Dewislen
English
Cysylltwch

Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol 

Gan adeiladu ar lwyddiant dwy flynedd diwethaf o gynnal y cwrs ar-lein rhwng 2023 a 2025, bydd Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad 2026 yn gweld awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol yn mynychu encil wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a thiwtorialau un-i-un dilynol dan arweiniad y dramodydd a’r awdur rhyngwladol enwog Kaite O’Reilly.

Mae carfan 2026-2027 wedi cael eu cyhoeddi! Isod gallwch ddarllen amdanynt a’u dyheadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio  mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth. Diolchwn hefyd i The Fenton Arts Trust ac i’r Loteri Genedlaethol, trwy law Cyngor Celfyddydau Cymru, am eu cefnogaeth ariannol hael.