Dewislen
English
Cysylltwch

Artistiaid

Roedd arwain y prosiect hwn yn brofiad dysgu hynod werthfawr. Dim ond yn ddiweddar dechreuais i wneud y math yma o waith a rwyf wedi datblygu cymaint o wybodaeth a hyder yn ystod y prosiect.

– Amy Moody

Roedd y prosiect yn rhoi’r cyfle a’r gofod i ysbrydoli dychymyg plant Casnewydd, dinas sy’n aml yn cael ei thanbrisio ag iddi bobl arbennig yn rhan o’i gwead.

– Casi Wyn

Efallai nad oedd nifer ohonynt erioed wedi cyfarfod rywun sydd yn gweithio yn y celfyddydau, a gallent ei weld fel posibilrwydd iddynt yn y dyfodol.

-Efa Blosse-Mason

Roedd hwn yn brosiect pwerus a hyfryd i fod yn rhan ohono, ac yn rywbeth y dylid bod ar gael ym mhob ysgol uwchradd – gofod creadigol diogel i ddod i archwilio syniadau a theimladau ag ymarferwyr profiadol a chael cefnogaeth llesiant.

-Bill Taylor-Beales

Fel ymarferwyr, mae wedi bod yn ffordd gadarnhaol o weithio gan i ni wthio cylch gwaith yr hyn yr ydym yn ei gynnig, gan dynnu ar ein diddordebau cerddorol/crefft.

Roedd yr artistiaid a staff Newport Mind yn teimlo eu bod wedi dysgu llawer iawn o’u gilydd ac wedi gwerthfawrogi sgiliau a rhinweddau’r naill a’r llall. Rhoddodd y gweithgareddau a gynhaliwyd gan Newport Mind ofod i ni ystyried ein llesiant ein hunain. Mae gweithio â Newport Mind wedi wein gwneud i ni ymrwymo fwy i gyflawni prosiectau llesiant.

– Serena Lewis & Sarah Bawler

Nes i wir fwynhau’r gallu i gyd-hwyluso’r prosiect hwn. Mae cyd-weithio’n allweddol i fy ymarfer fel artist ac roedd Uschi yn berson arbennig i weithio gyda. Teimlodd fel y cymysgedd perffaith, a roedd gan y ddwy ohonom ffyrdd debyg o fynd ati i hwyluso gyda’r grŵp, felly roedd ein steil cyflawni’n cyfuno’n dda â’u gilydd. Byddaf yn bendant eisiau gwneud hynny eto.

– Georgina Harris

 

Athrawon

Llwyddodd Casi gyfathrebu â’r dysgwyr mewn ffordd sensitif, yn llawn hiwmor ac felly o ganlyniad, cyfrannodd llawer o ddysgwyr sydd ddim fel arfer yn cyfrannu mewn unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol. Mwynheuodd y dysgwyr gael y profiad o wneud gwaith celf a hynny o dan arweiniad Efa. Roedd y dysgwyr wrth eu bodd yn gweld eu lluniau a’u syniadau yn rhan o’r ffilm orffenedig.

– Athro, Ysgol Gwent is y Coed

Rwyf wedi cael syndod enfawr o safon yr allbwn. Rwy’n teimlo’n hynod ffodus i fod â mynediad at recordiadau fydd y plant yn eu trysori am flynyddoedd. Ar ôl cysylltu â Emma a siarad â rhai o’r bobl ifanc a gymerodd ran, allai ddim rhoi mewn geiriau faint o effaith mae hwn wedi eu gael arnynt; diolch yn fawr iawn am alluogi profiad mor gadarnhaol o fewn ein cymuned ysgol.

-Pennaeth, Ysgol Uwchradd Basaleg

O ddifri, ni fyddwn i’n newid unrhyw beth – roeddent yn saith sesiwn arbennig, a hyd yn oed fel athro, dysgais i gymaint. Roedd yn gyfuniad perffaith o gefnogaeth iechyd meddwl wedi ei gyfuno â creadigrwydd barddoniaeth a dylunio. Cyn y sesiynau, ni fyddwn i wedi meddwl y byddwn i’n hapus â cerdd wedi ei ysgrifennu gen i fy hun, ond roedd defnyddio’r awgrymiadau yn ymwneud â iechyd meddwl yn hynod ddefnyddiol.

Athro, Ysgol Uwchradd Llanwern

 

Cyfranogwyr

Nes i fwynhau chwarae’r gemau a chwrdd â phawb, siarad am fy mhrofiadau, a dod o hyd i ddatrysiadau ar eu cyfer.

Nes i wir fwynhau’r prosiect. Mae wedi bod yn therapiwtig iawn. Mae wedi fy helpu i ddod i delerau â nifer o bethau a phrosesu sawl peth sydd wedi digwydd.

Trwy gydol y broses rwyf wedi ysgrifennu mwy am sut rwy’n teimlo, adre. Rwyf wedi ei ddefnyddio fel ffordd o ddygymod.

Rwyf wedi dysgu y gallwch ddefnyddio pethau creadigol i’ch helpu pan mae pethau yn troi’n ormod.

Rwyf wedi mwynhau dod i ystafell ble gallaf fynegi fy hun a siarad â phobl.

Nôl i Darn wrth Ddarn: Effaith