Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru 2024-2025

Ar gyfer ei bedwaredd rownd, bydd ein rhaglen datblygiad proffesiynol ar gyfer awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu gweithiau newydd ar gyfer cynulleidfa oedolion.

Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Yn ystod y flwyddyn bydd yr awduron yn derbyn dyfarniad ariannol o hyd at £3,300, sesiynau mentora un i un gydag awdur sefydledig o’u dewis, gweithdai ar-lein ar y proffesiwn ysgrifennu a’r diwydiant cyhoeddi, a dosbarthiadau meistr ysgrifennu creadigol pwrpasol, a bydd dau ohonynt yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Bydd cyfleoedd pellach hefyd yn cael eu cynnig drwy rwydweithio a mynediad i wahanol wyliau a digwyddiadau llenyddiaeth.

Cafodd y 14 awdur eu dewis gan Banel asesu annibynnol, yn dilyn galwad agored yn ystod hydref 2023. Dyluniwyd y rhaglen mewn ymgynghoriad â chymunedau ac awduron o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru ac mae’n adeiladu ar lwyddiannau a phwyntiau dysgu’r tair rownd flaenorol.

Darllenwch fwy am yr awduron a’r Panel Asesu 2024-2025 isod.