Ydych chi’n fardd neu’n awdur sydd eisiau datblygu eich sgiliau wrth gyflwyno gweithgareddau ysgrifennu creadigol yn eich cymuned leol? Ydych chi’n credu yng ngrym llenyddiaeth a natur i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau? Yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Dyddiad cau: 12.00pm, Dydd Mawrth 6 Hydref 2026.
Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn raglen datblygu proffesiynol 15 mis o hyd gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer grŵp o hwyluswyr, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant a Natur. Dylai’r cyfranogwyr fod ar gychwyn neu ganol eu gyrfa gyda lleiafswm o flwyddyn o brofiad yn hwyluso prosiectau yn y gymuned.
Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn raglen datblygu proffesiynol gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer 10 o hwyluswyr ar gychwyn neu ganol eu gyrfa i ddatblygu eu sgiliau a gwybodaeth, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant.
Mae gan y rhaglen ddau opsiwn:
Opsiwn 1
- 5 sesiwn hyfforddi arlein yn cynnwys hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar gelfyddydau ar gyfer iechyd a lles (Tachwedd 2026 – Ionawr 2027). Bydd y sesiynau’n ymdrin â Diogelu, Cynllunio Prosiectau, Gwerthuso Creadigol, Codi Arian a mwy.
- 1 encil penwythnos wyneb yn wyneb dan arweiniad clare e. potter ac Iola Ynyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd (26 – 28 Chwefror 2027)
- Cefnogaeth wedi ei deilwra. Mae sawl opsiwn ar gyfer y gefnogaeth hon. Er enghraifft, gall fod yn gyfres o sesiynau mentora gyda ffrind creadigol, neu gyfle i gysgodi hwylusydd creadigol. Bydd y rhan hon o’r rhaglen yn cael ei thrafod a’i phenderfynu gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus fel y gallwn gynnig yr opsiwn gorau yn seiliedig ar eu gofynion a’u amcanion.
Mae 5 lle ar gael ar gyfer Opsiwn 1. Efallai y bydd yr opsiwn hwn yn apelio atoch os ydych chi’n hwylusydd llenyddol sydd eisoes yn cynnal prosiectau cymunedol, neu’n gweithio mewn sefydliadau fel llyfrgelloedd, elusennau, Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai, ac yn dymuno cynyddu eich gwybodaeth a’ch sgiliau wrth gyflwyno gweithdai sy’n ymwneud yn benodol gydag iechyd a lles. Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd â phrofiad ymarferol cyfyngedig ac a hoffai gysgodi awdur arall neu gael cefnogaeth i ddyfeisio prosiect yr hoffech ei redeg yn y dyfodol.
Opsiwn 2
- 5 sesiwn hyfforddi arlein yn cynnwys hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar gelfyddydau ar gyfer iechyd a lles (Tachwedd 2026 – Ionawr 2027).
- 1 encil penwythnos wyneb yn wyneb dan arweiniad clare e. potter ac Iola Ynyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd (26 – 28 Chwefror 2027)
- Pot o £3000 i ddatblygu, cyflawni a gwerthuso prosiect hwyluso (i’w gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2027)
- 3 sesiwn gyda mentor/ffrind creadigol
- Cymorth i werthuso a dogfennu eich prosiect
Mae 5 lle ar gael ar gyfer Opsiwn 2. Efallai y bydd yr opsiwn hwn yn apelio atoch os ydych chi’n hwylusydd ar ddechrau eich gyrfa sydd â rhywfaint o brofiad o hwyluso ac sydd â syniad prosiect penodol mewn golwg yr hoffech ei dreialu. Bydd y prosiect yn cael ei redeg mewn partneriaeth â sefydliad lleol gyda’r nod o gefnogi Iechyd a Llesiant y cyfranogwyr.
Beth fydd yr ymgeiswyr llwyddianus yn elwa?
Bydd y rhaglen hyfforddi ddwys yn cynnig cyfleoedd i fireinio eich sgiliau fel hwylusydd llenyddol. Bydd pynciau pwysig a drafodir yn cynnwys diogelu, mynediad a chynhwysiant, a byddwn yn edrych ar sut i ddatblygu a chynllunio prosiect hwyluso yn ofalus. Bydd hyn yn cynnwys rheoli cyllidebau, codi arian, a sut i gofnodi a chyfleu effaith eich gwaith. Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth ar gyfer iechyd a lles i amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn amrywiol leoliadau ac yn derbyn pecyn cymorth i gefnogi cynllunio a chyflwyno prosiectau. Bydd cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth wedi ei deilwra gan Llenyddiaeth Cymru.
“Nid yw’n ormod dweud bod y profiad wedi newid fy mywyd… O dan fentoriaeth hael a sensitif clare e. potter, a diolch i blatfform o arbenigwyr, cefnogaeth ddi-ffael Louise a Mared yn Llenyddiaeth Cymru a grŵp gwych o ofalwyr a oedd eisiau ysgrifennu am natur, rwy’n dod o hyd i lwybr newydd.
Am yr amser hiraf, rwyf wedi teimlo awydd i weithio gyda phobl…ond roedd amgylchiadau fy mywyd yn golygu bod newid gyrfa bob amser y tu hwnt i’m cyrraedd. Yn 50 oed, roeddwn yn ansicr a fyddwn byth yn cael y cyfle hwnnw. Yn 51 oed, rwy’n cerdded y llwybr. Diolch.”
