Dewislen
English
Cysylltwch

Pencerdd

Mae Pencerdd, a gynigir mewn partneriaeth gyda Barddas, yn raglen sydd yn rhoi cyfle i feirdd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr.

Nod y cynllun hwn yw rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol. Trwy gymysgedd o gefnogaeth unigol a gweithdai dwys, y gobaith yw y bydd hyder y beirdd yn y grefft o gynganeddu yn cynyddu, ac y byddant yn meithrin eu mynegiant personol eu hunain o fewn iaith Cerdd Dafod.

Bydd ein beirdd yn mynd ymlaen i eirioli dros y grefft arbennig hon, gan blannu hadau cynghanedd ymysg grwpiau a chymdeithasau eraill. Gobeithiwn, felly, y bydd cynllun Pencerdd yn meithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru. 

Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.

Mae cyfnod ymgeisio ar gyfer Pencerdd 2025-2026 bellach wedi cau a byddwn yn cyhoeddi enwau’r ymgeiswyr llwyddiannus maes o law. Yn y cyfamser, gallwch ddarllen am y beirdd dethol ar gyfer rhaglen 2024-2025 isod.