Dewislen
English
Cysylltwch

Mapiau Heddiw, Mapiau Fory

Cyhoeddwyd Gwe 19 Meh 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mapiau Heddiw, Mapiau Fory
Mae Nicola Davies, y Children’s Laureate Wales, yn helpu disgyblion i fapio eu byd mewn prosiect newydd arloesol.

Mae Mapiau Heddiw, Mapiau Fory yn bartneriaeth fawr rhwng Cadw, Llenyddiaeth Cymru a Children’s Laureate Wales, Nicola Davies. Gyda’n gilydd, rydym yn cyflwyno prosiect creadigol newydd ar draws Cymru a fydd yn ysbrydoli plant i weld eu hamgylchedd drwy lygaid newydd. Mae’r prosiect yn rhoi treftadaeth, creadigrwydd a phrofiad byw plant yn ganolog i’w dysg, gan annog disgyblion i archwilio’r llefydd  y maent yn eu galw’n gartref – eu gorffennol, presennol a’u dyfodol.

Mapio treftadaeth, hunaniaeth a dychymyg

Wedi’i greu gan Nicola Davies, mae’r prosiect yn gwahodd disgyblion i ailystyried mapiau.

Bydd plant yn cael eu cefnogi i ymchwilio i’r dirwedd hanesyddol o’u cwmpas, gan ddarganfod sut mae cestyll, safleoedd hynafol, strydoedd, caeau ac arfordiroedd yn siapio hunaniaeth gymunedol yn ogystal â chof personol. Bydd y plant yn archwilio mapio fel ffordd o adrodd straeon am le, hunaniaeth a pherthyn, nid yn unig fel ymarfer technegol i arwain y ffordd. I wneud hynny byddant yn tynnu ar ysbrydoliaeth o ffynonellau mor amrywiol â phaentiadau ogofau yn oes yr arth a’r blaidd, mapiau canoloesol a’r modd y byddai’r Polynesiaid yn defnyddio llwybrau’r sêr i arwain y ffordd.

Mae’r prosiect wedi’i gysylltu’n agos â llyfr newydd Nicola Davies, The Map of Me (2026), sy’n adrodd hanes plentyn yn dod i adnabod dinas newydd gan ddefnyddio map personol a wnaed gan ei mam. Mae’r naratif yn modelu’r math o fapio creadigol y bydd disgyblion yn ei wneud: mapiau sy’n cynnwys tirnodau ystyrlon megis coed hoff, llwybrau diogel, mannau cyfarfod a chartrefi teuluol, yn hytrach na nodweddion cartograffeg gonfensiynol yn unig.

O syniadau plant i fapiau digidol byw

Elfen greadigol allweddol o’r prosiect fydd gweld yr artist a’r darlunydd Fran Evans yn gweithio’n uniongyrchol gyda syniadau’r plant i greu mapiau ar-lein pwrpasol ar gyfer pob ysgol sy’n cymryd rhan.

Gan dynnu ar luniau, ysgrifennu, sgyrsiau a pherfformiadau disgyblion, bydd Fran yn trosi eu hymatebion yn fapiau digidol cymhleth, aml-haenog sy’n adlewyrchu ymdeimlad unigryw pob ysgol o le.

Bydd y mapiau ar-lein hyn yn galluogi plant i weld eu syniadau’n cael eu gwerthfawrogi, eu dehongli a’u cyd-gyfuno’n weledol. Mae’r broses yn cyflwyno disgyblion i’r grefft o adrodd straeon yn ddigidol, gan atgyfnerthu’r neges bod mapiau’n gallu esblygu, dal emosiwn, ac adlewyrchu sawl llais ar yr un pryd.

Penllanw’r prosiect fydd corff ar y cyd o waith, gan gyfuno mapiau’r plant, perfformiadau a chanlyniadau digidol, gan gynnig portread pwerus o Gymru fel y’i gwelir trwy lygaid pobl ifanc.

Rôl Cadw

Mae partneriaeth Cadw yn gosod treftadaeth Gymreig wrth galon y prosiect, gan helpu disgyblion i ddeall sut mae eu straeon eu hunain yn cysylltu â hanes hwy’r tir. Trwy ymgysylltu â safleoedd Cadw, adnoddau dysgu a naratifau treftadaeth leol, bydd plant yn archwilio sut mae lleoedd yn newid dros amser, a pham maent yn bwysig.

Drwy gysylltu mapio creadigol ag addysg treftadaeth, bydd disgyblion yn:

  • Darganfod sut mae tirweddau’n cael eu siapio gan hanes a gweithgarwch dynol
  • Deall arwyddocâd diwylliannol tirnodau lleol
  • Archwilio sut gall gwybodaeth am dreftadaeth lywio meddwl am y dyfodol a gofal am le

Mae’r sylfaen hanesyddol hon yn rhoi dyfnder a dilysrwydd i waith creadigol y plant, gan eu hannog i weld eu hunain fel rhan o stori barhaus.

Gydag arbenigedd treftadaeth Cadw, adrodd straeon Nicola Davies, a gwaith Fran Evans yn troi syniadau plant yn fapiau ar-lein byw, mae Mapiau Heddiw, Mapiau Yfory yn siŵr o ddyfnhau cysylltiad disgyblion â’u hamgylcheddau lleol tra’n eu grymuso i ddychmygu tirweddau’r dyfodol.

Gyda diolch i’r Ashley Foundation

Gwybodaeth ychwanegol

Sut mae’r Prosiect yn Cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru

Mae Mapiau Heddiw, Mapiau Fory yn cyd-fynd yn agos ag uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru newydd, gan gynnig profiad dysgu cyfoethog, traws ddisgyblaethol.

Datblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog

Drwy ymchwilio i’w hardal leol a’u treftadaeth, bydd disgyblion yn cryfhau sgiliau trin gwybodaeth, meddwl yn feirniadol ac arsylwi, gan ddysgu i ofyn cwestiynau, dehongli tystiolaeth a gweithio gyda mwy o annibyniaeth.

Gwella llythrennedd gweledol a gofodol

Drwy ddadansoddi mapiau hanesyddol a chyfoes a chreu eu mapiau eu hunain, yn gorfforol ac yn ddigidol, bydd plant yn dyfnhau eu dealltwriaeth o sut y gellir cynrychioli lleoedd. Bydd eu gwaith yn cyfrannu at fap cydweithredol mwy, gan ddod ag ymatebion creadigol ynghyd gan ysgolion ledled Cymru.

Codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a gwydnwch yn y dyfodol

Gyda safbwynt cadwraeth Cadw yn llywio’r drafodaeth, bydd disgyblion yn archwilio sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar amgylcheddau naturiol a safleoedd hanesyddol, ac yn ystyried sut gall cymunedau ymateb yn greadigol ac yn gyfrifol.

Datblygu sgiliau mynegiannol a chydweithredol

Efallai y bydd rhai grwpiau’n dewis ymateb drwy berfformio, barddoniaeth, cân, llenyddiaeth lafar neu ddarnau protest, gan gryfhau sgiliau llafar, gwaith tîm a hyder wrth roi llais i’w syniadau am le a hunaniaeth.

 

 

 

Plant a Phobl Ifanc