Llên mewn Lle
Mae Llên mewn Lle yn brosiect newydd sydd wedi ei ddyfeisio gan Llenyddiaeth Cymru ac a gefnogir gan WWF Cymru, sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth.
Mae’r prosiect yn cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu a chyflawni gweithgaredd gyda chymuned benodol o’u dewis hwy. Mae tri prosiect peilot yn cael eu cefnogi gennym yn 2022-2023, sef Gwledda, dan ofal Iola Ynyr yn Rhosgadfan; Ffrwyth ein Tân, prosiect gan Siôn Tomos Owen yn Nhreherbert; a The LUMIN Syllabus gan Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse yn Abertawe. Nod y prosiectau hyn yw datblygu cymunedau gwydn drwy archwilio a deall eu eco-systemau lleol. Bydd y prosiectau hefyd yn cyfrannu at drafodaethau ehangach ar ddod o hyd i atebion ymarferol i effeithiau andwyol yr argyfwng hinsawdd a natur.
Dywedodd Elan Grug Muse, un o aelodau’r Panel fu’n dethol ceisiadau:
Ces i fy ysbrydoli wrth ddarllen yr holl geisiadau ddaeth i law, roedd y safon yn uchel iawn ac rydw i’n arbennig o gyffrous am yr hwyluswyr sydd wedi eu dewis – maent oll yn gwbwl wahanol a dwi’n edrych ymlaen yn arw i weld y gwaith yn dod i ffrwyth wrth iddyn nhw fynd ati i weithio gyda’u cymunedau.
Darllenwch ragor am y prosiectau unigol isod.