Cylch Llenyddol Llŷn: Esyllt Maelor yn holi Gwenllian Ellis
Dewch draw i Neuadd Dwyfor Pwllheli ar nos Wener 7 Tachwedd, ble fydd Esyllt Maelor yn holi’r awdures Gwenllian Ellis am ei gwaith diweddar!
Daw Gwenllian Ellis yn wreiddiol o Bwllheli ond mae hi bellach yn byw yn Llundain. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Sgen I’m Syniad: Snogs, Secs, Sens yn 2022 gan Y Lolfa ac enillodd y gyfrol wobr Barn y Bobl yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn, 2023. Mae hi eisoes wedi cyhoeddi ei gwaith yng nghylchgronau Cara a Barddas, ar raglen Hansh ar S4C, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol a chwmni theatr Frân Wen. Mae hi hefyd newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf mor hapus nol ym mis Hydref 2025.
£5.00 mynediad
Dewch yn llu!