Ein Cyfarwyddwyr: Christina Thatcher
Daeth ysgrifennu â mi i Gymru dros dair blynedd ar ddeg yn ôl yn dilyn cyflawni gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a dod yn athro ysgol uwchradd cymwys yn UDA. Roeddwn yn hoff iawn o’r gwaith hwn, ond yn ysu i ysgrifennu. Felly ymgeisiais am ysgoloriaeth ac, trwy ryw wyrth, roeddwn i’n llwyddiannus! Dim ond 5 doler oedd ar ôl yn fy nghyfrif banc pan gefais yr alwad, ac fe’r oedd popeth yn sydyn yn teimlo’n bosib am y tro cyntaf.
Yn fuan wedyn, roeddwn i’n anelu am Brifysgol Caerdydd i gwblhau MA mewn Addysg ac Ymarfer Ysgrifennu Creadigol. Mewn noson groeso ôl-raddedig, clywais am Llenyddiaeth Cymru am y tro cyntaf – roedd ganddyn nhw gronfa ddata o lenorion, yn cynnal digwyddiadau llenyddol ac yn cynnig bwrsarïau i Awduron, a mwy. Y noson honno, darllenais bopeth y gallwn amdanyn nhw ac, yn y blynyddoedd ers hynny, fe wnes i elwa o sawl menter gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys Awduron ar Daith a Lit Reach. Derbyniais Ysgoloriaeth Awdur a alluogodd i mi dreulio amser yn olrhain merlod gwyllt o’r Gŵyr ar gyfer fy nhrydydd casgliad o farddoniaeth.
Yn 2018, sylwais ar yr alwad am ymddiriedolwyr newydd i ymuno a Llenyddiaeth Cymru. Roeddwn i’n gwybod bod fy llwyddiant fel awdur a hwylusydd gweithdai i raddau helaeth o ganlyniad i’r gefnogaeth a gefais gan Llenyddiaeth Cymru. Roeddwn i’n meddwl y byddai ymuno â’r bwrdd yn cynnig cyfle i mi roi yn ôl i sefydliad a oedd wedi rhoi cymaint i mi.
Ymgeisiais am y rôl gan gyfeirio at fy ngwaith fel awdur a hwylusydd gweithdai, yn ogystal â’r profiad a gefais ym maes Adnoddau Dynol a gweithrediadau mewn ysgol iaith leol. Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n cael cynnig cyfweliad, a wnes i erioed ddychmygu y byddai’r profiad mor gyfeillgar ac egnïol: roedd gan y panel ddiddordeb yn fy ngwaith, fy syniadau, fy ngweledigaeth ar gyfer Llenyddiaeth Cymru yn ogystal â’r hyn y gallai’r sefydliad wneud i gefnogi awduron eraill fel mi. Wrth eistedd yn yr ystafell honno, sylweddolais pa mor werthfawr fyddai fy mhrofiad ar Fwrdd Llenyddiaeth Cymru, ond hefyd faint y gallwn ei ddysgu ac elwa o’r rôl hon.
Cefais fy mhenodi yn fuan wedyn, ynghyd â grŵp o aelodau bwrdd eraill o sectorau amrywiol – llywodraethiant, trafnidiaeth, cyllid, addysg, cyhoeddi, ac ati. Rydym yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac er bod y cyfarfodydd ychydig yn wahanol bob tro, rydym yn dathlu llwyddiannau yn aml ac yn trafod diweddariadau sefydliadol, mynd i’r afael â risgiau a sut y gall y sefydliad addasu i newid, cynnig cymorth ac arbenigedd i’r uwch dîm arwain, a llawer mwy. Fel awdur, mae wedi bod yn amhrisiadwy i mi weld ‘tu ôl y llenni’ mewn sefydliad llenyddol yn ogystal â gweld y gofal, yr ystyriaeth a’r angerdd sydd gan bob aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru at eu gwaith.
Yn ystod fy nghyfnod ar y bwrdd, rwyf wedi bod wrth fy modd yn cefnogi staff i ddatblygu prosiectau penodol. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi bod yn rhan o amryw o baneli, yn ystyried ceisiadau a chreu rhestrau byr ar gyfer swyddi a phrosiectau amrywiol yn cynnwys ‘Cynrychioli Cymru’. Rwyf hefyd wedi cynghori ar bolisïau gweithredol, ymgyrchoedd marchnata a dau gynllun strategol, ymhlith amryw o bethau eraill. Mae cael y cyfle i ddefnyddio fy arbenigedd yn y ffyrdd hyn bob amser wedi bod yn werth chweil.
Mae bod yn ymddiriedolwr hefyd yn golygu fy modd yn derbyn gwahoddiadau cyffrous! Yn y gorffennol bu’r rhain yn wahoddiadau i ymweld ac aros yn Nhŷ Newydd, mynychu seremonïau gwobrwyo Llyfr y Flwyddyn a digwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli, arsylwi ystod eang o ddarlleniadau, gweithdai, lansiadau a mwy dros Gymru gyfan.
Wrth gwrs, nid oes unrhyw aelodaeth bwrdd heb ei heriau. Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau, nid wyf yn gymwys i wneud cais am unrhyw gyllid gan Llenyddiaeth Cymru wrth wasanaethu ar y bwrdd. Pan gafodd fy ail gasgliad o farddoniaeth ei gyflwyno i gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn gan fy nghyhoeddwr, bu’n rhaid i mi hefyd gamu i lawr am chwe mis tra’r oedd yn cael ei ystyried gan y panel beirniadu. Pe bawn i wedi cyrraedd y rhestr fer neu wedi ennill, byddwn wedi bod i ffwrdd o’r bwrdd am lawer hirach. Er bod rhai heriau yn gallu ymddangos i awduron wrth ystyried ymgeisio am rôl fel hon, yn fy marn i mae’r manteision yn gorbwyso’r anfanteision.
I mi, mae bod yn rhan o Fwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru wedi bod yn fraint anhygoel. Mae wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, wedi fy nghysylltu â phobl anhygoel ac wedi rhoi cipolwg i mi ar yr hyn sydd ei angen i redeg sefydliad llenyddol cenedlaethol.