Deborah Kay Davies
MwyDamian Walford Davies
MwyRachel Dawson
MwyDilar Dirik
MwyEliot Duncan
MwyInua Ellams
MwyJenni Fagan
MwyGlyn Maxwell
MwyGrug Muse
MwyLlwyd Owen
MwyMike Parker
MwyLleucu Roberts
MwyJacob Ross
MwyJoelle Taylor
MwyStephanie Butland
Yn mentora: Grace Quantock
Roedd dwy gyfrol gyntaf Stephanie Butland yn gyfrolau hunangofiannol ynglŷn â’i phrofiad o gancr. Ers hynny mae wedi troi at ffuglen ac wedi ysgrifennu saith nofel, yn cynnwys y cyfrolau poblogaidd am siop lyfrau, Lost For Words a Found In A Bookshop. Mae Stephanie yn gweithio gydag awduron ar bob cam o’u gyrfaoedd fel mentor a golygydd. Mae’n byw yn Northumberland gyda’i gŵr a Harris y milgi.
Gwefan: https://www.stephaniebutlandauthor.com/
X: @under_blue_sky
Instagram: @stephaniebutlandauthor
Deborah Kay Davies
Yn mentora: Ed Garland
Mae Deborah Kay Davies yn byw yng Nghaerdydd. Mae ganddi Ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol.
Casgliad o farddoniaeth oedd ei chyfrol gyntaf, Things You Think I Don’t Know (Parthian Books).
Enillodd ei chyfrol gyntaf o straeon byrion, Grace, Tamar And Laszlo The Beautiful (Parthian Books) wobr Llyfr y Flwyddyn 2009.
Ar ôl cyhoeddi ei nofel gyntaf True Things About Me (Canongate Books 2010) fe’i henwyd yn un o nofelwyr newydd gorau Prydain ar raglen BBC The Culture Show. Pan gyhoeddwyd y nofel yn yr Unol Daleithiau, fe’i dewiswyd gan Lionel Shriver fel ei hoff Lyfr y Flwyddyn.
Cyrhaeddodd ail nofel Deborah Reasons She Goes To The Woods (Oneworld 2014) restr fer Wobr Encore a rhestr hir The Women’s Prize for Fiction. Cyhoeddwyd Tirzah And The Prince Of Crows gan Oneworld yn 2019.
Yn 2022 addaswyd True Things About Me yn ffilm nodwedd gan y BBC, True Things, gyda’r actorion Ruth Wilson a Tom Burke yn chwarae’r prif gymeriadau.
Damian Walford Davies
Yn mentora: Natasha Gauthier
Mae Damian Walford Davies yn fardd, llenor a libretydd. Fe’i ganwyd yn Aberystwyth ym 1971. Mae’n awdur ar bum casgliad, wedi’u cyhoeddi gan Seren: Suit of Lights (2009), Witch (2012), Judas (2015), Docklands (2019) a Viva Bartali! (2023), ynghyd â’r pamffled Alabaster Girls (Rack Press, 2015). Mae'n ysgrifennu'n greadigol ac yn feirniadol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ei ddiddordebau academaidd a’i ddulliau creadigol yn cydblethu: wedi’i wreiddio mewn hanesion dwfn am le, cartograffeg a seicoddaearyddiaeth, mae ei waith yn archwilio arswyd a thrawma hanesyddol, lleisiau ymylol a bylchau yn y record – yn enwedig trwy gyfrwng y monolog dramatig.
Ef yw Profost a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd. Gwasanaethodd fel Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru rhwng 2012 a 2018, ac o 2015 i 2018 ef oedd Cadeirydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Caerdydd.
https://profiles.cardiff.ac.uk/cy/staff/walforddaviesd
Rachel Dawson
Yn mentora Rudy Harries
Daw Rachel Dawson o Abertawe yn wreiddiol ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn 2020 derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe gafodd ei mentora gan Rebecca F. John. Neon Roses yw ei nofel gyntaf ac fe’i cyhoeddwyd gan John Murray Press yn 2023. Mae’n stori garwriaeth lesbiaidd, wedi ei gosod yn ystod cyfnod stormus gwleidyddol a diwylliannol y 1980au. Yn 2024, cyrhaeddodd Neon Roses restr fer Gwobr Betty Trask a Llyfr y Flwyddyn ac mae ar restr hir Gwobr Polari ar gyfer ysgrifennu cwiar. Mae Rachel yn gweithio ym maes cyfathrebu ar gyfer cwmni theatr, ac yn diwtor Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, ac mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol Seren Books. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ail nofel yn archwilio bod yn rhiant cwiar a chariad at hanes.