Tracey Rhys, Cyfranogwr Sgwennu’n Well
Yn dilyn y rhaglen hyfforddi, bydd y 5 Hwylusydd a ddewiswyd ar gyfer Opsiwn 1 yn dechrau eu hail gam o’r rhaglen, a fydd yn cynnwys amser i ddatblygu cynlluniau prosiect unigol gan ddefnyddio’r pecyn cymorth a’r sgiliau newydd a gafwyd o’r rhaglen hyfforddi. Mewn cydweithrediad â staff Llenyddiaeth Cymru, byddant yn nodi pa gefnogaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol, a allai gynnwys cyfres o sesiynau mentora neu gysgodi hwylusydd creadigol profiadol. Bydd y 5 Hwylusydd a ddewiswyd ar gyfer Opsiwn 2 yn mynd ymlaen i gyflawni’r prosiectau y maent wedi’u dyfeisio. Bydd y prosiectau peilot hyn yn fan cychwyn i gynnig hyder a mewnwelediad ar sut i fentro ar yrfa fel hwylusydd llenyddol yng Nghymru. Bydd staff Llenyddiaeth Cymru, a mentoriaid profiadol wrth law i helpu gyda’r datblygiad a’r cyflawni. Bydd y rhaglen yn dechrau fis Tachwedd 2026 ac yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2027.
Bydd sesiwn Holi ac Ateb dros Zoom am y rhaglen ar ddydd Mercher 16 Medi rhwng 1.00 – 2.00 pm. Cofrestrwch yma.
Cymhwysedd
Mae’r rhaglen ar agor i rai dros 18 oed ac sy’n byw yng Nghymru pan yn ymgeisio a thrwy gydol y rhaglen 12 mis. Noder nad yw myfyrwyr (llawn amser na rhan amser) yn gymwys.
Rydym yn awyddus i annog ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth deg yn y sector creadigol, a chan ymgeiswyr sydd wedi wynebu rhwystrau a gwahaniaethu oherwydd cefndir ethnig, anabledd neu brofiad o gefndir incwm isel.
Yn benodol, rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, unigolion anabl neu’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, ac unigolion o gefndir incwm isel.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog, a bydd hyd at 50% o’r lleoedd sydd ar gael yn cael eu dyrannu i hwyluswyr Cymraeg.
Bydd angen i’r ymgeiswyr:
Opsiwn Un
- Ymrwymo’n llawn i gymryd rhan ym mhob digwyddiad a gweithgaredd a drefnir fel rhan o’r rhaglen, gan gynnwys y penwythnos preswyl yn Nhŷ Newydd (Chwefror 2027).
- Bod yn angerddol am botensial llenyddiaeth a gweithgareddau llenyddol i gefnogi iechyd a llesiant unigolion a chymunedau o fewn eu sefydliad.
- Bod â gweledigaeth uchelgeisiol o sut y byddant yn defnyddio eu sgiliau a grym llenyddiaeth i ysbrydoli, gwella a bywiogi bywydau.
Opsiwn Dau
- Bod â rhywfaint o brofiad o redeg gweithdai ysgrifennu creadigol neu lenyddiaeth ar gyfer iechyd a llesiant mewn ysgolion, cymunedau neu leoliadau iechyd – nodwch enghreifftiau yn eich cais.
- Ymrwymo’n llawn i gymryd rhan ym mhob digwyddiad a gweithgaredd a drefnir fel rhan o’r rhaglen, gan gynnwys y penwythnos preswyl yn Nhŷ Newydd (Chwefror 2027).
- Bod yn angerddol am botensial llenyddiaeth a gweithgareddau llenyddol i gefnogi iechyd a lles unigolion a chymunedau.
- Bod â gweledigaeth uchelgeisiol o sut y byddant yn defnyddio eu sgiliau a grym llenyddiaeth i ysbrydoli, gwella a bywiogi bywydau.
Sut i wneud cais?
Darllenwch yr alwad agored a’r Cwestiynau Cyffredin yn fanwl. Yna:
Llenwch y ffurflen gais ddigidol hon os gwelwch yn dda . Gellir lawrlwytho fersiwn print bras a dyslecsia-gyfeillgar Bydd y ffurflen gais yn gofyn am y canlynol:
- Eich manylion personol
- Manylion am eich profiadau fel hwylusydd llenyddol
- Manylion am sut bydd yr hyfforddiant yn eich helpu chi fel hwylusydd.
- Gwybodaeth am y grŵp(iau) neu unigolion yr hoffech weithio gyda nhw yn y dyfodol a pham
Os yw llenwi ffurflen ysgrifenedig yn anodd i chi, cysylltwch â ni i drafod ffyrdd eraill o wneud cais, er enghraifft cyflwyno cais fideo.
- Cwblhewch ein Ffurflen Awduron, ar gael yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn ymgeisio, neu os ydych yn awyddus i drefnu sgwrs anffurfiol gydag aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru, mae croeso i chi anfon e-bost at post@llenyddiaethcymru.org neu ffonio un o swyddfeydd Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 (Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Caerdydd).
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mi fydd y panel asesu yn dewis rhestr fer.
Bydd y panel cyfweld yn cynnwys arbenigwyr annibynnol ym maes iechyd, llesiant a/neu addysg ac aelodau o staff Llenyddiaeth Cymru.
Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniad erbyn canol mis Tachwedd 2026.