Cafodd Prosiect Llên mewn Lle Tyddewi ei arwain gan yr hwylusydd ysgrifennu creadigol Kerry Steed a’i gyflwyno mewn partneriaeth ag EcoDewi, Cwmni Buddiant Cymunedol wedi’i leoli yn Nhyddewi sy’n gweithio i wella bioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol ar draws y penrhyn.
Arweiniodd Kerry ystod eang o weithgareddau gweithdy ysbrydoledig, a daeth ag amrywiaeth o artistiaid, ecolegwyr ac arbenigwyr eraill ynghyd i weithio ar draws y gymuned, gan gynnwys: Duke Al Durham, Nicola Davies, Jon Hudson, Lou Luddington a Susan Richardson. Cynhaliwyd gweithdai yn yr ysgol leol, yng ngardd gymunedol EcoDewi a dôl Maes Glas Fryn, ar lwybr yr arfordir ger Tyddewi, ac mewn gofod gweithdy yng nghanol y ddinas.
Mae adborth gan y cyfranogwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn:
“Gweithdy gwych yn rhoi persbectif newydd ar ysgrifennu ac edrych ar y byd naturiol mewn ffordd fanwl a meddylgar / ymwybodol.” “ysbrydoledig ac yn ysgogi’r meddwl”
“gwnaeth i mi feddwl am blanhigion a fy rhan i yn y byd”
“mae cael y cyfle i feddwl a chyfathrebu tu allan i fy ‘comfort zone’ wedi fy ysgogi ac yn brofiad gwerth chweil” “gweithdy ysbrydoledig, mae ymrwymiad y gymuned wedi gadael argraff fawr arnaf”
Wrth adlewyrchu ar y prosiect cyfan, dywedodd Kerry: “Gwnaeth EcoDewi ac aelodau’r gymuned ymgysylltu’n fawr â’r broses ysgrifennu – gan gynnwys y rhai a rannodd, ar ddechrau’r gweithdai, nad oeddent ‘yn ystyried eu hunain yn awduron.’ Galluogodd y gweithdai iddynt ddarganfod sut y gall ysgrifennu fod yn arf defnyddiol a chreadigol ar gyfer archwilio eu perthynas a’u profiad â’r dirwedd leol, prosiectau EcoDewi a’r argyfwng hinsawdd. Roedd eu parodrwydd i daflu eu hunain i mewn i’r prosiect ac ysgrifennu yn uchafbwynt i mi.”
Cynhelir digwyddiad arbennig yn yr Hydref yng ngardd gymunedol EcoDewi pan fydd gwaith celf ceramig gan yr artist lleol Rosemary Alderwick yn cael ei dadorchuddio. Bydd y gwaith yn cynnwys cerdd gan Kerry Steed wedi’i seilio ar y gweithiau ysgrifennu creadigol a’r sgyrsiau a gafwyd yn ystod y prosiect.