Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Meleri Davies

Holi’r Awdur: Meleri Davies
Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?
Dydy hwn ddim yn hawdd i mi ateb. Dwi wastad wedi ysgrifennu a mae hynny mae’n debyg yn wahanol i fod wastad isio bod yn awdur. Dwi’n fardd sy’n ysgrifennu er mwyn prosesu a mae’r cyhoeddi wastad wedi bod yn eilradd i hynny. Mae hynny’n esbonio pam na wnes i rannu dim byd efo’r byd tan fy mod i yn fy mhedwar degau efallai. Dwi’n meddwl ei fod o lot i’w wneud â’m magwraeth i hefyd a’r disgwyliad i ffeindio swydd a throi at greadigrwydd fel hobi yn hytrach na galwedigaeth. Yn 46, dwi wedi mynd yn llawrydd i drio creu mwy o ofod i ysgrifennu felly cawn weld be ddaw nesa!
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Teulu, cymuned, pobol ond dwi hefyd yn cael ysbrydoliaeth o ddelweddau cryf – golygfa neu olau trawiadol neu ddarn o gelf. Dwi’n licio ffotograffiaeth ac yn aml yn ffeindio fod rhyw lun neu glip fideo dwi wedi ei dynnu yn esgor ar linellau o farddoniaeth. Cerdd yn ymateb i lun o fy mab ydy ‘Llun Penblwydd’ – y gerdd gyntaf i mi ei chyhoeddi mewn print erioed. Mae’r gerdd ‘Sgipio’ yn ymateb i fy nheimladau wrth wylio Lloer fy merch yn sgipio tuag adra o’r ysgol. Nes i ddal y foment honno mewn clip fideo ar fy ffôn symudol a mae’r gerdd a’r fideo yn mynd law yn llaw yn fy meddwl i.
Beth yw eich hoff lyfr neu awdur?
Mae The House of Spirits, Isabelle Allende yn un o’m hoff nofelau. Dwi di darllen nifer fawr o’i nofelau ond hon ydy’r orau gen i, heb os. O ran barddoniaeth Gymraeg, fy hoff gyfrol ydy ‘Mynd’ gan Marged Tudur. Dwi’n credu yng ngrym barddoniaeth a dwi’n cofio crio o waelod calon wrth ddarllan cerddi Marged. Cerddi galar ydyn nhw ond mae na iachâd hefyd o ysgrifennu a rhannu’r tristwch dwi’n meddwl.
Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?
Colli mam wnaeth fy ngwthio i ysgrifennu a sbarduno’r gyfrol hon. A finnau’n fam i 2 o blant ar y pryd, roedd ysgrifennu am y golled yn llesol i mi ac yn help i mi weithio trwy’r boen, ond mae’r gyfrol yn fwy na hynny hefyd dwi’n meddwl. Mae hi’n deyrnged i fy mam yn amlwg ond mae hi hefyd yn deyrnged i’r merched tawel hynny sydd ddim wedi cael cyfle i ruo yn greadigol, yn deyrnged i famau sy’n dal ati trwy gyfnodau tywyll, yn deyrnged i gymunedau caredig o bobol yn gweithio efo’i gilydd i greu byd gwell. Mae nhw’n gerddi dwi wedi eu byw dros gyfnod o ddegawd.
Pwy yw eich arwr a pam?
Fy mam. Arwres dawel ein teulu ni.
Allwch chi esbonio mwy am y llyfr os gwelwch yn dda?
Eich hoff le yn y byd a pam?
Moel Faban, Dyffryn Ogwen. Fama dwi’n mynd pan dwi angan llonydd. Er mod i’n caru pobol, dwi hefyd angan amsar ar ben fy hun a mae bryniau melynion y Carneddau’n sicr yn cynnig hynny. Dwi’n lwcus iawn o’r ardal dwi’n byw ynddi.
Oes gennych chi waith/digwyddiad arall ar y gweill?
Dwi’n mynd ar encil llenyddol ‘Llif’ i Dy Newydd am bythefnos ddiwedd Mai efo 13 o feirdd o Gymru ac Ewrop ac yna ymlaen i Ŵyl y Gelli. Dwi hefyd wrthi’n gweithio efo’r Fran Wen ar fonolog fel rhan o brosiect Lleisiau Coll – monolog am ferch o’r 1900 gafodd ei chyhuddo o geisio lladd ei hun a’i babi yn yr Afon Goch yn Llanberis.
Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?
Dwi wedi gwirioni. Gwirioni am fod y gyfrol yn deyrnged i mam ond hefyd am ei fod o’n arwydd o be sy’n bosib. Dydy hi byth rhy hwyr i ddechrau cyhoeddi a dwi’n falch mewn ffordd fod y gyfrol wedi dod ar y cyfnod yma yn fy mywyd. Dwi’n teimlo’n ffodus a hapus a dwi’n hynod ddiolchgar i’r beirniaid ac i Gyhoeddiadau’r Stamp am gredu yn y gyfrol a minnau.
Yng Ngeiriau’r Beirniaid…
Darllen / Gwrando Pellach:
Heledd Hulson, Bethan Jones a Kayley Roberts yn adolygu Rhuo ei distawrwydd hi – BBC Radio Cymru – Ffion Dafis, Clwb Darllen Rhaglen Ffion Dafis – ‘Rhuo ei distawrwydd hi’ gan Meleri Davies
Ogwen360 yn holi Meleri Davies –“Dwi’n caru byw yma”: Meleri Davies sy’n sôn am y pethau sy’n bwysig iddi – Ogwen360
Barn –Barddoniaeth, bywyd a balans – sgwrs â Meleri Davies | Barn
Prynu Copi o’r gyfrol – Rhuo ei distawrwydd hi – Meleri Davies — Cyhoeddiadau’r Stamp