https://racheldawson.cymru/
Instagram: @racheldawsonwrites
X: @RachelCDawson
Dilar Dirik
Yn mentora: Heledd Melangell
Ganwyd Dilar Dirik yn Antakya ac fe’i magwyd yn Offenbach am Main. Mae ganddi Ddoethuriaeth mewn cymdeithaseg o Brifysgol Caergrawnt. Cyhoeddwyd ei chyfrol The Kurdish Women’s Movement: History, Theory, Practice gan Pluto Press yn 2022. Mae’n gofnod ethnograffeg manwl o frwydr chwyldroadol merched Cwrdaidd am ryddhad. Rhwng 2019-2023 bu Dirik yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae wedi ysgrifennu nifer o benodau i gyfrolau ac erthyglau ar amryfal bynciau, yn canolbwyntio ar frwydrau merched. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i sawl iaith. Mae Dirik wedi gadael y byd academaidd ac ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar addysg gwleidyddol.
Eliot Duncan
Yn mentora: Aliyy Azad Malik
Mae Eliot Duncan yn awdur a golygydd o ganolbarth yr Unol Daleithiau. Ei nofel gyntaf Ponyboy (Norton, Footnote) yw’r llyfr cyntaf sydd â phrif gymeriad traws i’w enwebu ar gyfer y National Book Awards yn yr Unol Daleithiau. Mae’n eich caru ym mhob amser.
https://www.eliotduncan.com/
Instagram: @semantic_rush
Inua Ellams
Yn mentora: Tia-zakura Camilleri
Yn enedigol o Nigeria, mae Inua Ellams yn fardd, dramodydd a pherfformiwr, artist graffeg a dylunydd, ac yn sylfaenwr: The Midnight Run (profiad teithiau cerdded dinesig gyda’r nos yn llawn celfyddydau amrywiol), The Rhythm and Poetry Party (The R.A.P Party) sydd yn dathlu barddoniaeth a hip hop, a Poetry + Film / Hack (P+F/H) sydd yn dathlu barddoniaeth a ffilm. Mae Hunaniaeth, Dadleoliad a Ffawd yn themâu sy’n codi’n gyson yn ei waith, ble mae’n ceisio cyfuno’r hen a’r newydd: adrodd straeon llafar Affricanaidd gyda barddoniaeth gyfoes, peintio gyda pixel, gweadu gyda vector. Cyhoeddir ei lyfrau gan Flipped Eye, Akashic, Nine Arches, Penned In The Margins, Oberon & Methuen.
Gwefan: https://www.inuaellams.com/
Threads: @inuaellams
Instagram: @inuaellams
Jenni Fagan
Yn mentora: Lowri Morgan
Mae Dr Jenni Fagan yn awdur, bardd, sgriptiwr ac artist arobryn, wedi derbyn canmoliaeth uchel. Mae eu gwaith ei gyhoeddi mewn naw iaith, gyda phum nofel, saith casgliad o farddoniaeth ac un hunangofiant sydd yn archwilio eu bywyd yn tyfu i fyny o fewn gofal awdurdod lleol. Fel awdur maent wedi gweithio gyda grwpiau bregus yn cynnwys merched yng ngharchar. Mae Fagan yn Ddoethur Athroniaeth, a’u harbenigedd yw strwythuriaeth ac ystyried sut mae strwythurau ehangach cymdeithasol yn effeithio ar yr unigolyn. Mae Fagan yn Gymrawd y Royal Society of Literature ac yn aelod o Liberty.
