Pan o’n i’n ifanc
roedd twll yn yr awyr yn tyfu
yn yr haen O-zone,
pelydrau UV peryglus yr haul
yn cynyddu’r effaith Tŷ Gwydr
ac yn araf gynhesu ein byd,
drwy nwyon CFC
o chwistrelliad aroglus o dan ein ceseiliau.
Ond diolch i brotocol Montreal
daeth, yn llythrennol,
a bob gwlad at ei gilydd
i wella’r sefyllfa
a bellach mae’r twll yn lleihau.
Doedd neb ar y pryd yn credu
bod gwybodaeth wahanol
neu “ffeithiau amgen”
yn gallu ’neud y sefyllfa yn haws i’w llyncu.
Hwn oedd y cam cyntaf byd eang,
dechrau ein gorymdaith tua’r gobaith
taw gwyddoniaeth yw’r arf
yn erbyn artaith ecolegol
gan gwmnïau mawr y presennol
sy’n aberthu ein dyfodol
am bocedi llawn
’neith suddo pawb
i fewn i’r llanw sy’n codi.
O le daw barel olew olaf y byd?
A pryd wnawn ni ’neud y newid
yn lle gwrando ar addewidion gwag
y miliwnyddion
bysa’n achosi dinasyddion
i ddisgyn i ddyled a thlodi,
yn gorfodi dewis rhwng
troi mlaen y rheiddiadur
neu gau’r llenni
tra bod y teledu
yn dangos bod wastad arian
i fomio tai pobl eraill
mewn gwledydd poeth
yn bell, bell i ffwrdd.
Gall eich gorwelion chi
fod llawer fwy llachar
na’r llwydni sy’n lledaenu
o eiriau gwleidyddion gwarthus y gorffennol.
cyn bo hir fyddech chi hefyd
‘di cael llond bol
o bob troad bedol
ar ôl eich pleidlais.
Felly codwch eich llais!
Ciciwch, carlamwch
cyn i ddrws y stabl gau,
cyn i’r siawns i newid lleihau,
cyn i frigyn y goeden olewydden
droi’n frau.
Mae’n rhaid i Ni
rhoi’r gobaith yna i chi,
Gen Alpha, Gen Z,
atseiniwch y neges
a pheidiwch gadael neb ddweud
eich bod chi methu
chwistrellu’r egni amgen yna
i mewn i’ch gorwelion,
i’ch galluogi chi
i dywynnu’n fwy disglair
na fflam unrhyw danwydd.
– Siôn Tomos Owen