Just so we’re clear, she said, I know the rules of confession. What I say cannot be repeated. Not to anyone...

Pan adawodd Mack O’Brien ei gartref ym Mhort Talbot i fynd i goleg offeiriadol yn ei arddegau, nid oedd yn dychmygu y byddai yn ôl ddegawd yn ddiweddarach, heb ei ordeinio ac yn ansicr o hyd am yr hyn sy’n gyfystyr â bywyd moesol. Mae’n derbyn swydd fel gard diogelwch yn y gwaith dur lleol ac yn dechrau’r broses anodd o bontio i’r byd roedd wedi’i wrthod gynt. Pan fo dynion y gwaith dur yn trefnu streic ddigynsail i brotestio yn erbyn toriadau swyddi, nid yw’n gweld rheswm dros beidio ag ymuno â nhw.

Y person olaf mae Mack yn disgwyl ei weld yn y clwb lleol yw Siwan Roderick – y fenyw a ymddangosodd yn annisgwyl un diwrnod yn y coleg offeiriadol i wneud ei chyffes a’i roi e ar ei lw i gadw cyfrinach. Gwnaeth Mack gadw at ei air. Ond wrth i ddiwrnod y streic agosáu, ac wrth iddo ddechrau deall yn llwyr yr hyn y mae Siwan yn ei gynllunio, mae Mack yn cael ei orfodi i gwestiynu ei ffyddlondeb iddi a holi a oes modd cyfiawnhau gweithred o drais byth.

Am y awdwr…
Mae Jon Doyle yn awdur sy’n byw ym Mhort Talbot, de Cymru. Bu’n rhan o gynllun Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yn 2022/23, ac enillodd Wobr Awduron ac Artistiaid Dosbarth Gweithiol 2023. Mae ganddo raddau BSc ac MRes mewn Sŵoleg ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd, a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae ei waith wedi ymddangos yn ‘Short Fiction,’ ‘Hobart,’ ‘Ploughshares Online,’ ‘The Rumpus,’ ‘3:AM Magazine,’ ‘Critique: Studies in Contemporary Fiction’ yn ogystal â lleoedd eraill. Cafodd ei enwi ymhlith nofelwyr newydd y flwyddyn 2026 gan ‘The Observer.’ ‘Communion’ yw ei nofel gyntaf.

Mewn partneriaeth ag Siop Lyfrau Cover to Cover a Atlantic Books
*Sylwch: Cyflwynir y digwyddiad yn Saesneg