Dewislen
English
Cysylltwch

Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys i wneud cais? 

Mae’r rhaglen ar agor i’r rhai dros 18 oed ac sy’n byw yng Nghymru pan yn gwneud y cais a thrwy gydol y rhaglen 12 mis.

Nid yw’r rhaglen yn agored i fyfyrwyr llawn-amser neu rhan-amser rhwng Tachwedd 2026 a Rhagfyr 2027.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu diwylliant llenyddol sydd wir yn cynrychioli amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru. I’r perwyl hwn, rydym yn croesawu’n arbennig ymgeiswyr sy’n gallu egluro perthnasedd eu profiadau bywyd amrywiol i’r prosiectau yr hoffent eu datblygu a’u cyflwyno. Byddwn yn annog ymgeiswyr i egluro yn eu geiriau eu hunain sut y cânt eu tangynrychioli o fewn diwylliant llenyddol Cymru, e.e.:

  • Cefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig
  • O gefndir incwm isel (unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau gan gynnwys lwfansau anabledd pan oedd ymgeiswyr yn 14 oed)
  • unigolion sy’n arddel hunaniaeth F/fyddar neu anabl, neu sydd â chyflwr iechyd hirdymor
  • LHDTC+

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan hwyluswyr sy’n cynnal gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg yn arbennig, ac wedi ymrwymo i helpu i greu cronfa ehangach o hwyluswyr creadigol Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Gymru i gynnal prosiectau Cymraeg a/neu dwyieithog.

Oes angen profiad blaenorol arnaf i wneud cais, neu ydw i'n rhy brofiadol i wneud cais? 

Mae rhywfaint o brofiad o hwyluso gweithgareddau creadigol yn ddymunol ar gyfer Sgwennu’n Well 3. Efallai y bydd y rhai sydd â phrofiad lleiaf yn dymuno dewis Opsiwn 1, lle byddant yn datblygu sgiliau a gwybodaeth ynghylch defnyddio llenyddiaeth i gefnogi Iechyd a Llesiant. Efallai y bydd y rhai sydd â mwy o brofiad – hwyluswyr ar gychwyn neu yng nghanol eu gyrfa – yn dymuno dewis Opsiwn 2 lle byddant yn cael eu cefnogi i ddyfeisio a chyflwyno eu prosiectau eu hunain.

Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth yw lled-newydd neu ar ganol eu gyrfa, a lle maent yn credu eu bod ar eu taith fel hwylusydd. Os ydych chi’n ansicr ai dyma’r rhaglen iawn i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa, cysylltwch â ni i drafod.

Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu?

Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hasesu gan banel asesu fydd yn cynnwys aelodau o staff Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal ag arbenigwyr annibynnol ym maes iechyd, llesiant a/neu addysg. Yn seiliedig ar yr asesiad, efallai caiff ymgeiswyr gynnig opsiwn gwahanol i’r un y maent wedi gwneud cais amdano.

Byddwn yn chwilio am arloesedd, angerdd, a ffocws clir o ran eich uchelgeisiau a’ch dyhead fel hwylusydd cyfranogi cymunedol creadigol. Byddwn hefyd yn edrych ar addasrwydd y rhaglen hon ar y cam hwn o’ch gyrfa fel hwylusydd.

Byddwn yn canolbwyntio ar ddod â grŵp amrywiol a chynrychioliadol o unigolion ynghyd o ran daearyddiaeth, profiad  ieithoedd, ac unrhyw brofiad byw a nodir yn y cais, a fydd yn cyflwyno persbectif newydd ar ysgrifennu Cymreig ac ymgysylltu â’r gymuned.

Pryd byddaf yn gwybod a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus? A fyddaf yn derbyn adborth ar fy nghais?

Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd erbyn mis Tachwedd 2026. Gan ein bod yn disgwyl llawer o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu rhoi adborth manwl i bob ymgeisydd. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl byddwn yn darparu adborth byr, personol, a chyngor ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid.