Glyn Maxwell
Yn mentora: Lesley James
Magwyd Glyn Maxwell yn swydd Hertford, Lloegr, ond mae o dras Cymreig. Bu ei fam Buddug-Mair Powell yn actio yng nghynyrchiadau gwreiddiol Under Milk Wood. Mae pob un o’i gasgliadau barddoniaeth wedi cyrraedd rhestri byrion prif wobrau barddoniaeth y Deyrnas Unedig, yn fwyaf diweddar Gwobr T.S. Eliot am How The Hell Are You. Enillodd The Nerve Wobr Geoffrey Faber. Mae ei gyfrol ddiweddaraf, The Big Calls, yn brotest yn erbyn Llywodraeth y DU – ymateb y DU i bandemig Covid, ei ymdriniaeth o ymfudwyr, Afghanistan, Tŵr Grenfell, yn arddull Tennyson, Kipling, Rossetti, Oscar Wilde. Yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi ychwanegiad i’w ganllaw On Poetry, sef Silly Games To Save The World, llyfr am farddoniaeth, seicoleg, gwleidyddiaeth ac athroniaeth, a gellir ei ddarllen yn rhad ac am ddim ar Substack. Mae ei ddramâu wedi eu llwyfannu’n eang yn y DU a’r Unol Daleithiau. Mae’n Bennaeth Astudiaethau cwrs MA yn The Poetry School.
Facebook: https://www.facebook.com/PoetGlynMaxwell/
https://en.wikipedia.org/wiki/Glyn_Maxwell
https://glynmaxwellgmailcom.substack.com/
Grug Muse
Yn mentora: Heledd Melangell
Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Daeth ei chyfrol ddiweddaraf, merch y llyn i’r brig yng nghategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn, 2022. Mae hi’n un o sylfaenwyr a golygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp a chylchgrawn barddoniaeth Ffosfforws. Mae hi hefyd yn un o gyd-olygyddion y gyfrol Welsh (plural) (Repeater, 2022), cyfrol o ysgrifau sy’n dychmygu Cymru gynhwysol a neilltuol.
Llwyd Owen
Yn mentora: Leo Drayton
Mae Llwyd Owen wedi cyhoeddi pymtheg nofel ers 2006, gan gynnwys Ffydd Gobaith Cariad, a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007, Iaith y Nefoedd, a gyrhaeddodd restr fer yr un gystadleuaeth yn 2019, a saith nofel drosedd yng nghyfres barhaus Gerddi Hwyan, sy’n dilyn hynt a helynt heddlu a thrigolion y dref ddychmygol sydd wedi’i disgrifio fel “Cwmderi ar crac” gan un adolygydd. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae Llwyd yn gyfieithydd ac yn diwtor ysgrifennu creadigol profiadol. Mae’n byw yng Nghaerdydd, tref ei febyd, gyda’i wraig, ei blant a’i gi.
Mike Parker
Yn mentora: Si Griffiths
Mae llyfrau Mike Parker bob amser yn cychwyn gyda’i ymwybyddiaeth o le, ond yn cynnwys cyfuniad o ysgrifennu hunangofiannol, hanes, hunaniaeth, gwleidyddiaeth a pherthyn. Maent yn cynnwys y gyfrol boblogaidd Map Addict, a’r dilyniant The Wild Rover, a gafodd gryn ganmoliaeth, a’r gyfrol Neighbours From Hell? Mae hefyd wedi ysgrifennu a chyflwyno nifer o gyfresi radio a theledu, yn cynnwys On the Map ar gyfer BBC Radio 4, ac i ITV Wales, Coast to Coast a Great Welsh Roads.
Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio ar drioleg lled-gysylltiedig. Mae dwy gyfrol eisoes wedi eu cyhoeddi: On the Red Hill (2019), ymdriniaeth o fywyd cwiar gefn gwlad, a enillodd wobr ffeithiol greadigol Llyfr y Flwyddyn 2020, ac a gyrhaeddodd Rhestr Fer y Wainwright Prize ar gyfer ysgrifennu natur. Fe’i dilynwyd yng ngwanwyn 2023 gan All the Wide Border, astudiaeth o’r ffin rhwng Lloegr a Chymru, fel llinell ar fap, llinell drwy hanes, a llinell yn ein pennau. Fe’i enwyd yn un o ddeg llyfr taith gorau’r flwyddyn gan Waterstones.
