Wedi’i ysbrydoli gan y gair Cymraeg ‘coleddu’ sy’n golygu trysori, meithrin twf a chyfeillgarwch, bydd Hywel yn cynnal sgyrsiau a gweithdai creadigol gyda’r rhai sy’n rheoli, astudio, neu ymgysylltu â’r afon. Bydd mewnwelediadau o’r cyfarfyddiadau hyn yn llywio gweithdai ysgrifennu ysgolion a chymunedol, gan arwain at waith llenyddol hybrid sy’n cyfuno barddoniaeth, rhyddiaith, delwedd, sain a ffilm. Mae Hywel yn bwriadu archwilio sut y gall llenyddiaeth roi llais i bobl ac ecosystem ehangach yr afon.
Adnabod yr Awdur

Mae Hywel Griffiths yn fardd, daearyddwr ac awdur sy’n gweithio fel darlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi cyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth, gyda’i gyfrol ddiweddaraf, Y Traeth O Dan y Stryd (Cyhoeddiadau Barddas, 2023), yn cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Mae Hywel wedi ennill sawl gwobr lenyddol gan gynnwys Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008, y Gadair yn 2015 a Chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2018 am ei lyfr Llif Coch Awst (Cyhoeddiadau Barddas, 2017). Mae tirwedd a pherthynas pobl â lle yn themâu canolog yn ei waith. Mae ei ymchwil academaidd yn canolbwyntio ar geomorffoleg afonydd ac arfordiroedd, llifogydd, rheoli amgylcheddol a dulliau amgen o gyfathrebu gwyddoniaeth. Mae Hywel hefyd yn ymddiddori’n arbennig mewn dulliau cydweithredol, gan ymgysylltu gwyddonwyr, awduron ac artistiaid i archwilio heriau amgylcheddol cyfoes.


