Dyddiad Cau ymgeisio: 12:00 pm hanner dydd, dydd Llun 20 Ionawr 2025
Wyt ti’n gynganeddwr lled-newydd? Liciet ti gyfle i ganolbwyntio ar y grefft am flwyddyn gan fynd amdani a dysgu o ddifri? Os felly, darllen ymlaen…
Rydym yn cynnig cyfle i bum bardd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr trwy raglen Pencerdd. Nod y cynllun hwn yw rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol. Gobeithiwn y bydd y gefnogaeth ddwys yn galluogi i leisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd ddod i’r amlwg.
Mae’r rhaglen yn cynnig cwrs preswyl pwrpasol, cefnogaeth unigol a gweithdai dwys fydd yn mireinio sgiliau a chodi hyder y beirdd yn y grefft o gynganeddu; y nod yw y byddant yn meithrin eu mynegiant personol eu hunain o fewn iaith Cerdd Dafod.
Bydd ein beirdd yn mynd ymlaen i eirioli dros y grefft arbennig hon, gan blannu hadau cynghanedd ymysg grwpiau a chymdeithasau eraill.
Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.
Bydd carfan Pencerdd (y Disgyblion) yn:
- Cychwyn ar y flwyddyn gyda chwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd rhwng dydd Llun, 14 Ebrill 2025 a dydd Gwener 18 Ebrill 2025 dan ofal y Prifeirdd Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones.
- Derbyn cyfres o bedwar gweithdy cynganeddu pellach dros Zoom yn ystod blwyddyn y cynllun (Ebrill 2025 – Mawrth 2026) fydd yn edrych ar nodweddion penodol o’r grefft.
- Derbyn 5 sesiwn un-i-un hyd at ddwy awr dros Zoom (neu wyneb yn wyneb os yn lleol) gyda’u hathrawon barddol.
- Derbyn 10 sesiwn Stafell Sgwennu rhithiol, sef sesiwn anffurfiol dan arweiniad bardd gwadd; ble bydd y bardd yn darllen eu cerddi a siarad am eu taith i farddoni a chynganeddu neu yn creu gofod i’r garfan rannu eu cerddi.
- Derbyn tanysgrifiad i gylchgrawn Barddas am flwyddyn.
Bydd cyfleoedd a gwybodaeth hefyd yn cael eu rhannu â’r garfan, e.e. gwybodaeth am Eisteddfodau lleol a chadeiriol ledled Cymru i annog y beirdd i ddatblygu eu crefft, a byddwn anelu i ddathlu cyflawniad y garfan mewn digwyddiad penllanw yn haf 2026.
Bydd disgwyl i feirdd Pencerdd:
- Ymdrechu i gofrestru mewn dosbarthiadau cynganeddu lleol (neu ddigidol), i gyfoethogi’r profiad o ddysgu yn ystod y flwyddyn.
- Ymrwymo i’r rhaglen blwyddyn o hyd gan fynychu’r sesiynau sydd wedi eu trefnu iddynt (yn cynnwys y cwrs preswyl yn Nhŷ Newydd ar ei hyd).
- Eirioli dros y gynghanedd o fewn eu cymuned eu hunain ar ddiwedd y cyfnod er mwyn i fwy ddysgu am y gynghanedd. Gallai hyn fod ar ffurf gweithdy, sgwennu erthygl yn adrodd hanes eu blwyddyn neu drefnu talwrn. Mae croeso i bob cyfrannwr gynnig eu syniadau eu hunain.
- Helpu Llenyddiaeth Cymru a Barddas i hyrwyddo’r cynllun a chasglu effaith drwy gynnig adborth a dyfyniadau ar gyfer astudiaethau achos, erthyglau ac ati.