Mae’r celfyddydau yn gallu bod yn llesol. Mae nifer o artistiaid wedi hyfforddi i ddefnyddio eu crefft i weithio yn ofalus gydag unigolion a grwpiau amrywiol er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol at eu iechyd a’u llesiant. Mae cyflwyno’r grefft o ysgrifennu creadigol, neu ganu, actio a chreu celf i unigolion bregus yn gallu cynnig dihangfa, dull o archwilio teimladau ac emosiynau, cyfle i gymdeithasu a llawer mwy. Ond drwy’r gwaith hwn, caiff yr artistiaid – yr hwyluswyr creadigol – yn aml eu cyflwyno i sefyllfaoedd heriol a chymhleth. Bydd y sesiwn hon yng nghwmni tri hwylusydd hynod brofiadol yn archwilio sut y gall artistiaid edrych ar ôl eu llesiant eu hunain a’i gilydd wrth gyflawni prosiectau celf er iechyd a llesiant.  

Bydd y sgwrs o ddiddordeb i unrhyw awdur neu artist sydd yn, neu â diddordeb mewn, cynnal gwaith cyfranogol. Gall hyn gynnwys weithio mewn ysgolion, yn y byd iechyd, gydag elusennau amrywiol, neu gynnal weithdai celf mewn cymunedau. 

Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd

Archebu eich lle

 

Y siaradwyr: 

Gwennan Mair Jones yw Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd. Mae’n arwain ar brosiectau cymunedol uchelgeisiol yng ngogledd-ddwyrain Cymru i sicrhau fod y theatr yn cynnig lloches a hwb i lesiant pawb sy’n ymwneud â’r lle. Ymysg rhai o’r partneriaid ar gyfer y gwaith theatr er llesiant Theatr Clwyd y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a Parkinson’s Cymru. 

Mae Patrick Jones yn fardd, ac yn awdur geiriau caneuon. Mae wedi ymroi llawer o’i yrfa i ddefnyddio ei grefft fel bardd i helpu eraill. Bu’n gweithio gyda’r Forget-me-not Chorus – prosiect fu’n sefydlu corau gyda phobl â dementia a’u teuluoedd, a bu’n fardd preswyl i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn gweithio gyda phobl sy’n dioddef o salwch meddwl, ynghyd â’r meddygon sydd yn eu trin i archwilio sut all darllen barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol fod o fudd.  

Mae Emma Smith-Barton wedi cyhoeddi nofelau i bobl ifanc gyda Penguin Random House, a cyrhaeddodd ei nofel The Million Pieces of Neena Gill (2019) restrau byrion y Waterstones Children’s Book Award, y Branford Boase Award a’r Romantic Novelist’s Association Debut Romantic Novel Award 2020. Gyda chefndir mewn addysg, mae’n brofiadol yn cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc. Yn fwy diweddar, bu’n cynnal prosiect gyda grŵp o famau yn edrych ar drawma genedigaeth a heriau mamolaeth.