Sarah McCreadie, Bardd EWRO 2025 Cymru

Mae pawb sy’n gyfarwydd â Sarah a’i gwaith yn gwybod fod y bêl gron yn ddiléit anferth iddi! Mae ei hangerdd dros dîm Cymru mor gryf â’i hangerdd dros farddoniaeth. Ym mis Gorffennaf, bydd Sarah yn dilyn y garfan i Lucerne ac yna ymlaen i St Gallen, gan eu cefnogi wrth iddynt fynd benben â’r Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr. Bydd yn ymateb yn greadigol i ymgyrch Cymru: i ganu clodydd, adrodd hanesion, trafod ei phrofiadau fel rhan o’r Wal Goch, ysbrydoli’r genhedlaeth iau i rannu geiriau o gefnogaeth, a thrwy hyn oll, ddiddanu cynulleidfaoedd yn y Swistir, yng Nghymru ac ar draws y byd.
Rhwng nawr a diwedd gemau’r grwpiau, mae Sarah wedi ei herio i ysgrifennu 15 o gerddi! Braf yw cael cyhoeddi’r cyntaf ohonynt heddiw, sef ‘Rydyn ni yma / We are here‘, a ysgrifennwyd wedi iddi ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar eu taith i gopa’r Wyddfa ar gyfer cyhoeddiad y garfan ar ddydd Iau 19 Mehefin.
Bydd y cerddi a gomisiynir yn cael eu cyhoeddi ar ein sianeli, gan gynnwys eu cyfryngau cymdeithasol, gwefan a’u cylchlythyr:
Instagram: @llencymru_litwales
Facebook: www.facebook.com/LlenCymruLitWales
Gwefan: www.llenyddiaethcymru.org
Cylchlythyr: Cofrestru
Mae Sarah McCreadie yn fardd o Gaerdydd sydd yn byw yn Brixton, de Llundain ar hyn o bryd. Mae hi wedi perfformio ei barddoniaeth o Gasnewydd i Efrog Newydd. Enwyd hi yn un o Feirdd y Flwyddyn Craig Charles ar BBC Radio 6Music. Bu’n un o Feirdd Ifanc y Barbican, yn fardd ‘Words First’ BBC 1Xtra, ac yn artist preswyl yn y Roundhouse. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn Saesneg ac yn ddwyieithog, ac mae wedi ysgrifennu cerddi i sefydliadau a chyhoeddiadau amrywiol, o Vanity Fair i Match of the Day.
Dywedodd Sarah: “Mae’r cyfle yma’n freuddwyd llwyr imi! Mae’n gymaint o fraint i gael llenwi rôl Bardd EWRO 2025 Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen ac yn llawn cyffro i ddechrau ar y gwaith.
“Mae pêl-droed a barddoniaeth yn bwerau mawr yn fy mywyd, ac yn fy marn i, maen nhw’n cydblethu’n berffaith – yn enwedig yng Nghymru. Llên gwerin y gêm, ein hunaniaeth, ergyd fedrus Fishlock o’r bêl, caneuon Y Wal Goch – barddonol, bob un!
“Fel pob un o gefnogwyr Cymru, rwy’n angerddol dros gêm y menywod, ac eisiau helpu ei chodi ymhellach. Allaf i ddim aros i wneud hyn trwy fy marddoniaeth. Mae gweld ein menywod mewn twrnamaint mawr fel hwn yn foment hanesyddol, ac mae’n fraint cael rhoi pensil ar bapur i gofnodi ein hantur. Cymru am byth!”
Mae Sarah ar siwrne i ddysgu Cymraeg, ac y mae eisoes yn plethu geiriau Cymraeg i’w cherddi. Ar gyfer y prosiect hwn, bydd yn cydweithio gyda’r bardd arobryn, Marged Tudur, i gyfieithu rhai o’i darnau i’r Gymraeg.
Mae Marged yn fardd, golygydd a darlithydd o Forfa Nefyn, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae hi’n darlithio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Yn 2020 cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Mynd (Gwasg Carreg Gwalch), a enillodd gategori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021.
