Sgwennu’n Well
Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr llenyddol, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant. Bydd hon yn rhaglen datblygu proffesiynol blwyddyn o hyd gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer grŵp o hwyluswyr ar gychwyn neu ganol eu gyrfa.
Mae’r chwe mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel datblygu a rheoli prosiectau, rhedeg cyllidebau, casglu a chyfathrebu effaith eich gwaith, diogelu grwpiau, codi arian – a mwy. Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a llesiant ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol. Hefyd yn rhan o’r cynllun mae mentora un-i-un; gweithdai a sgyrsiau misol yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd a meithrin perthynas ag awduron eraill.
Yn dilyn y rhaglen hyfforddi chwe-mis gychwynnol, y bwriad yw i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen.
Ar ôl y rhaglen 12 mis, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r garfan a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr eu bod yn gallu derbyn y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu hamcanion.