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch llesiant. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.

Bydd gan dîm bychan o staff Llenyddiaeth Cymru fynediad at eich cais. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol gyda chyfleoedd personol, yn seiliedig ar eich gwaith a’ch arbenigedd. Er mwyn galluogi Llenyddiaeth Cymru i gydymffurfio â chyfraith diogelu data (GDPR), cwblhewch yr adran berthnasol ar ddiwedd y ffurflen gais i roi gwybod a ydych chi’n hapus i ni gysylltu â chi ai peidio ynglŷn â chynigion yn y dyfodol.

Yn ddibynnol ar gyllid, gobeithiwn y bydd Sgwennu’n Well yn gyfle y gallwn ei gynnig am yn ail flwyddyn. Mae gwybodaeth am ein harlwy i awduron ar gael ar ein gwefan: Rwy’n awdur – Llenyddiaeth Cymru

Beth fydd strwythur y rhaglen?

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad cau i ymgeisio: 12.00 hanner dydd, Dydd Mawrth 6 Hydref 2026

Hysbysu pob ymgeisydd o’r penderfyniad: erbyn canol mis Tachwedd 2026

5 sesiwn hyfforddi arlein: Tachwedd 2026 – Chwefror 2027

  • Gwerthusiad Creadigol 1.00 – 2.30 pm Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026
  • Cynllunio Prosiect 1.00 – 2.30pm Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2026
  • Diogelu 1.00 – 2.30 pm Dydd Mercher 13 Ionawr 2027
  • Cynllunio prosiect dwyieithog 1.00 – 2.30 pm Dydd Mercher 27 Ionawr 2027
  • Gwerthusiad Creadigol ac Adlewyrchu 1.00 – 2.30 pm Dydd Mercher 10 Chwefror 2027

Cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd: Dydd Gwener 26 – Dydd Sul 28 Chwefror 2027. Gyda’r tiwtoriaid clare e. potter ac Iola Ynyr

(Opsiwn 1) Cyfarfodydd 1-2-1 gyda staff Llenyddiaeth Cymru i drafod cefnogaeth: Mis Mawrth 2027

(Opsiwn 2) Datblygu’r prosiect: Mis Mai 2027

(Opsiwn 2) Cyflawni’r Prosiect (yn ddibynnol ar gyllido): Gorffennaf – Rhagfyr 2027

(Opsiwn 2) Gwerthuso Prosiect: Mis Ionawr 2028

Ar gyfer opsiwn un (y rhai sy’n gwneud cais am yr hyfforddiant dwys), byddwch yn cael cyfarfodydd gyda staff Llenyddiaeth Cymru i nodi’r math o gefnogaeth barhaus y gallech fod ei hangen. Gall hyn fod yn fentora, cysgodi neu gyfuniad o’r ddau.

Ar gyfer opsiwn dau (y rhai sy’n derbyn cyllid prosiect) byddwch yn gweithio gyda mentor a dysgu o’r sesiynau hyn i ddatblygu cynllun prosiect cyfranogiad ar gyfer iechyd a lles, gan ddefnyddio ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth fel offer. Bydd y cynllun yn cynnwys edrych ar dargedau effaith eich prosiect ar y cyfranogwyr a ddewiswyd, cynnwys a strwythur creadigol y prosiect, rheoli cyllidebau, cofnodi a chyfleu effaith, diogelu’r grwpiau, ffurfio partneriaethau, codi arian a mwy. Noder bod cyflawni’r prosiect yn ddibynnol ar nawdd.

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r rhaglen ddod i ben?

Ar ôl y rhaglen 12 mis, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r garfan drwy gadw mewn  cysylltiad â nhw, cynnig cyngor a gwahodd yr hwyluswyr i gyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi pellach. Mae hwn yn fuddsoddiad hirdymor yn natblygiad yr hwyluswyr. Bydd Llenyddiaeth Cymru hefyd yn gweithio gyda’r hwyluswyr i annog hirhoedledd eu prosiectau.

