Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfle i Ymuno ag Encil o Awduron Rhyngwladol fel Llysgennad Llenyddol dros Gymru

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfle i Ymuno ag Encil o Awduron Rhyngwladol fel Llysgennad Llenyddol dros Gymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd ceisiadau gan awduron o Gymru i ymuno â llenorion rhyngwladol ar encil bythefnos o hyd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd rhwng 17 a 31 o Fai 2025 

Am bythefnos ym mis Mai 2025, bydd Tŷ Newydd yn dod yn gartref i 14 awdur Ewropeaidd, fydd yn cydweithio yn greadigol ar brosiectau o gylch y themâu o ecoleg, yr argyfwng hinsawdd, cymdeithas a phobl. Bydd pob un o’r 14 awdur yn gweithio mewn iaith leiafrifol, ac yn cydweithio i archwilio ieithoedd, tirweddau a chymunedau. 

Bydd naw awdur yn cael eu dewis o blith gwledydd yn Ewrop, a phum awdur yn cael eu dewis o Gymru. Bydd yr awduron o Gymru yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg neu mewn iaith leiafrifol arall. 

Yn ystod yr encil, bydd rhaglen greadigol o sgyrsiau, gweithdai a thrafodaethau grŵp, a thripiau yn cael ei drefnu ar gyfer yr awduron. Bydd yr awduron hefyd yn cael eu gwahodd i arwain gweithgaredd i’r grŵp. Bydd yr encil yn dod i ben gyda dathliad i rannu gwaith ac i rwydweithio yng Ngŵyl y Gelli 2025.  

Cyn ymgeisio, gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y pecyn gwybodaeth manwl isod. Neu os yr hoffech chi unrhyw wybodaeth bellach am y cyfle hwn, neu sgwrs ag aelod o staff cyn ymgeisio, cysylltwch â post@llenyddiaethcymru.org gyda EUNIC ym mlwch testun yr ebost.  

Mae’r dyddiad cau i ymgeisio am le bellach wedi pasio. 

Sut i ymgeisio 

Ar ôl darllen y pecyn gwybodaeth, llenwch y ffurflen gais hon ar Survey Monkey, neu mae fersiwn hygyrch ar gael i’w lawrlwytho isod.  

Caiff yr encil ei gefnogi a’i ariannu gan EUNIC. 

Pecyn Gwybodaeth
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 702KB
Pecyn Gwybodaeth - Dyslecsia Gyfeillgar
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 646KB
Pecyn Gwybodaeth - Print Bras
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 646KB
Ffurflen Gais - Dyslecsia Gyfeillgar
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 26KB
Ffurflen Gais - Print Bras
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 26KB