
‘Sut i gael eich cyhoeddi’: gyda Kate Mosse mewn sgwrs gydag Elaine Canning, Cyfarwyddwr Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe
Ydych chi erioed wedi breuddwydio am yrfa ysgrifennu ond doeddech chi ddim yn ddigon hyderus i fynd amdani? Neu ydych chi’n teimlo bod gormod o rwystrau yn y byd cyhoeddi i’ch gwaith chi gael ei gyhoeddi? Ymunwch â’r nofelydd tra phoblogaidd a Chadeirydd beirniaid Gwobr Discoveries, Kate Mosse, am sgwrs a fydd yn eich ysbrydoli am ei thaith a rhaglen ysgrifennu a gwobr Discoveries y Women’s Prize Trust.
Wedi’i chynnal mewn partneriaeth ag Audible, Curtis Brown Literary Agency a Curtis Brown Creative Writing School, mae rhaglen Discoveries yn mynd i’r afael â’r heriau mae menywod yn eu hwynebu fel awduron ac yn dod o hyd i ddoniau newydd. Mae mynediad am ddim i’r rhaglen sy’n agored i bob menyw dros 18 oed yn y DU neu Iwerddon ac nid oes rhaid bod awduron wedi gorffen eu nofel. Gall menywod nad yw eu gwaith wedi’i gyhoeddi ac nad oes asiant ganddynt gyflwyno dechrau nofel yn Saesneg – hyd at 10,000 o eiriau – am gyfle i gymryd rhan mewn cwrs ysgrifennu creadigol pwrpasol, sicrhau pecynnau mentora wedi’u personoli a chynnig o gynrychiolaeth gan asiant llenyddol, ynghyd â gwobr gwerth £5000. Mae’r beirniaid yn chwilio am botensial, nid sglein. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://womensprize.com/discoveries
Cefnogir y digwyddiad gan y Women’s Prize Trust.
Mae Kate Mosse CBE yn nofelydd, yn dramodydd, yn berfformiwr theatr ac yn awdur hanes a hunangofiant rhyngwladol hynod boblogaidd. Mae hi hefyd yn ymgyrchydd sy’n cefnogi creadigrwydd benywaidd ac yn Gyfarwyddwr Sylfaenydd y wobr arobryn Ffuglen gan Fenywod (sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 30 yn 2025) a Gwobr y Menywod am Lyfr Ffeithiol. Mae llyfrau Kate wedi cael eu haddasu ar gyfer y llwyfan a’r teledu, wedi’u cyfieithu i 38 o ieithoedd ac wedi’u cyhoeddi mewn dros bedwar deg o wledydd.