Ym mha iaith y caiff y rhaglen hon ei chyflwyno?

Mae ’Sgwennu’n Well yn rhaglen ddwyieithog, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan hwyluswyr o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i hwyluswyr sydd ddim yn gweithio drwy’r Gymraeg ar hyn o bryd, ond sydd â diddordeb mewn dechrau arni, yn ogystal â hwyluswyr sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol hefyd. Bydd pob gweithgaredd yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, gyda dehongliad byw lle bo angen.

Mae aelodau staff sy’n siarad Cymraeg yn rhugl yn gweithio ar y rhaglen a byddant yn cefnogi aelodau’r garfan sy’n dewis gweithio drwy’r iaith Gymraeg, a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod pob aelod unigol o’r garfan yn derbyn manteision llawn y rhaglen beth bynnag fo’u dewis iaith.

Faint o fy amser fydd angen i mi ei roi i’r rhaglen? A allaf wneud cais os oes gennyf gyflogaeth a/neu gyfrifoldebau gofalu? A fydd yn ofynnol i mi deithio ar gyfer digwyddiadau?

Yr elfen hyfforddi

Bydd y gweithgareddau hyfforddi digidol 90 munud yn cael eu cyflwyno’n arlein yn ystod amser cinio. Gofynnwn am ymrwymiad gan bob aelod o’r garfan i fynychu pob digwyddiad, ond os bydd rhywbeth brys neu annisgwyl yn atal hwylusydd rhag mynychu, mae’n bosib y bydd recordiadau ar gael i’w gwylio yn nes ymlaen. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru bob amser wrth law i gefnogi’r hwyluswyr a helpu i sicrhau bod pob aelod o’r garfan yn elwa o’r rhaglen. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys penwythnos preswyl y bydd gofyn i chi ei mynychu  yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o ddydd Gwener 26 i ddydd Sul 28 Chwefror 2027.

Opsiwn 1 – Bydd y rhaglen hefyd yn cynnig hyd at 5 sesiwn fentora, cysgodi neu gyfuniad o’r ddau o awr i ddwy yr un.

Opsiwn 2 – Bydd y rhaglen yn cynnig cyllid i ddatblygu a chyflwyno prosiect peilot o hyd at 6 gweithdy a 3 sesiwn fentora o awr i ddwy awr yr un.

Mae gennyf anabledd neu salwch a allai ei gwneud yn anodd cymryd rhan, a allwch chi helpu?

Gallwn. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion cyn a thrwy gydol y rhaglen. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae Cronfa Fynediad ar gael i alluogi cyfranogiad llawn mewn digwyddiadau i awduron a hwyluswyr ag anableddau neu salwch a allai fod â gofynion mynediad ychwanegol.

I gael gwybodaeth am hygyrchedd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ewch i wefan Tŷ Newydd: https://www.tynewydd.cymru/y-ty/mynediad/

Defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI)

Defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI)

Mae Llenyddiaeth Cymru ac aelodau ei banel dethol allanol yn dewis awduron ar sail potensial, nid perffeithrwydd. Rydym am ddod i’ch adnabod chi a’ch llais, felly er y gallai defnyddio offer golygu deallusrwydd artiffisial (AI) fod yn ddefnyddiol i gefnogi eich anghenion mynediad wrth ateb cwestiynau’r ffurflen gais, ni ddylid ei ddefnyddio i greu persona na gorliwio eich profiadau.

Mae ein rhaglenni datblygu awduron yn ddwys – bydd gofyn i awduron gyfrannu naill ai’n bersonol neu arlein yn ystod sesiynau ac ni fyddwch yn gallu dibynnu ar ddeallusrwydd artiffisial i gynhyrchu gwaith. Ystyriwch yn ofalus ai hwn yw’r amser cywir i gymryd rhan yn y cynllun hwn.

Nôl i Sgwennu’n Well