Mae’r prosiect hwn, a wireddir gan Lenyddiaeth Cymru, yn un o nifer o brosiectau sydd wedi eu hariannu gan Gronfa Cymorth Partner EURO 2025 Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon a Diwylliant, Jack Sargeant: “Mae penodiad Sarah fel Bardd EWRO 2025 Cymru yn cysylltu ein traddodiad barddol cyfoethog gyda’n tîm menywod a’n dathlu cyrraedd carreg filltir bwysig. Mae’r cydweithio hwn yn enghraifft o greadigrwydd Cymru ar ei gorau, gan ddathlu ein treftadaeth ddiwylliannol a’n llwyddiannau ym myd y campau.
“Bydd y prosiect hwn, a gefnogir gan Gronfa Cymorth Partner Ewro 2025 Llywodraeth Cymru gwerth £1 miliwn, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf tra hefyd yn hyrwyddo gwerthoedd Cymru yn fyd-eang. Mae angerdd Sarah dros farddoniaeth a phêl-droed yn ei gwneud hi’r dewis perffaith i gofnodi taith hanesyddol ein tîm menywod Cymru, a bydd cyfieithiadau Marged Tudur yn sicrhau fod hyd yn oed rhagor yn gallu cael blas ar ei gwaith.”
Er nad yw pêl-droed a llenyddiaeth yn ymddangos fel partneriaid naturiol ar yr olwg gyntaf, maent wedi ysbrydoli partneriaeth hirdymor rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae ein gwaith ar-y-cyd wedi arwain at brosiectau lle mae barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol wedi ysbrydoli cefnogwyr Cymru, wedi sbarduno dychymyg awduron ifanc, ac mae’r gweithiau a gyfansoddwyd wedi denu cynulleidfaoedd newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae’n wych cydweithio unwaith eto â Llenyddiaeth Cymru i uno pêl-droed a barddoniaeth, sydd ill dau mor bwysig i ysbryd ein cenedl.
“Rydym yn falch bod y bartneriaeth hon yn anrhydeddu traddodiad cyfoethog Cymreig, lle byddai beirdd yn sefyll ochr yn ochr â’r rhai a aeth i’r frwydr i ddathlu dewrder ac ysbrydoli cymunedau, ac yn ei ail-ddychmygu ar gyfer y presennol.
“Mae gwaith Sarah McCreadie yn cyfleu angerdd, balchder a phwrpas yr eiliad hanesyddol hon i Dîm Cenedlaethol Menywod Cymru a’r Wal Goch. Gyda chefnogaeth Cronfa Cymorth Partner Euro 2025 Llywodraeth Cymru, mae barddoniaeth greadigol Sarah yn dod â’r daith hon yn fyw, gan hyrwyddo Cymru, cysylltu â chefnogwyr hen a newydd, ac adlewyrchu natur gynhwysol pêl-droed yng Nghymru, a’r grym sydd ganddo i’n huno.
“Mae hefyd yn nodi cynnydd yn erbyn yr amcan yn ein strategaeth, ‘Cymru, Llesiant a’r Byd’, i benodi bardd preswyl sy’n cyfathrebu gwaith Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn rhoi llwyfan i leisiau ein cymuned bêl-droed. Gobeithiwn y bydd y cydweithrediad creadigol hwn yn gadael etifeddiaeth barhaol o greadigrwydd a balchder cenedlaethol fydd a bywyd tu hwnt i’r twrnamaint.”
Byddwn yn cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a sefydliadau partner eraill i hyrwyddo ac amlygu gwaith Sarah, gan ymgysylltu â chynulleidfaoedd nad ydynt efallai’n ystyried eu hunain yn ddarllenwyr barddoniaeth.
Bydd y gwaith yn ffurfio gwaddol ar gyfer EWRO 2025 sy’n hyrwyddo pêl-droed menywod a gwerthoedd sy’n diffinio Cymreictod, sy’n grymuso ac yn ysgogi cyfranogiad ar bob lefel, ac yn cefnogi llythrennedd pobl ifanc trwy danio angerdd newydd ynddynt dros ddarllen ac ysgrifennu barddoniaeth.