Gwenllian Ellis
MwyDr Miriam Elin Jones
MwyHammad Rind
MwyBeirniaid Panel Saesneg
MwyMenna Elfyn
Mae Menna Elfyn yn fardd a dramodydd arobryn sydd wedi cyhoeddi pymtheg cyfrol o farddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ymysg ei cyfrolau nodedig mae Perffaith Nam/ Perfect (Blemish, 2007), Murmur (2012 PBS Recommended Translation), Bondo, (Bloodaxe Books, 2017) a Tosturi (Barddas, 2022), a fu ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Cyhoeddir ei chyfrol nesaf, Parch gan Bloodaxe Books, ym mis Hydref 2025 a chyhoeddir cyfrol Arabeg o’i cherddi ym mis Chwefror eleni, Caned Pobl y Byd gan H’mm Foundation.
Mae’n Llywydd Wales PEN Cymru ac yn Athro Emerita ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant. Roedd hi hefyd yn Fardd Plant Cymru yn 2002, a hi yw’r Athro Barddoniaeth cyntaf yng Nghymru. Ymhlith ei gwobrau mae: Gwobr Llyfr y Flwyddyn 1990 am Aderyn Bach mewn Llaw; yr Anima Intranza International Poetry Prize (2009) am ei chyfraniad i farddoniaeth Ewropeaidd; a gwobr Chomondeley Award gan Society of Authors yn 2022 am ei chyfraniad sylweddol i farddoniaeth. Fe’i gwnaed hefyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol Lenyddol, y bardd Cymraeg cyntaf i dderbyn yr anrhydedd yn 2017.
Teithiodd i bedwar ban byd i ddarllen ei gwaith ac mae ei barddoniaeth wedi cael ei chyfieithu i dros ugain o ieithoedd, gan gynnwys Tsieinëeg, Sbaeneg, Eidaleg, Lithwaneg, Catalaneg, Hindi ac eraill.
Gwenllian Ellis
Daw Gwenllian Ellis yn wreiddiol o Bwllheli ond mae hi bellach yn byw yn Llundain. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Sgen I’m Syniad: Snogs, Secs, Sens yn 2022 gan Y Lolfa ac enillodd y gyfrol wobr Barn y Bobl yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn, 2023. Mae hi eisoes wedi cyhoeddi ei gwaith yng nghylchgronau Cara a Barddas, ar raglen Hansh ar S4C, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol a chwmni theatr Frân Wen. Bydd hi’n cyhoeddi ei nofel gyntaf yn 2025.
Dr Miriam Elin Jones
Mae Dr Miriam Elin Jones yn ddarlithydd ac yn Bennaeth ar Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe. Mae ei maes ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygiad ffuglen wyddonol y Gymraeg. Mae hi hefyd yn llenor creadigol ac yn ddramodydd. Bu’n rhan o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Cymru [Theatr Genedlaethol Cymru gynt] 2018-9, ac roedd hi’n un o’r criw aeth ati i sefydlu cylchgrawn Y Stamp yn 2016. Yn ogystal, cyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Nofel Gyntaf Crime Cymru 2022. Daw o Lanpumsaint, yn Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, ond mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mro Morgannwg.
Hammad Rind
Mae Hammad Rind yn awdur a chyfieithydd sy’n gweithio ar draws nifer o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, Wrdw, Perseg, a Saesneg. Roedd ei nofel gyntaf Four Dervishes (Seren Books, 2021) ar restr hir Gwobr Cymdeithas Ffuglen Wyddonol Prydain. Cyfieithodd Knotted Grief gan y bardd Indiaidd Naveen Kishore i Wrdw (Zuka Books) fel الجھا غم yn 2022 a chyd-gyfieithodd gasgliad o gerddi’r bardd Palesteinaidd Najwan Darwish o Arabeg i’r Gymraeg gydag Iestyn Tyne dan y teitl Nodiadlyfr bach y wawr (2025, Y Stamp). Mae gan Hammad brofiad o weithio gyda plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn 2021 cafodd ei gomisiynu i redeg prosiect o’r enw Morfil Trelluest, oedd yn defnyddio’r celfyddydau, ysgrifennu creadigol a phaentio – er budd trigolion yn Grangetown sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu deimladau o berthyn fel aelodau o gymunedau diasporig. Cafodd Hammad ei ddewis hefyd i ysgrifennu straeon byrion i blant ifanc sy’n cael eu cynnwys ar Stori Tic Toc (BBC Radio Cymru) o’r enw ‘Robin Be’ Bynnag’ ac ‘Alina a Lleuad Eid’.
