Rydyn ni yma
Tân, tonnau
a phêl-droed
a greodd
y copa hwn
Ni ddechreuodd y daith gyda phedair gôl
dechreuodd pan oedd y menywod hanesyddol hyn
yn ferched bach mewn citiau rhy fawr
ac yn mentro cicio pêl am y tro cyntaf
Dechreuodd â chamau cyntaf 1973
dechreuodd â merched Add Gorff
yn cicio’n erbyn y tresi
Taswn i’n cael siarad â’r Rhiannon fach
mi ddwedwn wrthi am gredu
Ni esgynnodd y creigiau hynafol hyn
a’r llwybr heb ôl traed
ni luniodd y map
a’r gwynt fydd yn adrodd y stori am genedlaethau
Pob gôl oedd gam yn nes at y copa
cysegru cyrff i gyrraedd y brig
calonnau’n curo dan y crysau coch
canfod anfeidroldeb ym marwydos 90 munud
i gael bod y cyntaf i sefyll ar ben y mynydd
Nid oes ond un ffordd o’n mesur –
fesul y camau a gymerwn mewn styds
a hetiau bwced
Mae pob dim yn amhosib nes ei fod yn bosib
meddai Rhian
Torrodd lwybr drwy’r lludw
Ninnau gamodd i ôl ei gwadnau ar greigiau’r Wyddfa
Mae’n teimlo fel ffilm fyny fama
meddai Liv
wrth gwestiynu p’un ai breuddwyd ydi’r cyfan
 gwalltiau wedi’u clymu
a CYMRU wedi’i naddu ar galonnau,
dringodd arwyr cenedl
i fod yn un â’r sêr
Maen nhw’n dweud bod copa mynydd
yn addoldy i rai
meddai Gethin
pêl-droed
yw nefoedd i ni
Rydyn ni ar ben Cymru
neu mewn geiriau eraill –
rydyn ni ar ben y byd
O’r diwedd
rydyn ni yma
Sarah McCreadie
Bardd EWRO 2025 Cymru
Cyfieithiad : Marged Tudur
We are here
Fire and waves
and football
forged
this mountain peak
Y daith did not begin with four Cymru goals
it began when these menywod hanesyddol were
girls in baggy kits
who dared kick a ball for the first time
and it began with our first steps of 1973
and it began with the rebel girls of P.E.
To the child she was
Rhiannon says believe
We have scaled these ancient rocks
this untread path
wrote our own map
the wind will carry through generations
Each goal a summit step
gave our bodies for the apex
hearts pounding under red shirts
finding infinity in the embers of 90 minutes
to be the first to stand on mountaintop
Do not measure us in anything
but each step we have taken in studded boots
and bucket hats
Rhian says
Something is impossible till it isn’t
Trailblazing in ash
Her footprints we followed on Yr Wyddfa rock
Liv says
Up here, it feels like a movie
Wonders when it will feel real
Folk heroes with ponytails and
Cymru written across hearts
have climbed to be at one with the sky and the stars
Gethin says
he heard for some, the top of a mountain
is a place of worship
we found nefoedd
through pel-droed
We are on the top of Wales
which is to say, the world
Rydyn ni yma
We are here
At last
Sarah McCreadie
Cymru EWRO 2025 Poet