Dewislen
English
Cysylltwch

Mentoriaid Cynrychioli Cymru 2025-2026

Alys Conran
Yn mentora: Silvia Rose
Mwy
Bethan Gwanas
Yn mentora: Lowri Hedd Vaughan
Mwy
Duke Al
Yn mentora: Grace O’Brien
Mwy
Fflur Dafydd
Yn mentora: Gwenno Gwilym
Mwy
Jan Carson
Yn mentora: Claire Pickard
Mwy
Jannat Ahmed
Yn Mentora: Nadheem
Mwy
Jonathan Edwards
Yn mentora: Michael Kelleher
Mwy
Kirsty Logan
Yn mentora: Ivy Femke Taylor
Mwy
Llwyd Owen
Yn mentora: Steffan Wilson-Jones
Mwy
Manon Steffan Ros
Yn mentora: Gruffydd Sion Ywain
Mwy
Rachel Trezise
Yn mentora: Paz Koloman Kaiba
Mwy
Taz Rahman
Yn mentora: Freya Blyth
Mwy
Vanessa Kisuule
Yn mentora: Krystal S. Lowe
Mwy
Zoë Brigley Thompson
Yn mentora: Rhiannon Fielder-Hobbs
Mwy
Alys Conran
Yn mentora: Silvia Rose

Llun: Steve Bliss

Mae Alys Conran yn ysgrifennu nofelau, straeon byrion, barddoniaeth, ysgrifau creadigol a chyfieithiadau llenyddol. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Pigeon (Parthian Books, 2016), restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn (Saesneg); cyrhaeddodd ei hail nofel, Dignity (Weidenfeld a Nicolson, 2019) restr fer Llyfr y Flwyddyn yn ogystal. Hi oedd Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli ar gyfer 2019-20, gan ymddangos mewn gwyliau ledled y byd, ac roedd yn rhan o Arddangosfa Lenyddiaeth Ryngwladol y Ganolfan Ysgrifennu Cenedlaethol & Chyngor Prydeinig 2020,  wedi iddi gael ei henwi fel un o 'ddeg awdur sy'n llunio ein dyfodol'. Mae ei ffuglen wedi cael ei ddramateiddio ar y radio (BBC Radio 4, BBC Radio 3, BBC Radio Cymru), wedi cael ei hanimeiddio, wedi ei droi yn gynhyrchiad llwyfan cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae'n cael ei datblygu fel ffilm. Mae Pigeon bellach ar y cwricwlwm TGAU Saesneg (CBAC). Mae hi'n Uwch Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mangor.

Gwefan: https://www.alysconran.com/

Cau
Bethan Gwanas
Yn mentora: Lowri Hedd Vaughan

Mae Bethan Gwanas yn awdur dros 50 o lyfrau poblogaidd. Cafodd ei nofel gyntaf Amdani! ei haddasu yn gyfres deledu a sioe lwyfan. Enillodd wobr Tir na n-Og yn 2001 (Llinyn Trôns) a 2003 (Sgôr), a Gwobr Goffa T Llew Jones gyda Gwylliaid. Cyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn gyda Hi yw Fy Ffrind. Mae ei llyfrau i ddysgwyr, trioleg Bywyd Blodwen Jones ac Yn ei Gwsg yn dal i werthu’n rhyfeddol o dda.

Bu’n olygydd gyda Gwasg Gwynedd am flynyddoedd, ac un o’r llyfrau hynny oedd Awst yn Anogia gan y diweddar Gareth F. Williams, y gyfrol a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2015.

Yn 2024, derbyniodd Bethan Wobr Mary Vaughan Jones, yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru, i ddathlu ei chyfraniad rhagorol i lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Mae’n byw ger Dolgellau ac yn mwynhau beicio.

Instagram: @bethangwanas

Cau
Duke Al
Yn mentora: Grace O’Brien

Mae Duke Al yn artist barddoniaeth lafar arobryn, awdur a hwylusydd creadigol. Mae ysgrifennu rhigymau yn therapi iddo. Ers yn ifanc iawn, byddai’n sgriblo rapiau a cherddi mewn llyfr nodiadau. Dyna sut roedd yn mynegi ei hun; dull o ddianc ac o herio ei gyflwr OCD. Taniwyd angerdd at eiriau, llif a rhythm. Wedi derbyn diagnosis o Glefyd y Siwgr Math 1 yn 23 oed, daeth y feiro yn hollbwysig, yn ei gynorthwyo i brosesu a mynegi ei emosiynau.

