Dafydd Elis-Thomas: Nation Builder – Aled Eirug mewn sgwrs gyda Daniel Williams

Roedd Dafydd Elis-Thomas, Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy, yn un o ffigurau cyhoeddus mwyaf blaenllaw Cymru yn yr hanner can mlynedd diwethaf. Ar ôl iddo farw yn 2025 cafodd ei ddisgrifio fel ‘cawr go iawn’ a ‘sefydlwr’ datganoli yng Nghymru. Roedd yn gymeriad dadleuol a deniadol, ac mae’r cofiant hwn yn bortread o’i fywyd a’i waith. Cai ei adnabod fel rhywun a dorrai ei gwys ei hun, ’acrobat deallusol’ a ‘chamelion gwleidyddol’, cafodd Elis-Thomas ei alw’n ‘derfysgwr’ am ei ymyriadau yng Ngogledd Iwerddon ac yn ‘fradwr’ am ei safbwyntiau gwrthwynebus tuag at genedlaetholdeb. Er gwaethaf gyrfa a oedd yn aml yn nodedig am ysgogi dadleuon ac am angerdd di-ofn, roedd ei weledigaeth unigryw a’i ddyfalbarhad yn allweddol i greu senedd ddeddfwriaethol gyntaf Cymru.

Am y awdwr…
Mae Aled Eurig yn newyddiadur ac yn ddarlledwr. Bu gynt yn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Wales ac yn gynghorydd cyfansoddiadol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

*Sylwch: Cyflwynir y digwyddiad yn Saesneg