Dewislen
English
Cysylltwch

Barddoniaeth Bob Dydd: Cymhwysedd a Chwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys i wneud cais am y cyfle hwn?

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru.

Mae’n rhaid i chi allu ymrwymo’n llawn i fynychu’r cwrs cyfan yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o 5.00pm ddydd Llun 23 Tachwedd – 10.00am ddydd Gwener 27 Tachwedd 2026.

Ar gyfer y cwrs hwn, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd heb gynrychiolaeth deg yn ein cymdeithas ac o fewn y byd barddoniaeth a chyhoeddi yng Nghymru. Gellir defnyddio’r rhestr ganlynol fel canllaw, er y byddwn yn eich gwahodd i egluro yn eich geiriau eich hun pam eich bod yn gwneud cais am y cyfle hwn:

  • Perthyn i gymunedau Sipsiwn, Roma a/neu Deithwyr
  • O gefndir incwm isel (Mae ein meini prawf ar gyfer cefndir incwm isel yn cynnwys unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau (gan gynnwys lwfansau anabledd) pan oedd yr ymgeiswyr yn 14 oed.)
  • Byddar a/neu drwm eu clyw
  • LHDTC+
  • Niwroamrywiol – mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, Dyspracsia, Syndrom Tourette ac OCD
  • Pobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig
  • Ffoaduriaid a/neu Ceiswyr Lloches

Unigolion sy’n byw gydag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor, h.y. wedi parhau neu y disgwylir i barhau am o leiaf 12 mis ac yn cael effaith andwyol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Ym mha iaith y bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno?

Bydd y rhaglen lawn o weithdai a sgyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg, gyda nifer o sesiynau yn y Gymraeg. Mae’r tiwtor Meleri Davies yn siaradwr Cymraeg rhugl a bydd yn gallu cefnogi awduron sy’n gweithio yn y Gymraeg. O’r herwydd, bydd y cwrs hwn yn darparu ar gyfer awduron sy’n ysgrifennu yn Saesneg, yn y Gymraeg, yn ddwyieithog, neu sy’n ystyried ysgrifennu yn y Gymraeg ac yn edrych i ddatblygu hyder.

A oes angen profiad arnaf i ymgeisio? Neu ydw i'n rhy brofiadol?

Rydym yn chwilio’n bennaf am awduron sy’n dod i’r amlwg ac yng nghanol eu gyrfa sydd â photensial.

Beth mae awduron sy'n dod i'r amlwg ac awduron yng nghanol eu gyrfa yn ei olygu?

Efallai bod egin awduron wedi cael cerddi unigol wedi’u cyhoeddi mewn blodeugerddi, gylchgronau, neu gystadlaethau. Efallai bod awduron yng nghanol eu gyrfa wedi cael un cyhoeddiad annibynnol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron sydd wedi cael eu cyhoeddi mewn genre arall ac a hoffai archwilio ysgrifennu barddoniaeth. Rydym yn sylweddoli nad yw hwn yn ddisgrifiad cynhwysfawr o ble y gallech fod ar eich taith ysgrifennu bresennol.

Os nad ydych yn siŵr ai dyma’r cwrs cywir i chi, cysylltwch â ni i drafod. 

Rydym yn sylweddoli nad yw hwn yn ddisgrifiad cynhwysfawr o ble y gallech fod ar eich taith ysgrifennu bresennol. Os ydych yn ansicr a mai hwn yw’r cwrs iawn i chi, cysylltwch i drafod.

Beth sydd yn y ffurflen gais?

Gofynnir i chi ateb tri chwestiwn sy’n canolbwyntio ar:

  • Eich profiad ysgrifennu
  • Eich uchelgeisiau ysgrifennu
  • Pam mae’r cwrs hwn yn addas i chi

Bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno hyd at dair cerdd neu recordiad fideo o’ch gwaith creadigol hyd at ddau funud o hyd.

Gwnewch gais ar-lein. Neu mae fersiynau Dyslecsia a Print Bras o’r ffurflen gais i’w gweld ar dudalen Barddoniaeth Bob Dydd.

Cyn cynnig lle ar gwrs, gall Llenyddiaeth Cymru ofyn am gael cyfarfod ag ymgeiswyr i drafod eu cais a’u gwaith creadigol yn fwy manwl.

Pa genre alla i ei gyflwyno?

Dim ond barddoniaeth (ysgrifenedig a llafar) sy’n gymwys ar gyfer y cwrs hwn. Nid yw sgriptiau, ffuglen, ffeithiol greadigol, ysgrifennu i blant a phobl ifanc, a chomics yn gymwys.

Os ydych chi’n ansicr a yw eich gwaith creadigol yn gymwys, cysylltwch i drafod.

A oes cost ar gyfer y cwrs hwn?

Na. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau yn Nhŷ Newydd angen ffi i’w mynychu, ond cynigir rhywfaint o’n gweithgarwch mwy strategol yn rhad ac am ddim i unigolion drwy broses ymgeisio gystadleuol. Darperir llety ac arlwyo drwy gydol yr wythnos. Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried costau teithio i’r ganolfan ac oddi yno. Os yw hyn yn mynd i fod yn rhwystr i fynychu, byddwn yn eich gwahodd i gysylltu â ni i drafod cyn i’r cwrs ddechrau.

A allwch chi roi rhagor o wybodaeth ymarferol i mi am y Ganolfan a'm hymweliad?

Wedi’i leoli yng Ngwynedd, mae Tŷ Newydd wedi’i leoli rhwng y môr a’r mynyddoedd – llai na deng munud mewn car o Barc Cenedlaethol Eryri a Phen Llŷn sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol swyddogol. Gallwch ddysgu mwy am Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd, ar ein gwefan. Yma gallwch bori trwy luniau a blogiau a ysgrifennwyd gan gyfranogwyr blaenorol.

Ar gyfer y cwrs hwn, gwahoddir yr awduron i gyrraedd rhwng 2.00 pm a 5.00 pm ddydd Llun 23 Tachwedd 2026, a bydd y cwrs yn dod i ben ar ôl brecwast, tua 10.00am, ddydd Gwener 27 Tachwedd. Edrychwch ar ein gwefan am wybodaeth teithio. Gallwn helpu gyda theithio o orsafoedd trenau (Cricieth neu Fangor) – a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth am deithio’n agosach at yr amser.

Bydd yr ysgrifenwyr yn cael ystafell wely yr un. Mae rhai ystafelloedd gwely yn ensuites, ac mae gan eraill ystafelloedd ymolchi a rennir. Bydd ystafelloedd gwely yn cael eu dyrannu ar hap, ac eithrio ystafelloedd gwely hygyrch.

Bydd yr holl brydau bwyd yn cael eu darparu i chi gan ein cogydd preswyl, gan gynnwys brecwast hunan-wasanaeth, cinio bwffe, pryd nos gyda phwdin, a byrbrydau cartref. Gallwn ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o ofynion dietegol ac alergeddau bwyd.

Gobeithiwn y cewch ddigon o amser rhydd i fwynhau’r ardal a’r ganolfan ysgrifennu. Ond gofynnwn yn garedig i chi fynychu’r holl weithgareddau a drefnir fel rhan o’r cwrs. Bydd amserlen fanwl yn cael ei darparu.

Beth fydd yn digwydd yn ystod y cwrs ei hun?

Bydd amserlen fanwl o weithgaredd yn cael ei rhannu gyda chi cyn i’r cwrs ddechrau. Bydd yr wythnos yn cynnwys:

  • gweithdai grŵp
  • trafodaethau grŵp
  • sgyrsiau gan arbenigwyr y diwydiant
  • sgyrsiau un-i-un gyda’r tiwtoriaid
  • amser rhydd i rwydweithio, cymdeithasu a mwynhau’r ardal leol
  • a digwyddiad dathlu olaf yn cynnwys perfformiadau gennych chi, y garfan, o waith a ddatblygwyd yn ystod yr wythnos
Mae gen i anabledd neu salwch a allai ei gwneud hi'n anodd cymryd rhan, allwch chi helpu?

Rydym yma i helpu. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw anghenion, gofynion a phryderon mynediad cyn ac yn ystod y cwrs. I unigolion mewn cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd, mae gennym ystafell wely hygyrch, a gallwn groesawu cynorthwyydd personol. Cysylltwch â ni i drafod hygyrchedd. Bydd pob awdur llwyddiannus yn cael ei wahodd i anfon dogfen gofynion hygyrchedd, neu’n cael cefnogaeth i greu un, os oes angen. Am ragor o wybodaeth am fynediad yn Nhŷ Newydd, ewch i’n gwefan.

Pryd fydda i’n clywed a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad erbyn canol mis Hydref 2026.

Os na fyddaf yn llwyddiannus, a fyddaf yn derbyn adborth?

Gan ein bod yn disgwyl nifer uchel o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu darparu adborth manwl ar gyfer pob ymgeisydd. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i ddarparu adborth byr, personol i bob ymgeisydd a lle bo’n berthnasol, rhoi cyngor ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid.

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch lles. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cwrs ddod i ben?

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn natblygiad yr awduron a’r perfformwyr ar ôl i’r cwrs ddod i ben.  Bydd staff yn parhau i gysylltu â’r grŵp, ac yn rhannu cyfleoedd pan fyddant yn codi.

Defnydd o AI

Defnydd o AI

Mae Llenyddiaeth Cymru a’i banelwyr allanol yn dewis awduron ar sail potensial, nid perffeithrwydd. Rydym am ddod i’ch adnabod chi a’ch llais, felly er y gallai defnyddio offer golygu AI fod yn ddefnyddiol i gefnogi eich anghenion mynediad wrth ateb cwestiynau’r cais, ni ddylid ei ddefnyddio i greu persona na gorliwio eich profiadau. Ar gyfer eich cyflwyniad creadigol, ni ddylid defnyddio AI i gynhyrchu gwaith creadigol na gwneud golygiadau sylweddol. Bydd gofyn i ymgeiswyr gadarnhau bod eu gwaith creadigol wedi’i ysgrifennu gan fod dynol yn y cais. Mae ein rhaglenni datblygu awduron yn ddwys – bydd gofyn i awduron gyfrannu naill ai’n bersonol neu ar-lein yn ystod sesiynau ac ni fyddwch yn gallu dibynnu ar AI i gynhyrchu gwaith. Meddyliwch yn ofalus ynghylch a yw eich crefft ar y lefel gywir eto i gymryd rhan yn y cynllun hwn.

Nôl i Barddoniaeth Bob Dydd