Erbyn hyn, mae Duke yn defnyddio ei grefft er mwyn creu newid dylanwadol, fesul rhigwm. Mae ei gasgliad diweddaraf Imagine We Trade Bodies With Sheep ar gael nawr. Mae ei waith wedi ymddangos gyda Go.Compare Six Nations 2025, FAW, Cardiff Rugby, Creative Cardiff, TNT Sports, BBC Wales, FujiFilm UK, Cardiff Metropolitan University, Arts For Health and Wellbeing a BBC Scrum V ar gyfer y Chwe Gwlad 2022.

'Anhygoel' John Cooper Clarke am Duke Al.

Gwefan: https://www.dukeal.com/
Instagram: @dukealdurham

Cau
Fflur Dafydd
Yn mentora: Gwenno Gwilym

Llun: Celf Calon

Mae Fflur Dafydd yn sgriptwraig ac yn awdur sydd wedi cyhoeddi 10 cyfrol o ryddiaith. Enillodd ddwy o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol - y Fedal Ryddiaith yn 2006 am ei nofel Atyniad a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am ei nofel Y Llyfrgell. Mae hi hefyd wedi derbyn sawl enwebiad BAFTA Cymru am ei gwaith ym maes teledu. Mae’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar draws sawl cyfrwng. Ei chyfrolau diweddaraf yw Lloerganiadau (Y Lolfa, 2020) The Library Suicides a The House of Water (Hodder & Stoughton, 2023 & 2025). Mae ei gwaith sgriptio yn cynnwys y ffilm nodwedd Y Llyfrgell i BBC Films, y cyfresi Parch, Yr Amgueddfa, 35 Awr a 35 Diwrnod i S4C , Trigger Point i ITV a’r gyfres ddrama Mothercover i BBC Radio 4.  

Gwefan: https://www.fflurdafydd.com/
Instagram: @fflur_dafydd

Cau
Jan Carson
Yn mentora: Claire Pickard

Llun: Jonathan Ryder

Mae’r awdur Jan Carson yn byw ym Melffast. Mae wedi cyhoeddi tair nofel, tri chasgliad o straeon byrion a dau gasgliad o lên meicro. Enillodd ei nofel The Fire Starters Wobr yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Llenyddiaeth Iwerddon yn 2019. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, The Raptures gan Doubleday yn 2022, ac fe gyrhaeddodd rhestr fer gwobr An Post Irish Novel of the Year, a gwobr Kerry Group Novel of the Year. Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion Quickly, While They Still Have Horses gan Doubleday (UK) yn Ebrill 2024, a Scribner (US) fis Gorffennaf 2024. Mae ei gwaith wedi ei ddarlledu ar BBC Radio 3 a BBC Radio 4 ac RTE. Hi yw Cymrawd Canolfan Seamus Heaney 2025 ym Mhrifysgol Queen’s, Belffast, ac mae’n Gymrawd y Royal Society of Literature. Cynhyrchwyd ei drama lwyfan gyntaf, addasiad o glasur i blant The Velveteen Rabbit gan Replay Theatre Company yn Theatr y Lyric, Belffast fis Mawrth 2025. Bydd ei nofel nesaf, Few and Far Between, yn ymddangos yn 2026.

Gwefan: https://www.jancarson.co.uk/
Instagram: @jancarsonstories

Cau
Jannat Ahmed
Yn Mentora: Nadheem

Llun: Caerdydd Creadigol

Mae Jannat Ahmed yn gyd-sefydlydd a golygydd gwasg a chylchgrawn Lucent Dreaming. Mae wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, ac mae’n awdur a darlunydd achlysurol. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi gan Poetry Wales, Poetry Birmingham, Poetry London a Poetry Review. Mae ganddi radd MA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caerdydd.

Gwefan: https://jannatahmed.com/

Cau
Jonathan Edwards
Yn mentora: Michael Kelleher

Enillodd casgliad barddoniaeth cyntaf Jonathan Edwards, My Family and Other Superheroes (Seren, 2014), Wobr Farddoniaeth Costa a Gwobr y People’s Choice Award yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Fenton Aldeburgh First Collection Prize. Enillodd ei ail gasgliad Gen (Seren 2018) Wobr y People’s Choice Award yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn, a chyrhaeddodd ei gerdd am Bont Casnewydd restr fer y Forward Prize for Best Single Poem 2019. Derbyniodd Wobr Troubadour yn 2022. Mae wedi bod yn feirniad ar gyfer y National Poetry Competition a Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a bu’n awdur preswyl yn Llyfrgell Gladstone ac yng nghartref Dylan Thomas yn Nhalacharn. Mae Jonathan yn byw ym Mhont-y-cymer ger Caerffili, ac mae'n Gymrawd Ymgynghorol y Royal Literary Fund.