Gwefan: https://www.mikeparker.org.uk/
X @mikeparkerwales
Lleucu Roberts
Yn mentora: Marged Elen Wiliam
Daw’n wreiddiol o ardal Llandre yng Ngheredigion, ond mae’n byw yn Rhostryfan, Caernarfon ers tri degawd. Cafodd ei haddysg yn ysgolion Rhydypennau a Phenweddig, a phrifysgol Aberystwyth, lle cafodd Ddoethuriaeth am waith ar feirdd yr uchelwyr. Bu’n olygydd yng ngwasg Y Lolfa, cyn dilyn gyrfa fel cyfieithydd ac awdur.
Gweithiodd fel awdur a sgriptiwr ar nifer o gyfresi drama ar radio a theledu, yn cynnwys Rownd a Rownd, Pengelli, Dau Dŷ a Ni, Amdani, Perthyn a Pobol y Cwm. Mae’n awdur wyth nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobl ifanc. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og ddwywaith am Annwyl Smotyn Bach a Stwff, Gwobr Goffa Daniel Owen ddwywaith am Rhwng Edafedd (2014) a Hannah-Jane (2021), a’r Fedal Ryddiaith ddwywaith am gyfrol o straeon byrion, Saith Oes Efa (2014), a nofel Y Stori Orau (2021).
Jacob Ross
Yn mentora: Janett Morgan
Mae Jacob Ross yn awdur, tiwtor, mentor ac yn Olygydd Cysylltiol Ffuglen gyda Peepal Tree Press – cyhoeddwr annibynnol amlwg llenyddiaeth Caribïaidd, Affricanaidd ac Asiaidd yn y Deyrnas Gyfunol. Mae wedi bod yn feirniad ar gyfer nifer fawr o wobrau, yn cynnwys y Commonwealth Writers Short Story Prize, y Scott Moncrieff Translation Prize, a gwobrau VS Pritchett a Tom Gallon.
Mae’n diwtor profiadol, yn hyfforddi ar grefft naratif, ac mae’n cynnal nifer o weithdai ysgrifennu creadigol yn y DU a thramor. Mae ei ffuglen wedi ennill nifer o wobrau, ac roedd un o’i gyfrolau ar restr Jiwbili’r Frenhines, yn cynnwys ffuglen gorau’r Gymanwlad ar gyfer pob degawd o deyrnasiad Ei Mawrhydi.
Mae Jacob Ross yn Gymrawd y Royal Society of Literature.
Twitter: @rosswriterj
Joelle Taylor
Yn mentora: Natasha Borton
Mae Joelle Taylor yn awdur 4 casgliad o farddoniaeth. Enillodd ei chasgliad diweddaraf C+NTO & Othered Poems Wobr T. S. Eliot 2021, a gwobr Polari Book Prize 2022 ar gyfer awduron LHDT. Mae C+NTO yn cael ei addasu ar gyfer y theatr ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o deithio. Mae hi’n gyd-guradur a chyflwynydd Out-Spoken Live yn y Southbank Centre ac mae’n teithio yn perfformio ei gwaith yma a thramor mewn rhychwant eang o leoliadau, o Awstralia i Brasil. Mae’n Gymrawd Barddoniaeth Prifysgol East Anglia ac yn guradur Gwobrau Koestler 2023. Mae wedi beirniadu sawl gwobr farddoniaeth a gwobrau llenyddol, yn cynnwys Cymrodoriaeth Jerwood, y Forward Prize a’r Ondaatje Prize. Cyhoeddwyd ei nofel o straeon wedi eu cyd-gysylltu The Night Alphabet gan Riverrun yng ngwanwyn 2024. Mae hi’n Gymrawd y Royal Society of Literature, ac yn Artist Llafar y Flwyddyn Saboteur 2022.
Er rôl actio diweddaraf oedd yn Blue gan Derek Jarman, a gyfarwyddwyd gan Neil Bartlett ac yn cynnwys Russell Tovey, Jay Bernard, and Travis Alabanza. Roedd Blue wedi gwerthu allan ar draws y DU a disgwylir rhagor o ddyddiadau ar gyfer dangosiadau yn y dyfodol.
Gwefan: http://www.joelletaylor.co.uk/
X: @jtaylortrash
Instagram: @jtaylortrash