Ymunwch â ni i ddathlu 20 mlynedd ers cyhoeddi casgliad o farddoniaeth arloesol Owen Sheers, Skirrid Hill, am y tro cyntaf.

Mae ‘Skirrid Hill’ wedi bod yn destun gosod ar gyfer cwrs Saesneg Safon Uwch/UG CBAC ers 2009, bedair blynedd yn unig ar ôl iddo gael ei gyhoeddi. Mae miloedd o fyfyrwyr ledled Cymru wedi ei astudio ers hynny.

Yn y digwyddiad arbennig hwn, Athro Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe Owen Sheers yn sgwrsio â Siân Collins, gan drafod y llyfr a sut mae wedi llunio ei yrfa fel bardd, dramodydd a nofelydd arobryn. Byddwn hefyd yn clywed atgofion gan bobl sydd wedi astudio ac addysgu’r llyfr.

Am y awdur…
Mae Owen Sheers yn fardd, awdur, dramodydd ac Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru ddwywaith, ac mae ei wobrau eraill yn cynnwys Gwobr Dewi Sant am Ddiwylliant, a Gwobr Farddoniaeth Wilfred Owen. Mae wedi cyhoeddi dau gasgliad o farddoniaeth, ‘The Blue Book’ a ‘Skirrid Hill’ a enillodd Wobr Somerset Maugham. Enillodd ei ddrama fydryddol, ‘Pink Mist’, a gomisiynwyd gan BBC Radio 4 ac a gyhoeddwyd gan Faber ym mis Mehefin 2013, Fedal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli a Llyfr y Flwyddyn Cymru 2014. Yn 2009, ysgrifennodd a chyflwynodd ‘A Poet’s Guide to Britain’, cyfres chwe rhan am farddoniaeth a thirwedd, ar gyfer BBC 4.

Mewn partneriaeth â Seren a Siop Lyfrau Cover to Cover
*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg