‘Ailystyried Raymond Williams’: Cymdeithaseg, Strwythur(au) Teimlo, a Gwleidyddiaeth Lle – Athro Gwadd Ymddiriedolaeth Leverhulme Black Hawk Hancock
Mae poblyddiaeth asgell dde yn tanseilio democratiaethau rhyddfrydol yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Ar ben hynny, mae gwleidyddiaeth adweithiol y cyfnod hwn yn gysylltiedig i raddau helaeth â pholisïau economaidd y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae newidiadau systemig mewn cyflogaeth a chyflogau wedi creu ansicrwydd economaidd-gymdeithasol, tra mae mudo byd-eang wedi ansefydlogi cysyniadau traddodiadol o hunaniaeth genedlaethol. Mae Raymond Williams yn siarad yn uniongyrchol am y materion hyn. Mae themâu cyfalafiaeth, diwydiannu a hunaniaeth genedlaethol yn llifo drwy ei waith lle cofnododd y prosesau dad-ddiwydiannu a’r ymatebion rhanbarthol i’w effeithiau. Gwnaeth ei ymagwedd at ddadansoddi diwylliannol bwysleisio sut mae gan deimlo—yr ystyr, y gwerthoedd a’r arferion sy’n cael eu byw a’u teimlo gan y rhai hynny sy’n gysylltiedig â hwy—strwythur sy’n tynnu profiadau cymdeithasol pobl ynghyd ac yn eu mynegi yn nhermau safbwyntiau a mynegiant a rennir sy’n cael eu hamlygu mewn “strwythur(au) teimlo.” O’r fan hon, damcaniaethodd y mathau o “fywoliaeth,” “bondio,” a “gwleidyddiaeth lle” yr oedd eu hangen fel strategaethau ar gyfer meithrin “cymunedau sy’n dal” gyda’i gilydd yn wyneb bydoedd cymdeithasol afreolus a gwleidyddiaeth bywyd pob dydd. Felly mae’n ddefnyddiol ailystyried gwaith Williams, a’r hyn sydd ganddo i’w ddweud am y foment bresennol a sut gallem fynd i’r afael â’r argyfwng democratiaeth yr ydym bellach yn ei wynebu.
Am y siaradwr…
Mae Black Hawk Hancock yn Athro Gwadd Ymddiriedolaeth Leverhulme. Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddiwylliant, damcaniaeth, a methodoleg ansoddol. Ef yw awdur yr ethnograffeg ‘American Allegory’: Lindy Hop and the Racial Imagination (University of Chicago Press). Mae hefyd wedi ysgrifennu cyflwyniadau newydd i ail argraffiadau llyfrau John Fiske, sef ‘Power Plays, Power Works’ (Routledge) a ‘Media Matters’ (Routledge). Mae ei erthyglau’n cynnwys damcaniaethwyr amrywiol megis Michel Foucault, Judith Butler, Erving Goffman, Jean Baudrillard, Jaques Derrida a Georg Simmel, ymhlith eraill. Ei lyfr diweddaraf, a ysgrifennwyd ar y cyd â Roberta Garner, yw ‘Change and Disruption’: Sociology of the Future (Routledge).
*Sylwch: Cyflwynir y digwyddiad yn Saesneg