Mynyddoedd distaw i fyny fry,
Atgof y glowyr yn cloddio’r aur du.
Croeso i Rondda Cynon Taf –
Dyma yw ein hanfod ni:
Cymuned fach, calonnau enfawr,
Tai teras dan lif y glaw,
Croeso i Rondda Cynon Taf –
Dyma yw ein hardal werthfawr.
Nentydd bach yn croesi’r tirlun,
Ardaloedd natur yn ffurfio darlun,
Croeso i Rondda Cynon Taf –
Cyfoeth y cymoedd yw ein sbardun.
Evan a James James a’u doniau
Wnaeth greu’r anthem sy’n ysgogi dagrau,
Croeso i Rondda Cynon Taf –
Man geni “o bydded i’r heniaith barhau”.
Enwogion o fri fel William Price,
Neu Gwilym Williams a ddefnyddiodd ei lais,
Croeso i Rondda Cynon Taf –
Lle teimlwn yn danbaid dros ein hiaith.
Mae’r Rhondda Fawr, Fach, a Chwm Cynon,
Cwm Taf ac Elai, i gyd yn llon;
Croeso i Rondda Cynon Taf –
Dewch yn llu, cymdogion!
Dewch i ganu, dewch i floeddio
Yma fe gewch chi wastad groeso
Mae’r Steddfod yn Rhondda Cynon Taf –
Ydych chi’n barod? Mae’n amser joio!
Ysgrifenwyd y gerdd hon yn dilyn gweithdai yng Nghanolfan Gartholwg gyda cynrychiolwyr o blant y fro, i groesawu ymwelwyr Eisteddfod Rhondda Cynon Taf i’r ardal yn 2024.