Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cryfhau ei Fwrdd Rheoli drwy benodi pedwar Ymddiriedolwr newydd 

Cyhoeddwyd Iau 13 Meh 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cryfhau ei Fwrdd Rheoli drwy benodi pedwar Ymddiriedolwr newydd 
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi penodiad pedwar Ymddiriedolwr newydd a ymunodd â Bwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru yn ystod 2024. Ymunodd Mohamed Hassan, Margiad Eckstein, Charlotte Williams, a Nasir Adam yn ystod cyfarfodydd mis Chwefror a mis Mai. Mae’r aelodau newydd yn cyfrannu ystod o arbenigedd, profiad a sgiliau mewn meysydd amrywiol megis ag ymgysylltu â’r gymuned ac addysg, i ddatblygu polisi a mynd i’r afael â thangynrychiolaeth. 

Ganed Mohamed Hassan yn Alexandria, yr Aifft, a symudodd i Gymru am y tro cyntaf yn 2007. Astudiodd Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, cyn cwblhau gradd meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru. Yn fwy diweddar mae gwaith Mohamed wedi’i gynnwys mewn nifer o arddangosfeydd grŵp mawreddog, gan gynnwys: ‘Wynebu Prydain: ffotograffiaeth ddogfennol Brydeinig ers y 1960au’ wedi curadu gan Ralph Goertz (lleoliadau amrywiol ar draws Ewrop, 2021-2023), ‘Many Voices, One Nation’, wedi curadu gan Ffotogallery a’r Senedd (lleoliadau amrywiol ledled Cymru, 2019-2020), a The Taylor Wessing Portrait Prize (Oriel Bortreadau Cenedlaethol, 2018). Yn ddiweddar cafodd ei waith ei gaffael gan gasgliadau yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chasgliad Celf Llywodraeth y DU. 

Mae Charlotte Williams OBE FLSW yn awdur ac yn feirniad academaidd a diwylliannol. Mae ei hysgrifau yn rhychwantu cyhoeddiadau academaidd, cofiant, ffuglen fer, adolygiadau, traethodau a sylwebaeth. Mae Charlotte wedi ysgrifennu dros bedwar ar ddeg o lyfrau academaidd, gyda’i chasgliad golygedig ‘A Tolerant Nation? Ethnic Diversity in a devolved Wales (2003 & 2015) yn un o’i theitlau mwyaf nodedig. Mae ei gweithiau ffeithiol greadigol yn cynnwys ei chofiant arobryn Sugar and Slate (Llyfr y Flwyddyn 2003) a ailgyhoeddwyd yn 2022 gan Parthian ar gyfer y Library of Wales Series, ac eto yn 2023 gan Penguin fel rhan o’u Black Britian Writing Back Series.  Mae Charlotte yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor ac mae ganddi gymrodoriaethau er Anrhydedd ym Mhrifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae’n aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gyfarwyddwr anweithredol i Estyn ac yn Gynghorydd i Llywodraeth Cymru ar weithrediad Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru. 

Daw Margiad Eckstein o Gricieth, Gwynedd ac astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi brofiad helaeth o addysgu mewn amrywiaeth o leoliadau, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Cymorth Dysgu, gyda chyfrifoldeb neilltuol am fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol. Mae Margiad wedi perfformio ar y gylched gomedi, mae’n aelod gweithgar o grwpiau ysgrifennu amatur, ac ers ymddeol mae wedi gwirfoddoli gyda sefydliadau sy’n cefnogi ac yn cyfeillio â ffoaduriaid a phobl sy’n chwilio am loches. Mae hi’n gefnogol iawn o’r gwaith sy’n galluogi pobl ifanc i ddod o hyd i hyder a gobaith yn eu lleisiau a’u profiadau eu hunain, trwy lenyddiaeth yn ei holl ffurfiau. 

Magwyd Nasir Adam yn Butetown, yn fab ac yn ŵyr i forwyr masnachol o’r Llynges. Mae Nasir yn ymgyrchydd cymunedol sy’n frwd dros gyfiawnder cymdeithasol, llenyddiaeth a threftadaeth, democratiaeth ddiwylliannol, ecwiti, cynrychiolaeth ac ymsefydliad. Astudiaethau cymdeithasol ac addysg gymunedol yw cefndir academaidd Nasir, ynghyd â datblygiad cymunedol ymarferol, sydd wedi rhoi iddo ddealltwriaeth ddofn o gymhlethdodau ac arlliw cymunedau ymylol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Curadur Hanes Pobl Dduon yn Amgueddfa Cymru. 

Dywedodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru:

“Mae’n bleser gen i groesawu pedwar Ymddiriedolwr newydd i Fwrdd Llenyddiaeth Cymru. Maen nhw’n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiadau gyda nhw sy’n cefnogi ein nodau a’n blaenoriaethau strategol. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda’n hymddiriedolwyr newydd, ac rwy’n siŵr y byddant yn darparu cefnogaeth werthfawr i’n tîm gweithredol a’n staff wireddu’n gweledigaeth o Gymru sy’n grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.” 

Yn ystod cyfarfod Bwrdd mis Mai fe ffarweliodd Llenyddiaeth Cymru â phedwar aelod sydd wedi gwasanaethu’r sefydliad dros gyfnod o chwe mlynedd. Ymddeolodd y Dirprwy Gadeirydd, John O’Shea, a’r Ymddiriedolwyr Delyth Roberts, Owain Taylor-Shaw a Craig Austin o’r Bwrdd ar ôl cefnogi ac arwain y sefydliad drwy heriau amrywiol yn ystod blynyddoedd diweddar. Mae eu harbenigedd mewn adnoddau dynol, rheoli risg, addysg, yr iaith Gymraeg a datblygiad corfforaethol wedi bod yn amhrisiadwy i’r sefydliad, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu gwasanaeth. 

Dywedodd Catherine Charnell-White, Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru:

“Wrth groesawu ymddiriedolwyr newydd, rydym hefyd yn ffarwelio â charfan sy’n ymddeol o’r Bwrdd wedi dau dymor llawn o wasanaeth a chefnogaeth amhrisiadwy. Dyma ddiolch i Craig Austin, John O’Shea, Delyth Roberts, ac Owain Taylor-Shaw wrth i ni barhau i wireddu’r strategaeth sefydliadol y buont hwy yn rhan mor allweddol o’i datblygu. Mae ein hymddiriedolwyr newydd yn dod â chyfoeth o brofiadau ac arbenigedd i’r Bwrdd a fydd yn atgyfnerthu’r egwyddorion a’r blaenoriaethau strategol hynny sydd wedi eu gwreiddio ym mhob agwedd o weithgarwch Llenyddiaeth Cymru.”  

Gallwch ddarganfod mwy am rôl Ymddiriedolwyr Llenyddiaeth Cymru trwy ddarllen blog un o’n Ymddiriedolwr, Christina Thatcher, ac edrych ar fanylion y rôl yn ein Pecyn Recriwtio yma.  

Os hoffech wybod mwy, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch ag Alys Lewin, Ysgrifennydd y Cwmni am sgwrs anffurfiol – alys@llenyddiaethcymru.org 

Darganfyddwch fwy am ein holl Ymddiriedolwyr fan hyn.