Dathliad cymunedol gwych yn dychwelyd i groesawu’r nosweithiau tywyllach! Cyhoeddi Parêd llusernau Hwlffordd 2026 gyda thema Gymreig hynafol.

Mae Celfyddydau SPAN wrth eu bodd i gyhoeddi manylion y parêd llusernau hir-ddisgwyliedig yn Hwlffordd, yn dychwelyd ddydd Gwener Hydref y 30ain o Hydref. Ymunwch â ni ar ôl machlud haul i nodi tro’r tymhorau gyda’r parêd eleni ar thema Noson Galan Gaeaf. Bydd y parêd Golau’r Gwarchodwyr Hynafol yn goleuo un o nosweithiau olaf tymor yr hydref gyda llusernau Gwarchodwyr Hynafol enfawr, wedi’u hysbrydoli gan chwedlau a llên gwerin Cymru.

Yn dathlu gŵyl hynafol Cymru Noson Galan Gaeaf – dathliad Cymreig Noswyl yr Holl Saint – mae’r orymdaith hon yn croesawu dechrau’r gaeaf ac yn dathlu cyfnod yn y tymhorau lle rydym yn dod yn nes at fyd yr ysbrydion. Mae enillwyr pleidlais y cyhoedd, Sand Palace Arts, wedi’u comisiynu i greu eu cynllun arfaethedig Amddiffynwyr Hynafol o’r Byd Naturiol. Wedi eu hysbrydoli gan straeon o’r Mabinogi a themâu Noson Galan Gaeaf, bydd dau byped enfawr yn disgleirio wrth droedio’r llwybr ar hyd carped o lusernau a grëwyd gan y gymuned. Ysbrydolir y llusern gyntaf gan y Duwiesau Cymreig Ceridwen a Rhiannon, sy’n gysylltiedig â hud, trawsnewid ac â chysylltiad â’r byd arall. Bydd yr ail byped yn portreadu Hydd Gwyn, sy’n gysylltiedig â natur wyllt ac yn negesydd sanctaidd pwerus o Annwn.

Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ein gweithdai creu llusernau cymunedol AM DDIM yn dychwelyd yn fuan! Dan arweiniad Sand Palace Arts, gall y teulu cyfan fynd i’r afael â chreu llusernau graddfa fach o lygod a gwdihŵs a fydd yn goleuo’r strydoedd gyda’r Gwarchodwyr Hynafol. Cynhelir y gweithdai cymunedol rhwng 10:30am-3:30pm yn Haverhub ar Fedi’r 26ain, Oriel VC ar Hydref y 3ydd a Neuadd Albany ar Hydref yr 17eg.Mae’r sesiynau galw heibio hyn AM DDIM, a chroesawir pobl o bob oed i ymuno. Does dim angen archebu.

Bydd y parêd ei hun yn digwydd yn Hwlffordd ar Hydref y 30ain, gan ymgynnull o 5 o’r gloch ymlaen yn barod i ddechrau o Faes Sant Tomos am 6 o’r gloch, gan orffen ym maes parcio Neuadd y Sir. Gyda’r Gwarchodwyr Hynafol enfawr yn goleuo’r ffordd ar gyfer yr orymdaith llusernau a grëwyd gan y gymuned, byddwn yn pefrio’n fordd trwy’r strydoedd i rythmau hyfryd Samba Doc. Unwaith y bydd y parêd wedi ymlwybro trwy Hwlffordd, byddwn yn croesi’r bont olaf i Faes Parcio Neuadd y Sir, lle bydd perfformiad tân o arddull syrcas gan y Pembrokeshire Fire Spinners yn dod â’n parêd ar thema Noson Galan Gaeaf i ddiweddglo trawiadol a phriodol.

Gallwch fynychu’r parêd a’r gweithdai cymunedol AM DDIM. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau llwybr, parcio a hysbysiadau traffig, gwybodaeth hygyrchedd a mwy ar wefan Celfyddydau Span, span-arts.org.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol am hygyrchedd, e-bostiwch info@span-arts.org.uk.

Ymunwch â ni i oleuo ein ffordd i’r misoedd tywyllach, ac anrhydeddu traddodiadau ein hynafiaid mewn dathliad o gymuned, diwylliant a dychweliad y gaeaf.

 

Manylion Parêd:

Dyddiad: Dydd Gwener Hydref y 30ain

Amser: 5 o’r gloch yp ymlaen. Gorymdaith yn gadael Maes Sant Tomos am 6 o’r gloch

Lleoliad: Cychwyn o Faes Sant Tomos ac yn gorffen ym Maes Parcio Neuadd y Sir, Hwlffordd.

Pris: AM DDIM

 

Manylion Gweithdai:

Pris: Mae’r gweithdai i gyd yn sesiynau galw heibio AM DDIM.

Amser: 10:30am-3:30pm

Lleoliadau a Dyddiadau:

  • Haverhub: Dydd Sadwrn Medi 26ain
  • Oriel VC: Dydd Sadwrn Hydref 3ydd
  • Neuadd Albany: Dydd Sadwrn Hydref 17eg

Am fwy o wybodaeth ewch i span-arts.org.uk. Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd os gwelwch yn dda.