Sgwennu’n Well | Writing Well: 15 Mis o Ddatblygiad i Chwe Hwylusydd Llenyddol

Rhaglen ddatblygu gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer ymarferwyr llenyddol yw Sgwennu’n Well | Writing Well. Mae’r rhaglen eleni yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr llenyddol, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant, er mwyn eu llenwi â’r hyder sydd ei angen i gynllunio a chyflawni prosiectau ysgrifennu creadigol yn y gymuned. Eleni, mae’r cynllun yn ymwneud â thema byd natur.
Mae hon yn rhaglen 15 mis o hyd ar gyfer grŵp o hwyluswyr ar gychwyn neu ganol eu gyrfa, ac mae’n cynnwys sesiynau mentora, ysgoloriaeth o £1,000, cyfres o bum sesiwn hyfforddi arlein, cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a mwy.
Bydd y tri mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel datblygu a rheoli prosiectau, rhedeg cyllidebau, nodi a chyfathrebu effaith, diogelu eu grwpiau, codi arian a mwy. Yn dilyn y rhaglen hyfforddi gychwynnol, y bwriad yw cynnig cyllid i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen.
Roedd yr alwad agored, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025, wedi ennyn diddordeb mawr, ac ar ôl pwyso a mesur yn ofalus, mae’r panel wedi dethol chwe hwylusydd a fydd yn elwa o’r rhaglen yn 2025-2026:
- Helen Comerford
- Megan Lloyd
- Tracey Rhys
- Gillian Brownson
- Duke Al Durham
- Durre Shahwar
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu a chefnogi ein carfan newydd o hwyluswyr, ac at ddilyn eu taith drawsnewidiol. Darllenwch ragor am bob un ohonynt, gan gynnwys eu gobeithion am y rhaglen ar dudalen wefan Sgwennu’n Well.