Beirniaid Panel Saesneg
Carole Burns
Enwyd nofel Carole Burns, The Same Country, yn Llyfr Ffuglen Cymreig Gorau 2023 gan Wales Arts Review. Mae Carole yn weithiwr llawrydd ar gyfer cyhoeddiadau gan gynnwys The Washington Post a LitHub. Carole oedd enillydd Gwobr John C. Zacharis Ploughshares gyda The Missing Woman and Other Stories. Mae hi'n Athro Cyswllt mewn Saesneg ym Mhrifysgol Southampton ac yn byw yng Nghaerdydd.
***
Jason Camilleri
Mae gan Jason Camilleri dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio o fewn y celfyddydau yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n Uwch Reolwr Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae Jason wedi bod yn hwylusydd ac yn eiriolwr ers tro ar gyfer defnyddio Ysgrifennu Creadigol, Telynegiaeth, a Barddoniaeth fel ffurfiau o fynegiant ar gyfer dyrchafu llais ieuenctid a lleisiau cymunedau ymylol. Fel perfformiwr a hwylusydd, mae Jason yn defnyddio ffurfiau barddonol o delynegiaeth i archwilio hunaniaeth ddiwylliannol yng Nghymru a thu hwnt.
Jason oedd tu ôl i fenter Wicked Words ac o ganlyniad cyhoeddwydc casgliad o gerddi gan ddisgyblion ysgol oedd wedi dioddef bwlio. Mae ei ymgyrch i ddarparu cyfleoedd creadigol a mynegiannol wedi ei wireddu, fel sylfaenydd Radio Platfform a Lock Off; trwy datblygiad rhaglen Next Up, gan asio geiriau, perfformio barddoniaeth a theatr, a hefyd fel arweinydd ar brosiect adeiladu cyfalaf cyfredol sy'n anelu at ddarparu mannau creadigol i artistiaid sy'n dod i'r amlwg. Trwy bob prosiect creadigol mae Jason yn canolbwyntio ar adeiladu tirwedd greadigol sy'n fwy cynrychioliadol yn ddiwylliannol, a dad-drefedigaethu'r celfyddydau yng Nghymru.
***
Ned Thomas
Treuliodd Ned Thomas flynyddoedd fel newyddiadurwr yn Llundain ac yn dysgu llenyddiaeth ym mhrifysgolion Salamanca, Moscow ac Aberystwyth cyn dod yn Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru. Ef oedd sylfaenydd a golygydd cyntaf y cylchgrawn Planet ac ef hefyd sefydlodd Ganolfan Mercator sydd heddiw yn rhedeg y rhaglenni Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru. Mae wedi cyhoeddi astudiaethau beirniadol o George Orwell, Derek Walcott a Waldo Williams. Roedd The Welsh Extremist yn ddylanwadol yn ymgyrchoedd Cymraeg diwedd yr ugeinfed ganrif ac enillodd ei gofiant Bydoedd oedd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.
***
Eloise Williams
Mae Eloise Williams yn awdur llyfrau arobryn i bobl ifanc. Gaslight, Seaglass, Elen's Island, Wilde, Gonestrwydd a Gorwedd, i gyd wedi eu cyhoeddi gan Firefly Press aThe Tide Singer a'r Curio Collectors wedi eu cyhoeddi gan Barrington Stoke. Roedd hi'n awdur ac yn gyd-olygydd The Mab, sef cyfrol yn cynnwys unarddeg o straeon Y Mabinogi wedi eu hadrodd gan awduron cyfoes,a gyhoeddwyd gan Unbound.
Mae gan Eloise MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, ac fe'i dewiswyd i gymryd rhan yn rhaglen nodedig Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli. Eloise oedd y Children’s Laureate Wales cyntaf yn 2019-2021.
Ar ôl cael ei magu gyferbyn â llyfrgell yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, mae Eloise bellach yn byw mewn hen fwthyn yn Sir Benfro lle mae'n casglu straeon am wydr môr ac ysbrydion ac yn canu caneuon Cymreig yn uchel ar y traeth.