Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Raffl

Cyhoeddwyd Gwe 31 Mai 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Raffl

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.

Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Raffl gan Aled Jones Williams, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Ffuglen Cymraeg.

 

Raffl, Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Yn Hydref 2021 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol o straeon byrion gan Aled: Tynnu. Ymestyn i’r un cyfeiriad yw’r nod yn y gyfrol hon.

Meddai’r awdur: “Nid wyf erioed wedi bod yn or hoff o realaeth. Ac o ddydd i ddydd rhowch i mi’n wastad y rafin o flaen y ddynes dda neu’r dyn da. Os oes gennyf bwnc, amwysedd moesol yw hwnnw. Rhywle ymhlith hyn y bydd y storïau newydd hyn yn tindroi.

Mae pethau eraill. Ers tro’n byd rwy’n ymwybodol fod rhai pethau a fu’n bwysig i mi yn dyfod i ben. Ni welaf yng Nghymru unrhyw ddyfodol i Gristnogaeth, er enghraifft. Fy arswyd nad yw’r iaith Gymraeg mor ddiogel ag a fynn rhai.

Gwynt teg ar ôl ambell beth: byddwn wrth fy modd medru dweud fod cyfalafiaeth ar fin diflannu gyda’r chwaer hyll Torïaeth ar ei hôl. Ond nid felly mae hi. Teimlaf fod egin rhyw newydd-deb ar ddod. Nid o angenrheidrwydd yn ddaionus. Wedi’r cyfan, mae’r newid hinsawdd yma’n barod. Mae pethau’n chwalu. O’r ymdeimlad yma o chwalfa y daw’r storïau hyn. Bydoedd gwyrgam sydd yma. A pobl sy’n dyllau i gyd heb ruddin.”

Am yr Awdur

Magwyd Aled Jones Williams ger Caernarfon ac astudiodd ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n offeiriad gyda’r Eglwys yng Nghymru, yn Brifardd, yn awdur ac yn ddramodydd y mae amryw o’i ddramâu wedi eu llwyfannu. Roedd ei lyfr, Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun (Gwasg Pantycelyn), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2002, ac enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn. Mae ei bryddest fuddugol, ‘Awelon’, wedi ei chynnwys yn Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn), ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, sy’n ymdrin â cholli ffydd ac alcoholiaeth. Dewiswyd ei nofel Eneidiau (Gwasg Carreg Gwalch) ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru yn Hydref 2013, ac roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2014. Dewiswyd ei nofel, Nostos (Gwasg Carreg Gwalch), hefyd i Silff Lyfrau 2018.

Gwylio, Darllen, Gwrando!

Adolygwyd Raffl ar gyfer Nation Cymru gan Ant Evans.

Bu Golwg360 yn sgwrsio gyda Aled Jones Williams ym Mai 2024.

Prynu’r Llyfr

Gallwch brynu Raffl trwy wefan Gwasg Carreg Gwalch.

Prynu Nawr