
The Making of a Monster
Stwnsh grime-theatr gan Connor Allen.
Rhy ddu i fy ffrindiau croenwyn, ond rhy wyn i fy ffrindiau croenddu. Wrth dyfu lan fel rhywun hil gymysg yng Nghasnewydd, syrthiais i mewn i gwmwl llwyd.
Tad Du absennol, yn cuddio o’r heddlu, yn ystyried beth yw ystyr bod yn ddyn. Ro’n i’n ymdrechu i ddod o hyd i fy lle i yn y byd ac mewn perygl o golli rheolaeth ar bethau. Yna newidiwyd fy mywyd gan un ennyd.
Crëwyd gan ddiwylliant grime ac ysbrydolwyd gan Dizzee Rascal, Wiley, Skepta a Kano, The Making of a Monster yw fy hanes i.
Amser cychwyn: Maw – Sad 7pm, Sad 2pm
Rhagolwg: Mer 9 Tachwedd 7pm £10
Canllaw oed: 14+
Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref, themâu hiliaeth a thrais domestig, ac iaith y bydd rhai cynulleidfaoedd yn ei hystyried yn heriol.
Perfformiadau Hygyrch:
Mae pob perfformiad yn cynnwys capsiynau creadigol yn Saesneg
Perfformiadau Gwe 11, Sad 12 (7pm) + Iau 17 Tachwedd â sain ddisgrifiad Saesneg
Pris:
Dan 26 oed: £10
Myfyrwyr + Digyflogedig: £12
Ysgolion: £10 — Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.