Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2026

Cyhoeddwyd Sul 10 Mai 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2026
Gyda’r haf ar droed, mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto… mae hi’n amser cyhoeddi’r 12 llyfr sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2026. 

Heddiw, dydd Sul 10 Mai, datgelwyd y Rhestr Gymraeg gan feirniaid y wobr, Ifor ap GlynGwenno FfranconDafydd Lennon a Sioned Puw Rowlands, ar raglen arbennig Llyfr y Flwyddyn 2026 ar BBC Radio Cymru, dan arweiniad y cyflwynydd Nest Jenkins. Ymunodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, â’r tîm ar y darllediad. Yn nes ymlaen yn y prynhawn, cyhoeddwyd y Rhestr Fer Saesneg gyda Claire ac un o’r beirniad  ar y panel Saesneg eleni,  Shirish Kulkari, yn trin a thrafod ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales.

Bob blwyddyn, mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu awduron talentog o Gymru sy’n rhagori mewn amrywiaeth o ffurfiau llenyddol. Ceir pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phlant a Phobl Ifanc – gyda’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i gystadlu am y Brif Wobr a theitl Llyfr y Flwyddyn. Mae’r Rhestr Fer yn cynnwys deuddeg llyfr yn y Gymraeg a deuddeg yn Saesneg, gyda thri llyfr ym mhob categori.

 

Y Rhestr Fer Gymraeg

Ymhlith y Rhestr Fer eleni ceir Prifeirdd, cyn-enillwyr y wobr, yn ogystal ag awduron sy’n cyhoeddi am y tro cyntaf neu’n mentro â ffurf newydd. Mae nifer o’r cyfrolau’n ymdrin â themâu o gyfiawnder a pherthyn, gan gynnig archwiliadau dwys o brofiadau bywyd, hunaniaeth a hanes, ynghyd â’r awgrym y gallwn gamu ymlaen i’r dyfodol â gobaith trwy ddysgu a deall ein hanes.

 

Gwobr Ffuglen – Noddir gan Cyfrifwyr HSJ
Dau, Bethan Nantcyll (Gwasg y Bwthyn)

Hiraeth Neifion, Simon Chandler (Gwasg Carreg Gwalch)

Tri, Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)

 

Gwobr Farddoniaeth – Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd
Trochi – Cerddi Carwyn Eckley, Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae, Mererid Hopwood (Cyhoeddiadau Barddas)

Chwarter Eiliad, Jo Heyde (Cyhoeddiadau Barddas)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol – Noddir gan Stori Cymru
Lobsgows – Cariad y Cymry at Fwyd, Ruth Richards (Gwasg Carreg Gwalch)

Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau ‘Atgof’ Prosser Rhys , Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)

Ynysoedd Gobaith – Mentrau a Syniadau Iwtopaidd yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif, Llion Wigley (Gwasg Prifysgol Cymru)

 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc – Cefnogir gan Gronfa Elw Park-Jones
Anfarwol, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Gerwyn Gwrthoda’r Llyfr Does Neb yn Cael Ei Ddarllen, Siôn Tomos Owen (Atebol)

Y Cae Ras, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Y Panel Beirniadu

Bob blwyddyn, mae Llenyddiaeth Cymru yn penodi panel o feirniaid talentog a phrofiadol i ddarllen, dewis a dethol y Rhestrau Byrion ac yna dewis eu henillwyr categori. Mae Ifor ap Glyn yn Brifardd, awdur, ac ef yw cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru. Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a’i Diwylliant ym Mhrifysgol Abertawe yw Yr Athro Gwenno Ffrancon, lle mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros sicrhau bod y Gymraeg, diwylliant a threftadaeth yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd y brifysgol. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi y Brifysgol a Rheolwr Tŷ’r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe.

Mae Dr Sioned Puw Rowlands yn awdur, golygydd ac ysgolhaig o Aberystwyth. Mae Dafydd Lennon yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd Cyw ar S4C. Mae hefyd yn ymarferydd drama, a chanddo brofiad o ddysgu plant 4-11 oed.

Ar ran y panel Cymraeg, dywedodd Yr Athro Gwenno Ffrancon: 
“Bu’n fwynhad pur darllen y gweithiau ffuglen Cymraeg a gyhoeddwyd eleni a phwyso a mesur yr amrywiaeth eang o gyfrolau a ddaeth i law. Gyda’r byd yn gwallgofi bron yn ddyddiol, roedd hi’n hyfryd cael dianc i fydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd a mwynhau doniau a ffrwyth dychymyg yr awduron.”

Dywedodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru
“Llongyfarchiadau mawr i’r awduron ar y rhestr fer eleni. Bu’n flwyddyn ragorol arall i lenyddiaeth Gymraeg a Chymreig, sy’n cael ei adlewyrchu nid yn unig yn y rhestr anhygoel hon, ond hefyd o edrych ar yr holl lyfrau gwych a gyhoeddwyd dros y flwyddyn diwethaf. Mae’n rhaid fod y beirniaid wedi cael cyfnodau dwys iawn o grafu pen! Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ddarganfod eu dewisiadau, ac yn cael mwynhad mawr yn y cyfnod rhwng cyhoeddi’r Rhestr Fer a’r seremoni wobrwyo – amser i ddarllen, trafod a dathlu. Ewch draw i’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol, darganfyddwch y llyfrau rhyfeddol hyn, ac ymunwch â’r sgwrs: beth yw eich Llyfr y Flwyddyn chi yn 2026?”

Y Rhestr Fer Saesneg

Gwobr Farddoniaeth – cefnogir ganParry Davies Clwyd-Jones & Lloyd
Hôtel Amour, Deryn Rees-Jones (Seren Books)
The Storm’s Flora, Laura Wainwright (Seren Books)
Fourth &Walnut, Jeremy Over (Carcanet Press)

 

Gwobr Ffuglen  – Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Pulse, Cynan Jones (Granta Publications)
Cold Grace, Meredith Miller (Honno Press)
A Room Above A Shop, Anthony Shapland (Granta Publications)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol 
One Woman Walks Europe, Ursula Martin (Honno Press)
Children of Radium: A Buried Inheritance, Joe Dunthorne (Hamish Hamilton)
There She Goes, My Beautiful World, Gosia Buzzanca (Calon)

 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc – noddir gan Darwin Gray
Vanishing Edge, Zillah Bethell (Firefly Press)
My Dog, Olivia Wakeford (Harper Collins Children’s Books/ Harper Fire)
The Wicked Lies of Habren Faire, Anna Fiteni (Electric Monkey, HarperCollins)

 

Ar y panel beirniadu Saesneg eleni mae: y bardd, beirniad llenyddol ac Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, Zoë Skoulding; yr awdur ac enillydd prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2021, Catrin Kean; y newyddiadurwr arobryn ac ymchwilydd, Shirish Kulkarni; a Goruchwyliwr Llyfrgell Maesteg a enillodd le gwerthfawr ar Restr CILIP 125, Julie Golden.

Beth nesaf?

Caiff enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026 eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Galeri Caernarfon ar nos Iau, 9 Gorffennaf. Bydd 12 gwobr a chyfanswm o £14,000 yn cael eu rhannu ymysg yr awduron; £1,000 yr un i’r enillwyr categori a £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith. Yn ogystal, bydd yr awduron llwyddiannus yn derbyn tlysau eiconig Llyfr y Flwyddyn wedi eu dylunio yn arbennig gan yr artist, Angharad Pearce Jones.

Mae cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud unwaith eto eleni wrth i Golwg360 a Nation Cymrugynnal pleidleisiau Barn y Bobl a People’s ChoiceEwch draw i’ch siop lyfrau neu llyfrgell leol er mwyn pori drwy’r cyfrolau ar y Rhestr Fer cyn mynd ati i bleidleisio dros eich ffefryn ar eu gwefannauCaiff enillwyr y gwobrau hyn eu henwi yn y seremoni wobrwyo yn ogystal. 

Noddwyr

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod ddiolchgar i’r holl noddwyr a phartneriaid sy’n gwneud Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn bosibl bob blwyddyn. Eleni, cefnogir y gwobrau gan amrywiaeth o sefydliadau hael, gan gynnwys y prif noddwyr: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n noddi’r Brif Wobr Gymraeg, ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, noddwyr y Brif Wobr Saesneg. Mae noddwyr a chefnogwyr y categorïau eleni yn cynnwys Cyfrifyddion HSJ, sy’n noddi Gwobr Ffuglen Gymraeg; Ymddiriedolaeth Rhys Davies, sy’n cefnogi Gwobr Ffuglen Saesneg; Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd, cefnogwyr Y Wobr Farddoniaeth Gymraeg a Saesneg; Stori Cymru, noddwyr Gwobr Ffeithiol Greadigol Gymraeg; Cronfa Elw Park-Jones, sy’n cefnogi Gwobr Plant a Phobl Ifanc Gymraeg; a Darwin Gray, noddwyr Gwobr Plant a Phobl Ifanc Saesneg. Yn ogystal, hoffem ddiolch i’n noddwyr mewn nwyddau a gwasanaethau ar gyfer y seremoni wobrwyo, Cwrw Llŷn a Catra, am eu cefnogaeth hael.

I ddarganfod rhagor am y cyfrolau ar y Rhestr Fer a’r awduron a’u ysgrifennodd, ewch i www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn.

I ddarllen rhagor am y noddwyr a’r partneriaid, ewch draw iNoddwyr Llyfr y Flwyddyn – Llenyddiaeth Cymru.

Dilynwch ni ar Instagram: @llyfr_y_flwyddyn_wbotyi fod ymhlith y  cyntaf i glywed cyhoeddiadau a diweddariadau ar brosiect Llyfr y Flwyddyn.