Mae marwolaeth, colled a profedigaeth yn ganolog i’n bywydau, ond yn aml yn yr oes fodern rydym yn cael ein hannog i osgoi hyn yn hytrach na rhannu teimladau a darganfod ffyrdd i dderbyn marwolaeth a cholled fel rhan anatod o fywyd.

Bydd y gweithdai hyn yn eich annog i gysylltu a rhannu. Yn ogystal a thrafod, byddem yn defnyddio gweithgareddau creadigol yn defnyddio ein dychymyg, er engraifft, ysgrifennu creadigol, celf gweledol, creu storiau , cerddoriaeth, symudiad a chysylltu a natur. Bydd ein gweithgareddau yn dibynnu ar ddiddordebau y grwp, nid oes angen sgiliau mewn unrhyw gelfyddyd, yn hytrach byddem yn defnyddio y creadigrwydd i gysylltu gyda ein teimladau a gyda’n gilydd.

Bydd y sesiynau yn cael eu hwyluso gan Esyllt George, Therapiwr Drama Cofrestredig a Hwylusydd Iechyd a Lles Creadigol. Mae gan Esyllt brofiad cynnal sesiynau yn y gymuned ac ac i’r GIG yn defnyddio dulliau creadigol i archwilio themau o farowlaeth, colled a phorofedigaeth.

Dyddiadau i’w cadarnhau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo Esyllt, ebost esylltcaerdydd@gmail.com