Cyflwyniad
Mae Taylor Edmonds yn fardd, awdur a hwylusydd creadigol o’r Bari. Mae ei gwaith yn archwilio themâu megis menywod, hunaniaeth, hunanwerth, cyswllt pobl â’i gilydd a natur. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth gyntaf, Back Teeth gan Broken Sleep Books yn 2022. Hi oedd Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol rhwng 2021-2022. Mae wedi derbyn Gwobr Rising Stars gan Llenyddiaeth Cymru a Gwasg Firefly am gerddi i bobl ifanc. Mae Taylor yn gweithio ar ei nofel ffuglen gyntaf i bobl ifanc ar hyn o bryd.
“Mae Llenyddiaeth Cymru wedi credu ynof fi a buddsoddi ynof fi ers dechrau fy ngyrfa, ac wedi fy nghefnogi mewn amryw o ffyrdd ar hyd y blynyddoedd. Mae hynny wedi helpu i gynyddu fy hyder ac wedi fy ngalluogi i droi fy syniadau yn rhywbeth byw.”
Mae Llenyddiaeth Cymru yn darparu cyfleoedd datblygu i gefnogi awduron i ddilyn llwybrau gyrfaoedd sy’n unigryw iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys datblygu crefft a hyder mewn llais a mynegiant, yn ogystal â meithrin sgiliau fel hwyluswyr creadigol. Mae Taylor wedi elwa o’r ddwy elfen hon, trwy gymryd rhan mewn cynlluniau datblygu megis Cynrychioli Cymru, cyrsiau preswyl yn Nhŷ Newydd, ac Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Yn ogystal, mae wedi derbyn nawdd i ddylunio a chyflawni prosiectau ysgrifennu creadigol at fudd y gymuned, sydd wedi ei helpu i ehangu ei “sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau”.
Hwyluso Creadigol
Daeth Taylor ar draws Llenyddiaeth Cymru am y tro cyntaf wedi iddi ddychwelyd i Gymru ar ôl ennill Gradd ym Mhrifysgol Cheltenham. Roedd yn chwilio am gysylltiadau yn y sîn lenyddol, a dechreuodd weithio gyda Where I’m Coming From, grŵp o unigolion yng Nghaerdydd oedd yn rhedeg digwyddiadau meic agored ac yn rhoi llwyfan i awduron newydd, y mwyafrif ohonynt o gefndir Du ac Asiaidd. Roedd rhai o’u digwyddiadau yn cael nawdd trwy Gronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru.
“Yn raddol, fe dyfodd fy hyder a dechreuais wneud ceisiadau i redeg fy ngweithdai fy hun.”
Trwy amrywiaeth o brosiectau, gweithiau comisiwn a chynlluniau nawdd, roedd modd i Taylor ddatblygu fel hwylusydd creadigol, gan feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi creadigrwydd a llesiant cyfranogwyr. Arweiniodd hyn at greu Writing for Joy, gweithdai sydd wedi eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau addysg a chymunedol, ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Ei nod yw gwneud ysgrifennu creadigol yn fwy hygyrch, ac i hyrwyddo ysgrifennu er llesiant. Bellach, mae’r gweithdai hyn yn rhan bwysig o weithgareddau llawrydd Taylor.
“Mae’r gefnogaeth dwi wedi ei dderbyn ar raglenni datblygu awduron, a nawdd tuag at gyfresi o weithdai wedi fy helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd ei angen arnaf i fod yn hwylusydd da. Mae wedi fy annog i drio rhedeg gweithdai ysgrifennu creadigol ar fy liwt fy hun, sef rhan helaeth o fy ngwaith llawrydd erbyn hyn.”
Canolbwyntio ar Brosiect: The Long View
Un o uchafbwyntiau Taylor yw’r prosiect The Long View, a gynlluniodd ar y cyd â’r awdur Nasia Sarwar-Skuse. Roedd The Long View yn gyfres o weithdai i fenywod oedd yn ffoaduriaid a cheiswyr lloches o’r Aurora Trinity Collective.
Dywedodd Taylor:
“Fe wnaethom ni gynnal gweithdai oedd yn canolbwyntio ar natur a pherthyn, gan wreiddio’n hunain yn ein hamgylchedd yng Nghaerdydd. Roeddem yn gasgliad o bobl â chefndiroedd amrywiol iawn, a phawb yn dod at ein gilydd i ysgrifennu, rhannu bwyd a rhannu straeon o’n diwylliannau. Ar ddiwedd y prosiect, fe wnaethom ni greu cerdd fideo, gyda’r menywod yn y grŵp yn darllen cerdd y gwnaethom ni ei hysgrifennu gyda’n gilydd. Roedd y prosiect hwn yn fan cychwyn imi ddechrau diffinio fy ngyrfa – sydd wedi’i seilio ar hwyluso creadigol yn bennaf – lle rwy’n darparu gweithdai ysgrifennu sy’n canolbwyntio ar greadigrwydd a lleisiant, cysylltu â natur a hunanofal. Rhoddodd Llenyddiaeth Cymru ffydd yn ein gweledigaeth ar gyfer y prosiect a rhoi’r rhyddid inni ddatblygu rhywbeth a fyddai’n werthfawr ac yn gynaliadwy.”
