Amser Sgwennu yn Nhŷ Newydd

Wedi misoedd o gynllunio, rydym wrth ein boddau o gael rhannu ein rhaglen ar gyfer 2025-2026 o’r diwedd, gyda chymysgedd amrywiol a chyfoethog o gyrsiau ac encilion ysgrifennu preswyl ac ar-lein.
Mae’r rhaglen wedi’i llunio’n ofalus i wneud yr hyn y mae’r ganolfan yn ei wneud orau – ysbrydoli awduron i ddatblygu eu crefft ymhellach. Mae Tŷ Newydd yn croesawu cannoedd o awduron bob blwyddyn. Mae rhai yn brofiadol ac yn herio eu hunain i archwilio ffurf greadigol newydd, mae eraill wedi ysgrifennu cryn dipyn ond angen chwistrell dda o hyder i gymryd y cam nesaf, tra bod rhai yn gwbl newydd i’r grefft o ysgrifennu.
“Tŷ Newydd yw fy hoff ganolfan ysgrifennu. Mae o mewn lleoliad hyfryd, mae pawb yn y swyddfa mor gynnes a chroesawgar, byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw awdur. Mae ganddo bopeth – golygfeydd o’r môr, llwybrau cerdded ar hyd afonydd, ac awyrgylch breuddwydiol hudolus sy’n berffaith ar gyfer creu ac addysgu! Mae ei Chymreictod unigryw yn ei wneud yn le arbennig, yn ogystal â’i hymdeimlad chwedlonol o gartref oddi cartref.” – Pascale Petit
Bydd 2025 yn nodi 35 mlynedd ers sefydlu Tŷ Newydd fel Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru ac ers i’r cwrs cyntaf un gael ei chynnal yng ngofal y tiwtoriaid Gillian Clarke a’i gyd-fardd, Robert Minhinnick ym mis Ebrill 1990. I ddathlu’r garreg filltir bwysig hon yn hanes y ganolfan, mae rhaglen Amser Sgwennu / Get Writing yn cynnwys bron i 40 o gyrsiau ac encilion ac yn cynnig profiadau pwrpasol ac ysbrydoledig o ansawdd uchel ar draws amrywiaeth eang o genres.
Nododd 100% o’r awduron a fynychodd gwrs yn Nhŷ Newydd yn 2024 fod eu hymweliad wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.
Beth sydd ar gael?
Mae’r rhaglen eleni yn cynnwys profiadau o ansawdd uchel, pwrpasol ac ysbrydoledig ar draws amrywiaeth eang o genres. O farddoniaeth a rhyddiaith i hunangofiant ac ysgrifennu teithio, mae gan Dŷ Newydd rhywbeth at ddant pob awdur.
Maent yn cael eu harwain gan diwtoriaid sy’n cynrychioli rhai o’r lleisiau creadigol mwyaf cyffrous ac amlwg sy’n gweithio yn y DU heddiw.
Rhannu’r gost
Rydym yn gwerthfawrogi bod mynychu un o’n cyrsiau yn fuddsoddiad, ond rydym wir yn credu ei fod yn un gwerth chweil. Rydym am sicrhau y gall cynifer o awduron â phosibl elwa o’r profiad o fynychu cyrsiau ac encilion yn Nhŷ Newydd, felly rydym am sicrhau bod y Ganolfan a’i chyrsiau mor hygyrch â phosibl.
Rydym yn falch o gynnig o leiaf un ysgoloriaeth ar gyfer pob cwrs yn rhan o raglen 2025/2026. Dyfernir bwrsariaethau i awduron nad ydynt yn gallu fforddio’r ffi lawn yn dilyn proses ymgeisio syml.
Gallwch hefyd ddewis talu am eich cwrs mewn rhandaliadau, gan rannu’r gost dros 6-12 mis.
Darganfyddwch fwy am gymorth ariannol ac opsiynau talu hyblyg yma.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gyda’r weledigaeth o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn bywiogi bywydau. Mae rhaglen Tŷ Newydd a’r cynllun ysgoloriaethau ond yn bosib diolch i haelioni unigolion, ymddiriedolaethau a chyllidwyr eraill sy’n cefnogi gwaith y sefydliad ac yn helpu cynnal a chadw Tŷ Newydd. I gael gwybod rhagor am gyfrannu ar-lein, ewch i dudalen Cefnogwch Ni Llenyddiaeth Cymru.