Cau
Kirsty Logan
Yn mentora: Ivy Femke Taylor

Cyfrolau diweddaraf Kirsty Logan yw’r casgliad straeon No & Other Love Stories a’r cofiant The Unfamiliar: A Queer Motherhood Memoir. Mae’n awdur tair nofel, tri chasgliad o straeon, dau bamffled, drama radio 10 awr ar gyfer Audible, yn cydweithio ar nifer o brosiectau gyda cherddorion ac artistiaid gweledol, ac yn awdur tua 300 o straeon byrion. Mae ei llyfrau wedi ennill gwobrau Lambda, Polari, Saboteur, Scott a Gavin Wallace. Mae ei gwaith wedi ei ddethol ar gyfer y teledu, ei ddatblygu ar gyfer ffilm, ei addasu ar gyfer y llwyfan, ei recordio ar gyfer radio a phodlediadau, ei arddangos mewn orielau ac wedi ei ddosbarthu o beiriant Wurlitzer hynafol ar gyfer sigarennau. Ar hyn o bryd mae’n cydweithio ar amrywiol brosiectau ym myd ffilm, teledu, pamffledi a pherfformiad.

Gwefan: https://www.kirstylogan.com/
Instagram: @kirstylogan

Cau
Llwyd Owen
Yn mentora: Steffan Wilson-Jones

Yn ddiamod, Llwyd Owen yw’r awdur gorau sy’n byw yn ei gartref teuluol (er bod hynny’n agored i newid). Amser maith yn ôl, efe oedd enfant terrible llenyddiaeth Cymru. Daeth ei nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, yn agos at gipio Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau 2005, gan fethu allan ar y brif wobr oherwydd bod y gwaith “yn mynd y tu hwnt i derfynau cyhoeddi arferol”; rhywbeth sy’n dal i’w lenwi â balchder hyd heddiw. Ers hynny, mae Llwyd wedi cyhoeddi pymtheg nofel, gan gynnwys wyth yng nghyfres Gerddi Hwyan, sy’n adrodd hanes heddweision a dihirod y dref ddychmygol yng nghymoedd de Cymru, a gafodd ei disgrifio gan un adolygydd fel “Cwmderi ar crac”. Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007, a chyrhaeddodd Iaith y Nefoedd, prosiect ar y cyd â’r band Yr Ods, y rhestr fer yn 2019. Y Lolfa sydd wedi cyhoeddi pob un o’i nofelau, gan gynnwys y ddiweddaraf, Bechgyn Drwg am Byth.

Instagram: @llwyd_owen

Cau
Manon Steffan Ros
Yn mentora: Gruffydd Sion Ywain

Llun: Robin Edwards

Mae Manon Steffan Ros yn awdur, sgriptwraig a cholofnydd sydd wedi cyhoeddi mwy na deugain o lyfrau.

Mae ei gwaith wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Tir Na N’Og, y Yoto Carnegie Medal for Writing a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Cau
Rachel Trezise
Yn mentora: Paz Koloman Kaiba

Llun: Kristina Bursać

Mae Rachel Trezise yn nofelydd a dramodydd o Gwm Rhondda. Cafodd ei nofel gyntaf In and Out of the Goldfish Bowl (Parthian, 2000) ei gynnwys ar restr Orange Futures List yn 2002. Yn 2006 enillodd ei chasgliad ffuglen fer Fresh Apples (Parthian, 2005) Wobr Dylan Thomas. Enillodd ei hail gyfrol o ffuglen fer Cosmic Latte (Parthian, 2013) wobr Edge Hill Prize Readers Award yn 2014. Mae ei drama diweddaraf ‘Cotton Fingers’ wedi bod ar daith yn Iwerddon a Chymru, ac enillodd Wobr Summerhall Lustrum yng Ngŵyl yr Edinburgh Fringe yn 2019. Easy Meat (Parthian, 2021) yw ei nofel diweddaraf.

Instagram: @racheltrezise

Cau
Taz Rahman
Yn mentora: Freya Blyth

Cyhoeddodd Taz Rahman ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth East of the Sun, West of the Moon gyda gwasg Seren yn 2024, gan gyrraedd rhestr hir y Laurel Prize. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Farddoniaeth Jerwood y Royal Society of Literature yn yr un flwyddyn. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Ysgrifennu Creadigol Aesthetica yn 2022 ac mae ei waith wedi ei gyhoeddi’n eang mewn cylchgronau a blodeugerddi yn y DU.

