Canu Chwarter Canrif (barddoniaeth Cylch Cadwgan 2001-2026)
Noson i nodi pen-blwydd Cylch Cadwgan (cylch llenyddol yn ardal Llantrisant, Pentyrch, yr Efailisaf a’r Creigiau) yn 25 oed.
Bydd y Prifardd Cyril Jones yn mynd ar drywydd peth o’r farddoniaeth a drafodwyd yng nghyfarfodydd y Cylch dros y chwarter canrif.