Dylai plant a phobl ifanc Cymru a thu hwnt uniaethu â’r llyfrau y maent yn eu darllen a gweld teuluoedd a sefyllfaoedd sy’n debyg i’w bywydau eu hunain, 

Ymunwch â ni am drafodaeth banel sy’n canolbwyntio ar y thema o adrodd straeon ac ystrydebau. Drwy ymuno â’r sesiwn byddwch yn deall sut i gydnabod, gwyrdroi, a diystyru ystrydebau, neu lle’n berthnasol eu cysidro fel arfau o fewn naratif. Bydd y weminar rhad ac am ddim hon yn cynnwys trafodaeth 1 awr ac yna sesiwn holi-ac-ateb 30 munud. 

 Cofrestru: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_k4x52PZ8RjOjuyvKUbsCUg

Siaradwyr 

Mae Aoife Dooley yn awdur darluniadol a digrifwr arobryn. Mae hi hefyd yn ddylunydd graffeg ac yn siaradwr cyhoeddus. Mae hi’n enwog am ei chyfres ‘Your One Nikita’ sy’n disgrifio bywyd dynes 22 mlwydd oed a’i ffrindiau o Coolock. Cyhoeddodd dau lyfr gyda Gill Books yn yn seiliedig ar Nikita yn 2016 a 2017 sef ‘How To Be Massive’ a ‘How To Deal With Poxes’. Yn 2018 daeth ‘Your One Nikita’ i sgriniau fel cyfres deledu wedi’i animeiddio ar gyfer yr RTE Player. Cafodd y gyfres ei hanimeiddio a’i chynhyrchu gan Digital Beast. Mae hi wedi siarad mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys Offset, Zeminar, Creative Events a mwy. Roedd yn banelydd rheolaidd ar sioe Elaine ar Virgin Media ac mae ganddi brofiad gyda theledu byw a radio. Mae Aoife hefyd wedi perfformio mewn gwyliau fel Gŵyl Gomedi Vodafone, Body & Soul, Electric Picnic a mwy. Yn 2017 enillodd wobr U Magazines 30 dan 30 am y digrifwr gorau. 

Yn 2018 cafodd Aoife ddiagnosis o Awtistiaeth yn 27 oed. Ers hynny, mae hi wedi siarad am ei phrofiadau mewn nifer o ddigwyddiadau sydd wedi atseinio’n ddwfn gyda chynulleidfaoedd. Mae hi wedi rhannu ei phrofiad o sut dechreuodd i ddeall ei hun yn well yn dilyn y diagnosis ac mae wedi creu comics a diagramau ynghlwm â’r thema o beth yw Awtistiaeth iddi hi. 

Cyhoeddodd Aoife ei llyfr Plant cyntaf yn 2019, ‘123 Ireland’ gyda Little Island Books a enillodd wobr Llyfr Plant y flwyddyn Specsavers yng ngwobrau llyfrau An Post. Mae Little Island wedi cyhoeddi eu bod yn gweithio ar ail lyfr gydag Aoife, ‘ABC Ireland’, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2022. 

Yn 2020 cafodd Scholastic UK hawliau byd-eang i ‘Frankie’s World’, nofel graffeg yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Aoife o awtistiaeth. Fe’i cyhoeddwyd yn Ionawr 2022 a gyda chanmoliaeth gan The Guardian, a The Irish Print  a bu rhaid ei ailargraffu o fewn mis o’i ryddhau. Mae Frankie’s World yn cael ei gyhoeddi gan Graphix Books a bydd ar gael mewn siopau ar draws yr Unol Daleithiau ym mis Awst 2022. 

 

Lee Newbury 

Lee Newbery yw awdur ‘The Last Firefox’, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr Plant Waterstones, a’i ddilyniant a ryddhawyd yn ddiweddar, ‘The First Shadowdragon’. Mae’n byw yn ne Cymru gyda’i ŵr a’u mab, ac yn ddiweddar iawn mae wedi dod yn awdur llawn amser – rhywbeth y mae wedi breuddwydio ei wneud ers ei fod yn ei arddegau. Mae wrth ei fodd yn ysgrifennu llyfrau antur hudolus sy’n gynhwysol ac amrywiol, ond heb eu gor-arwain gan faterion. Gyda digon o Gymreictod ar gael ynddyn nhw, wrth gwrs! 

 

Sue Cheung 

Awdur/darlunydd Prydeinig-Tsieineaidd yw Sue Cheung. Wedi’i geni yng nghanolbarth Lloegr, i rieni a oedd yn rhedeg bwyty, treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn darllen copïau o Beano a Dandy ac yn breuddwydio am greu ei chomics ei hun. Yn 16 oed bachodd ar ei chyfle i fod yn artist trwy ennill ysgoloriaeth i Goleg Ffasiwn Llundain trwy gystadleuaeth yng nghylchgrawn Mizz i ferched yn eu harddegau. Yn ddiweddarach mentrodd i fyd hysbysebu a gweithiodd ei ffordd i fyny at fod yn Gyfarwyddwr Celf. Mae Sue bellach yn llawrydd fel dylunydd o’i chartref yn Dorset, lle mae hi hefyd yn ysgrifennu ac yn darlunio llyfrau i bobl ifanc o bob oed, gan gynnwys y nofel arobryn YA Chinglish a’r gyfres ddarluniadol Maddy Yip.