Mae’n gadeirydd pwyllgor y cylchgrawn barddoniaeth Poetry Wales, ac yn olygydd y cylchgrawn Modron, sy’n ymwneud â thema’r argyfwng hinsawdd. Mae’n gyfarwyddwr Seren Books, ac yn ogystal yn gweithredu fel ffrind beirniadol ar faterion amrywiaeth a chynhwysiad ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru. Fe greodd y sianel Youtube arobryn ‘Just Another Poet’ yn 2019, er mwyn cynyddu hygyrchedd digidol at feirdd a barddoniaeth gyfredol.

Fe’i ddetholwyd ar gyfer rownd cyntaf Cynrychioli Cymru, rhaglen datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2021, ac fe’i detholwyd ar gyfer rhaglen Awduron Wrth Eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2023.

Gwefan: www.tazrahmanpoet.com

Instagram: @tazphotopoetry
X: @amonochromdream

Cau
Vanessa Kisuule
Yn mentora: Krystal S. Lowe

Llun: Katherine Barnes

Mae Vanessa Kisuule yn awdur, perfformiwr a hwylusydd sy’n byw ym Mryste. Mae wedi ennill dros ddeg o wobrau perfformio barddoniaeth, ac wedi perfformio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae wedi gweithio gyda’r BBC, y British Library, y Tate, Royal Academy of Arts, Bristol Old Vic, CILIP a Gŵyl Glastonbury. Hi oedd Bardd Dinas Bryste yn 2018-2019. Mae ei cherdd ‘Hollow’ ynglŷn â disodli cofeb Edward Colston wedi ei wylio mwy na 700,000 o weithiau, ac fe’i defnyddir fel adnodd mewn ysgolion a phrifysgolion. Hi oedd awdur a chyflwynydd The Poetry Detective ar gyfer BBC Radio 4, ac mae ganddi ddau gasgliad wedi eu cyhoeddi gan Burning Eye Books. Mae ei cherddi wedi eu cynnwys mewn ystod eang o flodeugerddi, yn cynnwys y Forward Poetry Prize Anthology 2019. Mae hi’n gyd-diwtor ar gyfer y Southbank New Poets Collective ar y cyd â Will Harris, a bu’n feirniad ar gyfer y Forward Prizes a’r Foyle Young Poets yn 2024. Yn 2024 cyhoeddodd ei gwaith ffeithiol cyntaf, Neverland gyda gwasg Canongate Books.

Gwefan: https://www.vanessakisuule.com/
Instagram: @vanessa_kisuules_evil_twin

Cau
Zoë Brigley Thompson
Yn mentora: Rhiannon Fielder-Hobbs

Llun: Kate Sweeney

Mae Dr. Zoë Brigley yn fardd, ysgrifwr, golygydd, a churadur. Mae’n Gymraes-Americanaidd, ac mae ei gwaith yn cwmpasu barddoniaeth, cyfieithu, gwaith ffeithiol a chelf aml-ddisgyblaeth. Mae ei tri chasgliad o farddoniaeth Hand & Skull, Conquest, a The Secret wedi eu cyhoeddi gan  Bloodaxe, a’r tair cyfrol wedi eu henwi yn Argymhellion yr UK Poetry Book Society. Derbyniodd Wobr Eric Gregory ar gyfer beirdd nodedig o dan 30, cyrhaeddodd rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a derbyniodd ganmoliaeth gan y Forward Prizes. Yn 2024 fe’i detholwyd ar gyfer rhaglen Awduron Wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli er mwyn datblygu ei ffuglen, yn dilyn cyhoeddi ei stori fer gyntaf yn Waxwing. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau’n cynnwys Australian Book Review, Chicago Review, Copper Nickel, Gulf Coast, Poetry Ireland Review, Orion, Poetry Review, PN Review, Women’s Studies Quarterly, Copper Nickel, a Waxwing. Mae ei chyfrol ffeithiol, Notes from a Swing State: Writing from Wales and America (Parthian 2019), yn archwilio ei hunaniaeth trawsiwerydd, ac yn ymwneud â themâu cenedlaetholdeb, rhywedd, perthyn a mamolaeth ar draws hinsoddau gwleidyddol amrywiol.

Gwefan: https://zoebrigley.com/
Instagram: @zbtusa

Cau