Noson agoriadol Cymdeithas Lenyddol Brynrhos yng nghwmni Iestyn Tyne, a fydd yn trafod ei lyfr am gerdd enwog Prosser Rhys. Ynddo mae’n plethu dadansoddiad llenyddol, ystyriaethau o ysgrifennu LHCTC+ yng Nghymru, sensoriaeth a rhagfarn, cwestiynau am wreiddiau a magwraeth, cynefin ac ymfudo, salwch, a deinameg gymhleth cof a hunaniaeth.