Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Cranogwen

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Cranogwen gan Jane Aaron, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg.
Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig ac ysbrydolwraig to newydd o awduron a merched cyhoeddus. Nod y gyfrol hon yw dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd benyw ddibriod o gefndir gwerinol i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry’i hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.
Cyhoeddwyd dwy gyfrol fywgraffiadol arni’n flaenorol, yn 1932 ac yn 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth – ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol, er enghraifft – sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.
Am yr Awdur
Athro Emerita yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru yw Jane Aaron; enillodd ddwy wobr am ei chyfrolau blaenorol ar lên menywod Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef Gwobr Goffa Ellis Griffith (1999) a Gwobr Roland Mathias (2009), ac mae hefyd wedi cyhoeddi sawl erthygl ar y pwnc.
Gwylio, Darllen, Gwrando!
Trafodwyd Cranogwen mewn sgwrs rhwng Jane Aaron a Ffion Dafis yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2023.
Cafodd Jane Aaron sgwrs gydag Andrea Byrne am fywyd Sarah Jane Rees (Cranogwen) mewn erthygl i ITV Cymru Wales ym mis Chwefror 2024.
Prynu’r Llyfr
Gallwch brynu Cranogwen trwy wefan Gwasg Prifysgol Cymru.