Enillydd: Y Brif Wobr a Gwobr Ffuglen
Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Stori Muriel sydd yma, a’i thaith arwrol i geisio cael gwellhad i’w gŵr, Ken. Maen nhw’n bâr priod yn eu pedwardegau pan gaiff Ken wybod ei fod yn marw o ganser. Ond dechrau’r daith yw’r Muriel ifanc, tair ar ddeg oed, pan ddaw hi o hyd i’r llyfr hynafol, Llyfr Corynnod y Mwmbwls… Bydd y nofel hon yn mynd â chi ar daith anturus wrth i Muriel geisio dod o hyd i atebion. Ond mae rhaid iddi wynebu ei phryderon a’i hofnau mwyaf yn gyntaf, ac i wneud hynny, mae’n rhaid iddi dorri’n rhydd oddi wrth y gweoedd hynny sy’n ei chlymu’n saff.
***
Bardd, awdur a chyfieithydd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw Mari George. Mae hi wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi – Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt (2004) a Siarad Siafins (2014) – ac mae hi’n aelod o dîm Talwrn Aberhafren. Mae hi hefyd wedi golygu sawl casgliad o farddoniaeth ac wedi ysgrifennu ac addasu nifer o lyfrau i blant. Sut i Ddofi Corryn yw ei nofel gyntaf i oedolion.
Enillydd: Y Wobr Farddoniaeth
Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
Dyma gyfrol sy’n pendilio rhwng y dwys a’r digri, rhwng sinigiaeth a thaerineb, ac sy’n plethu angst ieithyddol trwy gerddi am deulu, bod yn dad a bod yn Gymro. Mae tynfa barhaus rhwng magwrfa bardd ym Mhwllheli a’i fywyd yng Nghaerdydd yn ogystal â’r ‘bwlch siâp Duw’ sy’n waddol i’r fagwraeth honno. Er gwaethaf hyn, mae gwreichion o hiwmor a gobaith drwy’r cyfan; y gobaith anodd hwnnw o wybod – er bod pethau’n anodd – bod yn rhaid parhau.
***
Mae Gruffudd Owen yn fardd, dramodydd a sgriptiwr teledu o Bwllheli. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 ac ef oedd Bardd Plant Cymru 2019-2021. Mymryn Rhyddid yw ei ail gyfrol o gerddi ar gyfer oedolion. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i feibion.
Enillydd: Gwobr Ffuglen Greadigol
Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig ac ysbrydolwraig to newydd o awduron a merched cyhoeddus. Nod y gyfrol hon yw dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd benyw ddibriod o gefndir gwerinol i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry’i hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.
Cyhoeddwyd dwy gyfrol fywgraffiadol arni’n flaenorol, yn 1932 ac yn 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth – ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol, er enghraifft – sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.
***
Athro Emerita yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru yw Jane Aaron; enillodd ddwy wobr am ei chyfrolau blaenorol ar lên menywod Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef Gwobr Goffa Ellis Griffith (1999) a Gwobr Roland Mathias (2009), ac mae hefyd wedi cyhoeddi sawl erthygl ar y pwnc.
Enillydd: Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Mae Jac yn byw ym mhentref bach Bethlehem gyda’i dad-cu, ond mae’r Nadolig wedi ei ganslo ar yr aelwyd eleni. Felly pan ffrwydra angel allan o galendr adfent ei fam, a chynnig dymuniad iddo, mae’n edrych fel petai’r rhod yn troi. Ei ddymuniad? Cael chwarae rhan Mair yn sioe Nadolig yr ysgol.
Ond pan mae’r Nadolig yn dechrau diflannu o’i gwmpas, a theulu’r Heroniaid yn chwalu ei gynlluniau, mae Jac yn gwneud darganfyddiad a fydd yn newid ei fyd – a’r Nadolig – am byth.
***
Mae Daf James yn un o ddramodwyr, sgriptwyr, cyfansoddwyr a pherfformwyr amlycaf Cymru. Yn ogystal â phortreadu’r cymeriad cerddorol ‘Sue’, Daf yw awdur y dramâu arloesol Llwyth aTylwyth. Bydd ei gyfres ddrama Lost Boys & Fairies yn cael ei darlledu ar BBC1 yn 2024. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i ŵr a’u tri phlentyn. Jac a’r Angel yw ei nofel gyntaf.
Mae Jac a’r Angel yn cynnwys darluniau gan Bethan Mai.
Enillydd: Gwobr Barn y Bobl Golwg360
Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)
Myfyrdodau cynnes y bardd ac awdur, Iwan Rhys, wrth iddo groesi sawl trothwy mewn bywyd yw Trothwy. Mae’r gyfrol yn trafod perthyn ac adnabyddiaeth gyda ffraethineb wrth i’r prif gymeriad geisio cael ei dderbyn yn niwylliant y dafarn leol yng Nghaernarfon ac ym Merlin, yn ogystal ag ym mywydau meibion ei bartner newydd. Mae’r gyfrol yn plethu cynhesrwydd bywyd teuluol gydag agweddau rhyngwladol, wrth iddo gynnwys golwg Cymro ar Berlin, a phrofiadau teulu teirieithog ac aml genedl.
***
Magwyd Iwan Rhys ym Mhorthyrhyd, Cwm Gwendraeth. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith; yn 2001 ac yn 2008. Mae’n aelod o dîm talwrn Dros yr Aber a thîm Y Deheubarth yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw awdur y gyfrol Eleni Mewn Englynion (Gwasg Carreg Gwalch) a’r nofel Y Bwrdd (Y Lolfa).
Roedd Trothwy ar restr fer y Wobr Ffeithiol Greadigol.