
Cylchgronnau Cymru
Nos Fawrth 2 Rhagfyr
6.00 – 7.15 pm
Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Ymunwch â rhai o olygyddion cylchgronau llenyddol Cymru ynghyd â sefydlydd platfform AM i ddysgu mwy am y cyfryngau creadigol sy’n bodoli i roi llwyfan i chi ar gyfer gwaith creadigol. Dysgwch fwy am y broses gyflwyno, a’r ffordd orau o baratoi eich gwaith i’w ystyried. Beth mae’r gwahanol olygyddion yn chwilio amdano ar hyn o bryd? Beth yw’r broses? Yn dilyn cyflwyniad byr gan bob golygydd, byddwn yn gwahodd cwestiynau gan y gynulleidfa. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys golygyddion o Folding Rock, AM, Poetry Wales a mwy. COFRESTRU
Cip ar weisg tu hwnt i Gymru
Nos Fawrth 9 Rhagfyr
6.00 – 7.00 pm
Iaith y sesiwn: Saesneg (dim gwasanaeth cyfieithu)
Yn dilyn sesiynau gan weisg Cymru yn gynharach yn y rhaglen, bydd cyfle yn y sesiwn hon i glywed gan awduron sydd wedi cyhoeddi dros y ffin ynghyd â’u golygyddion. Beth oedd cymhelliant yr awduron? Sut fath o ddiddordeb sydd gan weisg tu hwnt i Gymru mewn lleisiau a straeon o ac am Gymru? Sut mae’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yn cymharu rhwng Cymru a gweddill y byd? Yn dilyn y sgwrs bydd cyfle i’r gynulleidfa yrru cwestiynau i aelodau’r panel. COFRESTRU
Cynrychiolaeth a’n Traddodiad Barddol
Nos Fercher 14 Ionawr
7.00 – 8.00 pm
Siaradwyr: Menna Elfyn, Jo Heyde, Hammad Rind, Brennig Davies
Iaith y sesiwn: Cymraeg (dim gwasanaeth cyfieithu)
 hithau’n Hen Galan, byddwn yn dwyn ynghyd panel o feirdd i drafod ein traddodiad barddol. Yn un o’r nodweddion sy’n gwneud Cymru a’r Gymraeg yn unigryw dros y byd – bydd cyfle i ni ganu mawl i ganrifoedd o’r gynghanedd, o farddoni a llenydda. Ond bydd cyfle hefyd i ni graffu a thrafod cynrychiolaeth o fewn ein llenyddiaeth. A oes clwydi neu rwystrau sy’n atal lleisiau o bob math i ymuno â’r canon creu cerddi? Bydd cyfle i drafod menywod yn ennill Cadeiriau, Talwrn y Beirdd a Thalwrn y Gêirdd, a’r tebygrwydd rhwng canu marwnadol Cymraeg, Persieg ac Wrdw... COFRESTRU
Asiantiaid Llenyddol
Nos Fawrth 20 Ionawr
6.00 – 7.00 pm
Siaradwyr: Anwen Hooson, Cathryn Summerhayes
Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Ymunwch â dwy asiant lenyddol o Gymru yn wreiddiol, sydd bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Bydd cyfle i ddysgu mwy am rôl yr asiant llenyddol, a sut y maent yn ffitio mewn i fecanwaith cymhleth y byd cyhoeddi. Bydd Anwen a Cathryn yn rhoi gair o gyngor ar sut i ddod o hyd i’r asiant cywir, ac yn trafod eu gwaith gyda rhai o’r awduron mwyaf poblogaidd sy’n cyhoeddi ar hyn o bryd. Bydd cyfle i drafod y gwahaniaethau rhwng y bydoedd cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt a chyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau. COFRESTRU
Dathlu Enillwyr Llyfr y Flwyddyn
Nos Fawrth 3 Chwefror
6.00 – 7.00 pm
Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Ymunwch â Iola Ynyr a Carys Davies, enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025 i drafod eu cyfrolau buddugol ac i drafod effaith cipio’r brif wobr genedlaethol ar eu gyrfaoedd fel awduron. Bydd cyfle i drafod eu datblygiad a’u taith fel awduron, a holi sut mae mynd ati i ysgrifennu a chyhoeddi cyfrol sy’n haeddiannol o deitl Llyfr y Flwyddyn. Bydd hwn yn gyfle i edrych yn ôl yn ar yr haf braf, yn gyfle arall i ddathlu camp Iola a Carys, a thrafod sut all y byd ysgrifennu yng Nghymru baratoi awduron i gyrraedd uchafbwynt fel cipio gwobr o’r fath a chynrychioli llenyddiaeth ein cenedl ar fap y byd. COFRESTRU
Golwg ar Gynllun Iwerddon: Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau
Prynhawn Iau 5 Mawrth
12.00 – 1.00 pm
Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar gynllun Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon, sydd wedi bod yn helpu artistiaid i ddelio ag incwm ansicr ac i’w hatal rhag gadael y sector am resymau economaidd ers 2022. Mae’r cynllun yn cynnig taliad wythnosol o €325 i 2,000 o artistiaid a ddewiswyd ar hap. Gyda’r cynllun peilot yn dod i ben ym mis Chwefror 2026, bydd hwn yn gyfle i archwilio sut mae’r cynllun yn gweithio, yr effaith y mae wedi’i gael ar artistiaid a’r sector ddiwylliannol yn Iwerddon, ac i drafod sut fyddai cynllun tebyg yn gweithio yng Nghymru.
Bydd y panel yn cynnwys cynrychiolydd o Dîm Ymchwil Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau yn Llywodraeth Iwerddon; yr awdur Gwyddelig, Elaine Garvey, sy’n derbynnydd y cynllun; a Heledd Fychan AS. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan. COFRESTRU