Datblygu Awduron
“Mae rhaglenni datblygu awduron wedi rhoi’r amser a’r gofod oedd ei angen arnaf fi i ddatblygu fy syniadau a’m gwaith ysgrifenedig, yn ogystal â ffordd i gysylltu ag awduron eraill.”
Fel rhan o’r cynllun Cynrychioli Cymru, cafodd Taylor ei mentora gan Emma Smith-Barton, sy’n ysgrifennu ffuglen i bobl ifanc. Cefnogodd Taylor i ysgrifennu drafft cyntaf ei nofel gyntaf i bobl ifanc. Dyma’r profiad cyntaf gafodd Taylor o fentora dwys, ac fe helpodd iddi fireinio syniad a phlot ei nofel, a gwella ei dealltwriaeth o’r broses o gyflwyno’i gwaith i asiantiaid.
“Daeth y cyfle i gael fy mentora ar yr amser iawn i mi, gan fy annog i gwblhau drafft o fy llawysgrif, ysgrifennu fy llythyr eglurhaol a’r crynodeb, yn ogystal â dechrau anfon fy ngwaith at asiantaid. Roedd Emma wirioneddol yn credu yn fy ngwaith. Helpodd fi i deimlo’n fwy hyderus yn fy ngallu, a fy ngwthioi wneud y gwaith anodd o orffen y drafft. Ers y mentora, rydw i wedi cyflwyno i’r rownd gyntaf o asiantiaid, a chafodd y nofel gydnabyddiaeth yng ngwobr FAB 2024 gan Faber.”
Mae nifer o raglenni datblygu Llenyddiaeth Cymru yn dod ag awduron at ei gilydd, boed hynny arlein, yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, neu mewn gwyliau megis Gŵyl y Gelli a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae Taylor yn nodi ei bod wedi creu ac adeiladu cymuned gefnogol o awduron trwy’r cyfleoedd hyn.
“Gall ysgrifennu fod yn weithgaredd unig, ac mae’r perthnasau rwyf wedi eu ffurfio wedi fy helpu, boed hynny trwy dderbyn adborth ar fy ysgrifennu, cyfeirio’n gilydd at gyfleoedd, a theimlo cefnogaeth wrth ddathlu llwyddiannau a delio â methiannau.”
Yn ogystal â datblygu rhwydweithiau personol, mae rhai o’r prosiectau mae Taylor wedi bod yn rhan ohonyn nhw yn galw am gydweithio a chyd-arbrofi. Un o’r cyflawniadau mae Taylor yn ymfalchïo fwyaf ynddo yw ffilm farddoniaeth gyda’r ddawnswraig Jodi Ann-Nicholson, a ariannwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Yr ysbrydoliaeth i’r cywaith hwn oedd y prosiect Plethu/Weave gan Llenyddiaeth Cymru a Cwmni Dawns Cymru, lle parwyd beirdd a dawnswyr i greu gweithiau celfyddydol amlddisgyblaethol newydd.
“Dyna’r tro cyntaf imi weithio gyda dawnsiwr, ac roedd yn arbennig i weld y modd roedd y symudiadau’n rhoi bywyd newydd i fy ngherdd ac yn ei chyfoethogi.”
Mae Taylor hefyd yn nodi fod y gefnogaeth a’r nawdd gan Llenyddiaeth Cymru wedi ei helpu i fod yn fwy gweledol i sefydliadau celfyddydol a noddwyr eraill, gan ei helpu i fod yn y stafelloedd a’r gofodau cywir er mwyn gwneud cysylltiadau sy’n gyrru ei gyrfa ymlaen.
“Does dim amheuaeth fod buddsoddiad Llenyddiaeth Cymru ynof fi a fy syniadau wedi chwarae rhan bwysig yn fy siwrne hyd yma, a fy nghael i lle ydw i heddiw. Rydw i wedi cael cyfleoedd i wneud gwaith rwy’n teimlo’n angerddol drosto, ac rydw i wedi cael llwyfan i sicrhau fod y gwaith hwnnw’n cael ei adnabod a’i glywed.”
I ddarganfod mwy am Taylor a’i gwaith, ewch draw i’w gwefan: Taylor Edmonds – Writer | Poet | Creative Facilitator