Atgofion ac Archifau: cip ar fywydau a chyfraniadau Margaret Lloyd George a Ceridwen Peris
Cyflwyniadau ‘Atgofion ac Archifau: cip ar fywydau a chyfraniadau rhyfeddol Margaret Lloyd George a Ceridwen Peris yng nghwmni Elizabeth George a Shan Robinson’.
Mae pawb wrth gwrs yn gwybod am yrfa ddisglair a dadleuol David Lloyd George ond roedd ei wraig Margaret yn ddynes eithriadol weithgar a deallus hefyd. Roedd, nid yn unig yn hybu gyrfa ei gŵr, ond yn brysur yn hyrwyddo dirwest, yn gynghorydd tref ac yn ymgyrchydd yn ogystal ag yn fam i bump o blant. Bydd clywed atgofion aelod o’r teulu, Elizabeth George, amdani yn cynnig gogwydd gwahanol ac yn gwneud cyfiawnder â’i hanes hithau.
Mae Shan Robinson yn aelod o staff Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ac yno mae pentwr o archifau Alice Gray Jones, neu ‘Ceridwen Peris’, prif athrawes, dirwestwraig, awdur, bardd a golygydd y cylchgrawn y Gymraes am tua chwarter canrif . Bu’n byw yn Y Ffôr ger Pwllheli am flynyddoedd ac yn sicr byddai’r ddwy arloeswraig hyn wedi adnabod ei gilydd.