Fyfyrwyr!
Â’ch traed mewn cyffion,
Taflwch eich llyfrau
dros furiau Cantre’r Gwaelod,
i ddyfroedd Llyn Llymru a Llyn Du!
Llosgwch lyfrau T Llew mewn tân ar y comin,
eu claddu dan gadarn goncrit,
a stwffiwch Sali Mali i mewn i sach
gyda Siwan, Ifan Bifan a Wil Cwac Cwac!
Yn 2026, i greu stori,
does dim angen dychymyg,
dim ond is-deitlau algorythmig
yn dyfynnu awdur artiffisial
yn llais Morgan Freeman
ar TikTok
cyn dychwelyd i’n poced.
Pwy sydd am glywed stori
mewn llais sain-felys seinydd clyfar?
“I couldn’t find Lover Glas Neebow
by Man On Steven Ross…
but here is Puppy Love by L’il Bow Wow…”
Dynoliaeth ddaw â llun a lliw
cymeriadau yn fyw,
cwmpeini rheini
wedi eu geni o greadigrwydd,
stori sydyn,
nofel newydd,
perl o gerdd,
Môr a mynydd,
tywydd a theimladau,
Dinasoedd a phentrefi,
arbrofi gyda ddoe a heddi,
gogoniant a budreddi bywydau,
hadau syniadau sy’n datblygu
dros wythnosau lu
nid chwarter eiliad.
Nid awdur yw ChatGPT,
Ond plisgyn heb sylwedd.
Tân heb wres,
Derwen heb fes,
Drwm heb guriad,
Calon heb gariad.
Does dim byd digidol
yn gallu clywed sŵn y gwynt
mewn breuddwyd,
does dim blas ar gigabyte,
neu arogl ar algorythm.
Dylsen ni ddim
moesymgrymu o flaen meddalwedd
sy’n morio sgwennu’r gorffennol.
Bygythiad yw byddin o bots yn copïo
a chasglu paill awduron eraill
i flodeuo tusw o eiriau cyflym
wedi cwpla mewn un clic.
Felly,
Tra bo llyfrau dal i fod,
A’r sgwennu heb fennu,
Cyn i fwy o ystadegau ddisgyn
fel deigryn llyfrgellydd
cofiwch,
mae pobol dal yn hoffi stori,
felly ffeindiwch un
i ddarllen heddi
cyn i ni golli nhw yfory.