Ymunwch â Bardd Plant Cymru 2023-2025 Nia Morais, a’r Children’s Laureate Wales 2023-2025 Alex Wharton ychydig wythnosau ar ôl pasio’r awenau i’w holynwyr i ddathlu dwy flynedd brysur o ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth. O gynnal gweithdai digidol gyda phobl ifanc ym Mhalesteina, i gerdded arfordir Môn yn ymweld ag ysgolion ar hyd y ffordd, bydd sawl stori gan y ddau fardd i’w rhannu. Cawn hefyd o bosib gyfle i holi am y stori enwog honno – sut ar wyneb y ddaear y glaniodd cerdd gan Alex garped coch y Met Gala yn 2024, wedi ei wnïo tu mewn i siaced Lewis Hamilton? Ymunwch â ni i ddiolch i Nia ac Alex, i ddathlu eu llwyddiannau, ac i ddysgu mwy am y rhyfeddod a’r hud o gyflwyno geiriau a barddoniaeth i blant o bob oed. Bydd cyfle i ddysgu mwy am y gwaith o fynd â llenyddiaeth i ysgolion, a datblygu eich sgiliau fel hwyluswyr ysgrifennu creadigol. 

Mae Nia Morais yn fardd, dramodydd ac awdur. Aeth ei drama lawn gyntaf Imrie, a gynhyrchwyd ar y cyd gan Frân Wen a Theatr Sherman, ar daith o gwmpas Cymru dros haf 2023. Yn 2023 cyhoeddodd Betty – Bywyd Penderfynol Betty Campbell fel rhan o gyfres Enwogion o Fri Gwasg Broga, ac yn 2025 golygodd a churadodd flodeugerdd o farddoniaeth gan feirdd benywaidd, O Ffrwyth y Gangen Hon (Cyhoeddiadau Barddas). Mae hi wedi cyfieithu a chyfrannu at lawer o gyhoeddiadau i blant, pobl ifanc a darllenwyr oedolion. Mae hi’n gyn-fyfyriwr rhaglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru. 

Mae Alex Wharton yn fardd, perfformiwr a chanwr-gyfansoddwr. Mae wedi cyhoeddi tri chasgliad o farddoniaeth i blant gyda Firefly Press: Daydreams and Jellybeans (2021), Doughnuts, Thieves and Chimpanzees (2023) a oedd yn cynnwys canllaw i blant ar ysgrifennu barddoniaeth ac a enwebwyd am Fedal Carnegie am ysgrifennu 2025, a Red Sky at Night Poet’s Delight (2024). Cydweithiodd Alex â Ballet Cymru i drawsnewid Daydreams and Jellybeans yn gynhyrchiad dawns hudolus, ac mae’n hwylusydd ysgrifennu creadigol profiadol. Mae’n gyn-fyfyriwr rhaglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru. 

Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd

Archebu eich lle