

Ar un o fy ymweliadau cyntaf nes i gwrdd â dyn oedd yn cerdded i fyny’r llwybr tuag at y grŵp. Roedd ganddo gi egnïol ar dennyn ac roedd yn cario bag plastig.

“Alright butt, you go up there with them, don’t you?  What’s that all about then?” gofynnodd.

“Well, it’s just a group of people who meet out in nature. They cook a soup on the fire and… talk.”

“Aye, I seen you all do that. I sit up here sometimes, see, with the dog.”

“You should come over, no harm in it if you’re up here anyway…”

“Nah, I just drink now, look,”

tynnodd bedair can o lager cryf o’r bag plastig. “I come up here, take pictures of my dog and drink, thats what I do…” meddai’n dawel.

“I’m sure you’ll be welcome…”

“I might…”

Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, daeth i’r grŵp.

Nid yw Welcome to our Woods yn grŵp cymorth iechyd meddwl yn benodol; mae fwy i’w wneud â sut y gall natur ei hun fod yn llesol, ac mae’n darparu lle i archwilio hyn. Mae pob un ohonom yn delio ag iechyd meddwl mewn ffordd sy’n unigryw i ni. Mae siarad a chael clust i wrando yn helpu rhai, tra bod eistedd wrth y tân yn gwylio’r fflamau a chlywed ei glecian yn helpu eraill. Mae un neu ddau yn gweld paratoi’r cawl yn therapiwtig, mae ambell un yn mynd am dro… efallai y bydd eraill yn tynnu lluniau o’u ci gyda chaniau o lager, ond maen nhw i gyd yn cael eu tynnu at natur.

Fel rhan o’r sesiynau, cytunodd rhai pobl i adael imi gynnwys eu hanesion mewn dyddiadur darluniol. Maent yn rhannu eu brwydrau, ond hefyd eu gobeithion a’u breuddwydion, ac weithiau mae ein sgyrsiau yn plannu hedyn o fyfyrio. Yn un o’r sesiynau tra’n trafod ei gyfnod ers y cyfnod clo, sylweddolodd Richard rywbeth…

 

Ar ôl ychydig wythnosau, roeddwn innau’n cael cyfnod eithaf trafferthus fy hunan. Roeddwn wedi fy nigalonni gan ychydig o bethau nad oedd yn mynd yn dda gyda’r gwaith a doeddwn i ddim yn teimlo’n ddigon parod i siarad wrth y tân fel yr arfer. Byddwn fel arfer yn defnyddio cerddi neu straeon fel ffurf o ymwybyddiaeth ofalgar a byddai’r grŵp yn myfyrio ar y geiriau. Weithiau byddai rhain yn tanio sgwrs am ein perthynas â natur neu gyda’n gilydd, a sut y gallai bod yn y grŵp setlo’r meddwl a’ch helpu i ddod nôl at eich coed.

Ond roedd gen i imposter syndrom.

Do’n i ddim yn barod i ddechrau sgwrs am rai materion iechyd meddwl pan oeddwn yn cael trafferth gyda nhw fy hun. Dydw i erioed wedi bod yn wych yn siarad am materion fy hun. Mae pawb yn delio â’u hiechyd meddwl mewn ffordd wahanol. Weithiau rwy’n defnyddio sgwennu.  O edrych yn ôl ar gyfnodau caled mewn bywyd, sylweddolais bod angen i mi gael uchder, sef roedd angen imi fynd i fyny’r bryniau, i mewn i’r coed, i ffwrdd o straen a phryderon bywyd modern.

Pan o’n i’n yr ysgol ac yn cyrraedd adref yn drist am rywbeth, ro’n i’n neidio trwy’r rhedyn i ben Cefn y Rhondda, y mynydd tu ôl i’n bwthyn, a myfyrio ar ymyl y chwarel. Pan oeddwn i’n casáu gweithio mewn ffatri yn Ffynnon Taf, bob amser cinio byddwn yn rhedeg yn ddig i fyny mynydd Y Garth ac yn gweiddi o’r copa. Tra yn y brifysgol roedd tynnu fy sgidiau a rhoi traed ar y glaswellt oer yn ddigon i dawelu fy mhryderon. Mae pawb yn delio â’u hiechyd meddwl mewn ffordd wahanol. Y diwrnod hwnnw, wrth gerdded i fyny i Gwm Saerbren, cerddais ychydig ymhellach i’r coed cyn mynd at y tân. Cerddais heibio cwpl ar gefn ceffyl a rhai’n cerdded cŵn a phenderfynu mynd i wely’r afon. Wrth iddi lifo, ro’n i’n teimlo … yn well. Digwyddodd dim byd, wnes i ddim byd penodol, jyst sefyll o dan y coed â dŵr yn llifo o amgylch fy nhraed. Roedd yn ddigon.

Cerddais nôl at y criw oedd ychydig ymhellach i fyny i’r coed nag arfer a chael fy nghyfarch yn frwd gan Martyn a’r lleill, yr un fath â phob tro arall, gan eistedd amgylch y tân a siarad a bwyta cawl. Ro’n i’n teimlo’n well.

Y bore hwnnw, ar ôl imi ddarllen cerdd oedd wedi ei hysbrydoli gan y sesiwn yr wythnos flaenorol, siaradodd K, sydd fel arfer yn dawel iawn, yn gwenu’n nerfus a gwrando. Newidiodd sut ro’n i’n teimlo’n llwyr.

“When I was in school something went wrong in my brain and I started speaking a language nobody spoke. I was in hospital for six months and started having mental health problems.”

Roedd aelodau’r grŵp oedd fel arfer yn uchel eu cloch yn gwrando’n astud wrth iddi siarad.

“I struggled for years to get back to feeling myself but coming here has helped so much. Being out in the fresh air, hearing the poems and smelling the fire makes me feel better inside my head, enough to speak about it because I feel safe enough to talk about it now.”

Ar y pwynt hwn cerddodd un o’r aelodau eraill draw, eisteddodd wrth ei hymyl, dal ei llaw a dweud,

“It’s brilliant that you feel like that. You’re brave in saying it.”

Edrychodd K i lawr ar ei llaw ac yna yn ôl i fyny ar wynebau gwenu’r grŵp, gwenodd yn ôl.

“Thank you, everyone.”

Roedd hi’n foment mor emosiynol, roeddwn i wedi fy nghyffwrdd gymaint, roedd fel bod K wedi ymuno yn y rhannu ac wedi dod o hyd i’w llais. Roedd yn arbennig.

Y lle saff hwn yn y coed, y geiriau cryno, cyffyrddiad tyner a gwên ddiolchgar. Roedd rhywbeth mor arbennig am ei symlrwydd.

Mae pethau arbennig yn digwydd yma ym myd natur. Maen nhw’n digwydd bob wythnos. Mae nhw wastad wedi digwydd.

Blog