Mae ShelterCraft yn gyffrous i lansio ein cwrs newydd Sgwennu ar Gyfer Gwytnwch; encil ysgrifennu creadigol ymdrwythol yn Eryri, wedi ei wreiddio mewn cysylltiad ecolegol, personol a chymuned.

Bydd Sgwennu ar gyfer Gwytnwch yn cyfuno ysgrifennu creadigol gyda chysylltiad â’r tirlun ac ymarferion ymwybyddiaeth gofalgar. Mae’r cwrs hwn wedi ei seilio yn y gred bod ehangu creadigrwydd a gwytnwch personol yn rhan hanfodol o adeiladu dyfodol gwell yn gymdeithasol ac yn ecolegol.

Bydd cyfranogwyr y cwrs yn archwilio a datblygu ymarfer ysgrifennu creadigol trwy gyfres o weithdai wedi’u dylunio i ddarparu ‘bocs celfi sgwennu creadigol gwydn’. Bydd y bocs celfi hwn yn cael ei ddysgu a’i ymarfer dros y penwythnos, gyda’r syniad y gall gael ei gymryd a’i ddefnyddio fel adnodd ar gyfer ymarfer creadigol parhaus.

● Pryd? Gwener 1 – Sul 3 Medi 2023
● Ble? Nantmor, Gwynedd, Gogledd Cymru